Facebook Pixel

Syrfëwr meintiau

Mae syrfewyr meintiau yn amcangyfrif ac yn rheoli costau ar gyfer prosiectau adeiladu mawr. Maent yn sicrhau fod strwythurau'n bodloni safonau cyfreithiol ac ansawdd. Mae syrfewyr meintiau yn rhan o bob cam o'r prosiect. P’un a ydynt yn gweithio ar brosiectau preswyl, masnachol neu ddiwydiannol, mae cleientiaid yn dibynnu arnynt i sicrhau fod y canlyniad terfynol yn cynnig gwerth am arian.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£65000

Oriau arferol yr wythnos

37-40

Sut i ddod yn syrfëwr meintiau

Mae yna sawl llwybr i ddod yn syrfëwr meintiau. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs prifysgol neu brentisiaeth. Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallech anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr neu hyfforddi yn y gwaith. Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un iawn i chi. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol/cynllun hyfforddi graddedigion

Gallech gwblhau gradd gyntaf mewn syrfeo meintiau neu bwnc perthnasol arall:

  • Adeiladu
  • Peirianneg strwythurol
  • Peirianneg sifil
  • Mathemateg
  • Daearyddiaeth
  • Economeg
  • Astudiaethau trefol neu dir. 

Os oes gennych radd gyntaf amherthnasol, gallech gwblhau cwrs trosi ôl-raddedig. Dylai hyn gael ei achredu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a'r Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB).

Gallech ennill cymhwyster syrfeo ôl-raddedig trwy gynllun hyfforddeion graddedig gyda chwmni adeiladu neu syrfeo. Mae Coleg Prifysgol Rheoli Ystadau yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig dysgu o bell.

Byddwch angen:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. Mae prentisiaethau’n agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Byddai uwch-brentisiaeth technegydd arolygu yn gychwyn da i’ch llwybr gyrfa fel syrfëwr meintiau.

Byddwch angen:

  • 5 cymhwyster TGAU (neu gyfwerth) â graddau 9 - 4 (A* - C), yn cynnwys Saesneg a mathemateg (uwch-brentisiaeth).
  • 4 - 5 o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) â graddau 9 - 4 (A* - C) a chymwysterau safon uwch (neu gyfwerth) (prentisiaeth gradd).

  • Canllaw ynghylch prentisiaethau 

Gwaith

Os oes gennych brofiad perthnasol mewn maes gwaith cysylltiedig, megis cyfrifeg, efallai y gallwch astudio’n rhan-amser i ddod yn syrfëwr meintiau. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.  


Beth mae syrfëwr meintiau yn ei wneud?

Fel syrfëwr meintiau, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Cysylltu â chleientiaid i nodi eu hanghenion
  • Amcangyfrif meintiau, costau ac amserlenni ar gyfer deunydd a llafur
  • Paratoi dogfennau tendrau a chontractau
  • Nodi risgiau masnachol a'u pwyso a'u mesur
  • Dyrannu gwaith i isgontractwyr
  • Prisio gwaith gorffenedig, rheoli cyllidebau a goruchwylio taliadau
  • Sicrhau fod prosiectau'n bodloni safonau cyfreithiol ac ansawdd
  • Sicrhau fod cleientiaid yn cael gwerth am arian
  • Cynghori ynghylch costau cynnal a chadw adeiladau penodol
  • Cyflwyno adroddiadau rheolaidd ynghylch cyllidebau
  • Dilyn rheoliadau adeiladau ac iechyd a diogelwch
  • Gweithio ym musnes cleient, mewn swyddfa neu ar safle adeiladu.

Faint allech ei ennill fel syrfëwr meintiau?

  • Gall syrfewyr meintiau sydd newydd eu hyfforddi ennill £25,000 - £35,000
  • Gall syrfewyr meintiau wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £35,000 - £45,000
  • Gall syrfewyr meintiau uwch neu siartredig ennill £45,000 - £65,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio. Mae cyflogau a dewisiadau gyrfa hefyd yn gwella â statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer syrfewyr meintiau:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Fel hyfforddai, cynorthwyydd neu syrfëwr meintiau iau, gallech  weithio tuag at statws siartredig. Byddai hyn yn ehangu eich opsiynau gyrfa ac yn eich helpu i ennill cyflog uwch. 

I fod yn gymwys i gael statws syrfëwr meintiau siartredig, bydd angen o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol arnoch. Gallech gwblhau’r Asesiad Cymhwysedd Proffesiynol (APC) Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). Fel arall, os oes gennych radd anrhydedd achrededig, gallech gael statws syrfëwr meintiau siartredig trwy’r Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB).

Ymhen amser, gallech ddod yn uwch-syrfëwr meintiau, rheolwr prosiectau, contractwr neu reolwr masnachol. Mae llawer o syrfewyr yn arbenigo mewn un maes megis cynllunio, contractau, prosiectau mecanyddol neu drydanol, neu asesu risgiau.  

Gallech ymuno â phractis syrfeo annibynnol neu ddod yn ymgynghorydd ar eich liwt ei hun. Mae rhai syrfewyr meintiau yn addysgu mewn prifysgolion neu golegau


Dyluniwyd y wefan gan S8080