Facebook Pixel

Syrfëwr Hydrograffig

A elwir hefyd yn -

Hydrograffydd

Mae syrfewyr hydrograffig yn defnyddio technoleg o’r radd flaenaf i gynhyrchu cynlluniau manwl o wely’r môr, harbyrau a dyfrffyrdd. Maent yn mesur ac yn mapio arwynebau tanddwr ac yn astudio gwneuthuriad gwely’r môr, gan ddangos dyfnder, siâp a chyfuchliniau. Maent yn arbenigo mewn lleoli, caffael a phrosesu data’n fanwl gywir mewn amgylcheddau morol ar y tir neu’r môr.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

38-45

Sut i fod yn syrfëwr hydrograffig

Mae sawl ffordd o fod yn syrfëwr hydrograffig. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy gwblhau cwrs prifysgol, hyfforddiant yn y gwaith drwy’r Llynges Frenhinol neu brentisiaeth. Dylech chi ymchwilio i’r opsiynau i weld pa un yw’r un iawn i chi. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech astudio am radd arolygu a gymeradwyir gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) neu’r Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB).

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni arolygu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. 

Gallech gwblhau prentisiaeth mewn peirianneg sifil neu arolygu ac yna arbenigo mewn arolygu hydrograffig.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Efallai y gallwch ddechrau eich gyrfa hydrograffig drwy ymuno â’r Llynges Frenhinol fel arbenigwr hydrograffig, meteorolegol ac eigionegol. Mae hyfforddiant hydrograffig yn cael ei ddarparu gan yr ysgol FOST HM (Flag Officer Sea Training Hydrography & Meteorology).

Os ydych chi am fod yn siartredig, bydd angen i chi gwblhau Asesiad o Gymhwysedd Proffesiynol RICS sy’n gofyn am ddwy flynedd o hyfforddiant yn y gwaith. Mae NVQ Lefel 4 hefyd ar gael mewn Rheoli Data Gofodol.

I weithio ar y môr, bydd yn rhaid i chi basio archwiliad meddygol bob dwy flynedd. Rhaid i chi hefyd basio cwrs goroesi ar y môr gyda BOSIET (Basic Offshore Safety Induction & Emergency Training).

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel syrfëwr hydrograffig. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel syrfëwr hydrograffig: 

  • Gwybodaeth dda am systemau morlywio
  • Sgiliau gweithio mewn tîm ardderchog mewn sefyllfaoedd dan bwysau
  • Agwedd ymarferol tuag at ddatrys problemau
  • Meddwl yn rhesymegol
  • Dyfeisgarwch a gwydnwch
  • Trwydded yrru ddilys y DU.

Cymwysterau


Beth mae syrfëwr hydrograffig yn ei wneud?

Fel syrfëwr hydrograffig, byddwch yn gyfrifol am weithio gydag amrywiaeth o adrannau eraill i helpu i fonitro a diogelu'r amgylchedd ar brosiectau adeiladu.

Mae swydd syrfëwr hydrograffig yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Gweithio gyda chynllunwyr, ecolegwyr a pheirianwyr sifil i fonitro a diogelu’r amgylchedd
  • Archwilio a defnyddio adnoddau morol mewn ffordd foesegol a chynaliadwy
  • Astudio dyfroedd mewndirol ac afonydd, neu borthladdoedd a moroedd
  • Defnyddio offer technegol arbenigol i gasglu data ar gyfer siartiau a mapiau morwrol
  • Darparu adroddiadau, rheoli data ac ateb ymholiadau technegol
  • Cynhyrchu gwybodaeth gywir a dibynadwy ar gyfer diwydiannau fel archwilio olew, nwy a mwynau, treillio, gwaith arfordirol, ceblau ffôn ar wely'r môr, piblinellau, monitro amgylcheddol, dyframaethu ac ymchwil eigionegol
  • Casglu gwybodaeth am y math o wely’r môr ynghyd â symudiad dŵr a thonnau.

 


Faint o gyflog allech chi ei gael fel syrfëwr hydrograffig?

Mae’r cyflog disgwyliedig i syrfëwr hydrograffig yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall syrfewyr hydrograffig sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £25,000
  • Gall syrfewyr hydrograffig hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £45,000
  • Gall syrfewyr hydrograffig uwch, siartredig neu feistr ennill £45,000 - £60,000*
  • Syrfewyr hydrograffig hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. Mae cyflogau ac opsiynau gyrfa yn gallu gwella os bydd gennych statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer syrfewyr hydrograffig: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gallech fod yn uwch hydrolegydd, gan reoli a chydlynu tîm o ymchwilwyr, hydrolegwyr a pheirianwyr.

Gallech hefyd weithio fel ymgynghorydd, yn cynghori adrannau’r llywodraeth a busnesau ar ddefnyddio dŵr yn gynaliadwy, prosiectau peirianneg dŵr sifil neu reoli perygl llifogydd.

Os oes gennych chi bedair neu bum mlynedd o brofiad o weithio mewn cwmni, gallech sefydlu fel contractwr/is-gontractwr hunangyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Syrfëwr Hydrograffig Mesur a mapio arwynebau tanddwr ledled y byd fel Syrfëwr Hydrograffig. Mae rhago...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd sifil Mae peirianwyr sifil yn chwarae'r rhan bwysig o gynllunio, dylunio a rheoli pros...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Contractwr hunangyflogedig Fel contractwr neu is-gontractwr, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch cle...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080