Facebook Pixel

Syrfëwr rheoli adeiladu

A elwir hefyd yn -

Swyddog rheoli adeiladu

Mae syrfëwr rheoli adeiladu yn sicrhau bod rheoliadau adeiladu’n cael eu dilyn ar safleoedd adeiladu a phrosiectau newydd. Efallai y bydd gofyn iddynt hefyd arolygu strwythurau sydd wedi’u difrodi neu sy’n ansefydlog er mwyn penderfynu a oes modd eu hatgyweirio’n ddiogel neu a oes angen eu dymchwel.

Cyflog cyfartalog*

£22000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn syrfëwr rheoli adeiladu

Mae sawl ffordd o fod yn syrfëwr rheoli adeiladu. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

I fod yn syrfëwr rheoli adeiladu, gallech astudio ar gyfer gradd sylfaen, diploma cenedlaethol uwch (HND), neu radd israddedig mewn pwnc perthnasol.

Byddai angen i’ch cwrs gael ei achredu gan gorff proffesiynol, naill ai Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) neu Gymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu (CABE).

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg

Gallech gwblhau cwrs coleg a allai eich helpu i wneud cais am swydd dan hyfforddiant fel syrfëwr rheoli adeiladu.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech gwblhau gradd-brentisiaeth syrfëwr rheoli adeiladu i fod yn syrfëwr rheoli adeiladu. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych brofiad tebyg o swydd arall ym maes adeiladu fel mesur meintiau neu brofiad o reoli safle, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni sy'n arbenigo mewn rheoli adeiladu, neu awdurdod lleol, er mwyn cael profiad ar y safle fel syrfëwr rheoli adeiladu. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i syrfëwr rheoli adeiladu mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel syrfëwr rheoli adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel syrfëwr rheoli adeiladu: 

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sylw da i fanylion
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Trwydded yrru lawn.

Cymwysterau


Beth mae syrfëwr rheoli adeiladu yn ei wneud?

Fel syrfëwr rheoli adeiladu, chi fydd yn gyfrifol am gynorthwyo â’r gwaith o gynllunio ac adeiladu amrywiol strwythurau.

Efallai y bydd swydd syrfëwr rheoli adeiladu yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cynorthwyo yn ystod camau cynllunio ac adeiladu amrywiaeth o brosiectau adeiladu, o estyniadau bach ar dai i ddatblygiadau mawr mewn dinasoedd
  • Ymateb i alwadau brys i archwilio adeiladau sydd wedi cael eu difrodi gan dân neu dywydd garw
  • Archwilio adeiladau anniogel ac argymell a oes modd eu hatgyweirio neu a ddylid eu dymchwel
  • Gweithio’n agos gyda gweithwyr adeiladu ar gynigion cynllunio
  • Cynnal archwiliadau ar y safle ar bob cam o'r broses adeiladu
  • Cadw cofnodion a chyflwyno tystysgrifau cwblhau
  • Awgrymu ffyrdd o wella’r defnydd o ynni mewn adeiladau
  • Cychwyn achosion cyfreithiol petai’r gwaith ddim yn unol â’r rheoliadau.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel syrfëwr rheoli adeiladu?

Mae’r cyflog disgwyliedig i syrfëwr rheoli adeiladu yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall syrfewyr rheoli adeiladu sydd newydd eu hyfforddi ennill £22,000 - £27,000
  • Gall syrfewyr rheoli adeiladu hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £40,000
  • Gall syrfewyr rheoli adeiladu uwch, siartredig neu feistr ennill £40,000 - £60,000*
  • Syrfewyr rheoli adeiladu hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer syrfewyr rheoli adeiladu: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel syrfëwr rheoli adeiladu, gallech arbenigo mewn maes penodol fel diogelwch tân, neu fel arall symud i rôl fwy technegol mewn adrannau eraill, fel cynllunio trefol. 

Fel syrfëwr rheoli adeiladu, mae potensial i fod yn siartredig drwy Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ac ennill cyflog uwch.  

Gallech chi hefyd sefydlu fel ymgynghorydd hunangyflogedig. 


Dyluniwyd y wefan gan S8080