Facebook Pixel

Syrfëwr tir

A elwir hefyd yn -

Syrfëwr geomatig

Mae syrfewyr tir yn mesur ac yn mapio siâp tir. Maent yn casglu data ar gyfer prosiectau peirianneg sifil ac adeiladu fel y gellir lluniadu cynlluniau safle cywir. Fel syrfëwr, byddwch chi'n rhan o ddiwydiant cyflym, datblygedig yn dechnolegol. Fe dreulir llawer o'ch amser ar y safle, gan ddefnyddio offerynnau technegol i gofnodi'r amgylchedd.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£70000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Y nifer sy’n gyflogedig yn y DG

71,920

Sut i ddod yn syrfëwr tir

Gallwch chi ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy wneud cwrs prifysgol, cynllun hyfforddi graddedigion, neu brentisiaeth.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch chi(CSCS) i weithio ar safle adeiladu.

Y Brifysgol

Bydd angen i chi gwblhau gradd sydd wedi'i hachredu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).  Mae pynciau perthnasol yn cynnwys tirfesur, peirianneg sifil, geomateg neu wyddor gwybodaeth ddaearyddol.

Ar gyfer gradd israddedig, bydd arnoch angen:

  • 5 TGAU (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) ar radd 4 (C), neu'n uwch. neu gyfwerth
  • 2 - 3 Lefel A, neu gyfwerth.

Cynllun hyfforddi i raddedigion

Os nad yw'ch gradd gyntaf yn berthnasol i dirfesur, gallech chi wneud cwrs trosi ôl-raddedig yn y brifysgol, neu drwy gyflogwr.

Gallech hefyd ennill cymwysterau uwch trwy gynllun hyfforddi i raddedigion gan gyflogwr. Os oes gennych radd sylfaen neu ddiploma i raddedigion mewn tirfesur, gallech chi gael swydd i raddedig fel technegydd tirfesur. Yna gallech chi wneud cais am aelodaeth RICS ac astudio i fod yn syrfëwr tir cwbl gymwys.

Mae rhai pobl yn dod yn syrfewyr trwy weithio i bractis tirfesur a chwblhau cwrs dysgu o bell gyda Choleg Rheoli Ystad y Brifysgol.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni tirfesur tir yn ffordd dda i mewn i'r diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed.  Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad ar y swydd a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Gallech chi ddechrau'ch gyrfa fel technegydd tirfesur neu dechnegydd tirfesur geo-ofodol.

Mae gofynion mynediad yn amrywio, ond fel rheol bydd arnoch angen:

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol i ennill cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill hwn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.


Beth mae syrfëwr tir yn ei wneud?

Fel syrfëwr tir gallech chi:

  • Cynnal arolygon o'r amgylchedd â phrosiectau adeiladu mewn golwg
  • Gweithio mewn sectorau amrywiol, megis adeiladu, eiddo, cartograffeg (mapiau), peiriannu ac archwilio ar y môr
  • Asesu tir sydd i fod i gael ei ailddatblygu
  • Tirfesur meysydd awyr, safleoedd tirlenwi, mwyngloddiau, chwareli, systemau piblinellau a mwy
  • Rheoli a monitro prosiectau o'r dechrau i'r diwedd
  • Cynhyrchu mapiau gan ddefnyddio GPS, offerynnau tirfesur, delweddau digidol a ffotograffau lloeren
  • Dadansoddi data gan ddefnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS) a lluniadu siartiau gan ddefnyddio dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD)
  • Monitro newidiadau yn y tir yn ystod y broses adeiladu
  • Ysgrifennu adroddiadau a rhannu gwybodaeth hanfodol gyda chydweithwyr a chleientiaid
  • Gweithio mewn swyddfa, ag ymweliadau safle rheolaidd.

 



Faint allech chi ennill fel syrfëwr tir?

  • Gall syrfewyr sydd newydd gymhwyso ennill rhwng £20,000 - £25,000
  • Gall hwn godi i rhwng £25,000 - £40,000 gyda statws siartredig
  • Gall uwch syrfewyr ennill hyd at £70,000 neu fwy

Mae cyflogau'n dibynnu ar leoliad, cyflogwr a lefel gyfrifoldeb, a gall cyflogau a dewisiadau gyrfaol wella â statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swydd wag

Gwiriwch y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer syrfëwr tir/geomatig:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a dilyniant

Gallech wneud cais am statws siartredig trwy Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). Bydd hyn yn gwella'ch rhagolygon swyddi a gallech ennill cyflog uwch.

 phrofiad, gallech chi ddod yn rheolwr prosiect neu gontract, neu arbenigo mewn maes megis peirianneg ar y môr neu arolygu adeiladu.

Mae rhai syrfewyr tir yn gweithio fel ymgynghorwyr hunangyflogedig neu isgontractwyr.


Dyluniwyd y wefan gan S8080