Facebook Pixel

Syrfëwr triniaethau adfer

A elwir hefyd yn -

Syrfëwr adfer

Mae syrfewyr triniaethau adfer yn archwilio eiddo am ddiffygion. Maen nhw’n ymweld â safleoedd i bennu lefel unrhyw ddifrod ac yn rhoi cyngor ar y ffordd orau o’i drwsio. Maen nhw’n cwblhau adroddiadau manwl, manylebau ac arolygon adeiladau; yn nodi diffygion ac yn cynghori ar opsiynau atgyweirio, cynnal a chadw ac adfer.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn syrfëwr triniaethau adferreatments

Mae sawl ffordd o fod yn syrfëwr triniaethau adfer. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn syrfëwr triniaethau adfer i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i goleg arbenigol neu ddarparwr hyfforddiant er mwyn bod yn syrfëwr triniaethau adfer. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Gallech chi gwblhau prentisiaeth mewn crefft benodol i’ch cychwyn ar eich taith i fod yn syrfëwr triniaethau adfer, fel gosod brics neu brentisiaeth gwaith coed.

Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni syrfeo i gael profiad ar safle fel syrfëwr triniaethau adfer. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i syrfëwr triniaethau adfer mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel syrfëwr triniaethau adfer. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel syrfëwr triniaethau adfer: 

  • Sgiliau rheoli amser rhagorol
  • Sgiliau trefnu gwych
  • Gwybodaeth dechnegol gadarn
  • Gallu ysgrifennu a chyfathrebu’n glir
  • Sylw gofalus iawn i fanylion

Cymwysterau


Beth mae syrfëwr triniaethau adfer yn ei wneud?

Fel syrfëwr triniaethau adfer, byddwch yn gyfrifol am archwilio pob math o adeilad am ddiffygion. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i achos y diffyg, byddwch yn rhoi cyngor ar y ffordd orau o’i drin. Byddai hefyd gofyn i chi gysylltu â rheolwyr adeiladu a chleientiaid ar y safle ac mewn swyddfa.

Fel syrfëwr triniaethau adfer, fe allech chi fod yn: 

  • Rheoli isgontractwyr
  • Cefnogi rheolwyr safle gyda manylion technegol
  • Profi samplau o safleoedd
  • Cysylltu â gwahanol dimau
  • Cadw cofnodion manwl gywir
  • Llunio adroddiadau cynnydd rheolaidd
  • Cwblhau asesiadau risg
  • Creu cynlluniau gweithredu
  • Canfod plâu
  • Rhoi cyngor ar driniaethau addas.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel syrfëwr triniaethau adfer?

Mae’r cyflog disgwyliedig i syrfëwr triniaethau adfer yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall syrfewyr triniaethau adfer sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall uwch syrfewyr triniaethau adfer ennill £30,000 - £50,000*
  • Syrfewyr triniaethau adfer hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer syrfewyr triniaethau adfer: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gallai uwch syrfewyr triniaethau adfer symud ymlaen i reoli prosiectau. 

Gallech chi sefydlu practis preifat neu weithio fel ymgynghorydd hunangyflogedig a gosod eich cyflog eich hun.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Syrfëwr triniaethau adfer Ymweld â safleoedd a rhoi cyngor ar sut i ddatrys unrhyw ddifrod i’r eiddo. Dysg...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon SYRFËWR Mae syrfewyr yn rhoi cyngor proffesiynol ar brosiectau adeiladu ac yn gyffredino...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080