Facebook Pixel

Swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus

A elwir hefyd yn -

Swyddog marchnata, rheolwr cysylltiadau cyhoeddus, swyddog cyfathrebu

Mae swyddogion marchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn gyfrifol am reoli delwedd ac enw da cwmni. Maen nhw’n dylanwadu ar farn ac ymddygiad, yn fewnol ac yn allanol, ar wahanol sianeli cyfathrebu, gan gynnwys gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, sylw yn y wasg a mwy.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£100000

Oriau arferol yr wythnos

37-40

Sut i fod yn swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus

Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol i fod yn swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, ond gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich gyrfa.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i fynd ar safle adeiladu gweithredol.

Prifysgol

Bydd angen i chi fod â gradd israddedig i fod yn swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus gyda rhai cyflogwyr. Dyma rai pynciau perthnasol: 

  • Saesneg
  • Marchnata a chyfathrebu
  • Cysylltiadau cyhoeddus
  • Hysbysebu
  • Busnes a rheoli
  • Seicoleg.

Gallech chi hefyd astudio pwnc sy’n berthnasol i ddiwydiant yr hoffech chi arbenigo ynddo, fel adeiladu neu TG.

Ar gyfer gradd israddedig, bydd angen y canlynol arnoch fel arfer:

  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg
  • 2 - 3 lefel A, neu gyfwerth.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech chi gwblhau cwrs coleg i’ch helpu ar eich taith i fod yn swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, mewn pwnc perthnasol fel marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, astudiaethau busnes neu seicoleg. 

Mae hefyd yn bosibl ennill cymwysterau Cysylltiadau Cyhoeddus gan gyrff proffesiynol fel y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) , y Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) neu’r Sefydliad Addysg Cyfathrebu, Hysbysebu a Marchnata (CAM). 

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth fel cynorthwyydd marchnata neu weinyddwr gyda chwmni adeiladu, i’ch helpu i fod yn swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.

Neu, gallech chi fynd drwy’r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) i ddod o hyd i brentisiaethau proffesiynol a fydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i symud ymlaen yn yr yrfa hon.

Fel arfer, bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, i fynd ar brentisiaeth.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel swyddog cysylltiadau cyhoeddus. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Efallai y gallwch chi gael profiad gwaith marchnata a chysylltiadau cyhoeddus drwy:

  • Cysylltu ag adrannau cysylltiadau cyhoeddus ac asiantaethau marchnata i gael profiad gwaith
  • Gwirfoddoli i hyrwyddo elusennau neu fusnesau lleol
  • Ysgrifennu i gylchgronau myfyrwyr, papurau newydd neu orsafoedd radio
  • Ysgrifennu blogiau neu gyfrannu at ffrydiau cyfryngau cymdeithasol busnes neu elusen.

  • Dysgwch fwy am brofiad gwaith

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad fel swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i neu is-swyddog i swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus: 

  • Gwybodaeth am gynhyrchu a chyfathrebu ar y cyfryngau
  • Gafael cadarn ar yr iaith Saesneg
  • Y gallu i weithio’n drylwyr a rhoi sylw i fanylion
  • Dyfalbarhad a phenderfyniad
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill
  • Gallu derbyn beirniadaeth a gweithio’n dda dan bwysau
  • Gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Yn gallu gwerthu cynnyrch a gwasanaethau
  • Sgiliau cyfrifiadurol da.

Beth mae swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn ei wneud?

Fel swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, byddwch yn gyfrifol am gyfleu negeseuon allweddol a hyrwyddo delwedd gadarnhaol o gwmni. Gall dyletswyddau o ddydd i ddydd gynnwys ysgrifennu datganiadau i’r wasg, cysylltu â’r wasg leol a chenedlaethol a chydlynu negeseuon sy’n ymddangos ar y wefan, ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn print. 

Gall rôl swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus gynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cynllunio a chynnal ymgyrchoedd a strategaethau cysylltiadau cyhoeddus
  • Monitro barn y cyhoedd a’r cyfryngau am eich cleient neu eich cyflogwr
  • Ysgrifennu a golygu datganiadau i’r wasg, taflenni, llyfrynnau, areithiau, cylchlythyrau, gwefannau a chynnwys cyfryngau cymdeithasol
  • Defnyddio pob math o gyfryngau, gan gynnwys y wasg genedlaethol, ranbarthol a’r wasg fasnach, i adeiladu, cynnal a rheoli’r ffordd y caiff busnes ei bortreadu
  • Cynrychioli eich cwmni mewn digwyddiadau
  • Gweithredu fel llefarydd dros frand y cwmni
  • Hyfforddi gweithwyr ar sut i ddelio ag ymholiadau gan y cyfryngau a chyfweliadau gyda’r wasg
  • Datblygu perthynas waith dda gyda’r cyfryngau a chysylltu â’r wasg ynghylch straeon newyddion posibl
  • Ysgrifennu a golygu cylchgronau mewnol, astudiaethau achos ac adroddiadau blynyddol
  • Rheoli a diweddaru negeseuon cleient ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Creu a chydlynu cyfleoedd i dynnu lluniau
  • Rheoli, trefnu a goruchwylio digwyddiadau
  • Monitro cyhoeddusrwydd a sylw yn y wasg
  • Comisiynu ymchwil i’r farchnad
  • Cydlynu hysbysebion am dâl a rhai di-dâl.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus?

Mae’r cyflog disgwyliedig i swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall swyddogion marchnata a chysylltiadau cyhoeddus sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall swyddogion marchnata a chysylltiadau cyhoeddus hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £45,000
  • Gall rheolwyr marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus uwch, siartredig neu feistr ennill rhwng £80,000 a £100,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer swyddogion marchnata a chysylltiadau cyhoeddus:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, gallech symud ymlaen i fod yn rheolwr neu gyfarwyddwr marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus. 

Gallech chi hefyd drosglwyddo eich sgiliau i fod yn rheolwr datblygu busnes neu’n swyddog gweithredol marchnata digidol. 

Neu, gallech sefydlu eich hun yn hunangyflogedig a gweithio fel ymgynghorydd marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus llawrydd.


Dyluniwyd y wefan gan S8080