Facebook Pixel

Sgaffaldiwr

A elwir hefyd yn -

Technegydd sgaffaldiau

Mae sgaffaldwyr yn codi ac yn datgysylltu sgaffaldiau metel dros dro ar strwythurau a safleoedd adeiladu fel bod pobl eraill yn gallu gweithio mewn mannau uchel a gwneud eu gwaith yn ddiogel. Gall sgaffaldwyr osod sgaffaldiau o amgylch strwythur, neu y tu mewn i adeilad sydd wrthi’n cael ei adeiladu, ei adnewyddu neu ei ddymchwel.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

43-45

Sut i fod yn sgaffaldiwr

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn sgaffaldiwr, mae sawl llwybr y gallech eu dilyn i'ch helpu i ddilyn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn sgaffaldiwr, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Er nad oes unrhyw ofynion mynediad penodol, byddai unrhyw un sy’n ystyried gyrfa fel sgaffaldiwr yn elwa ar ennill cymwysterau TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg.

Gallech astudio ar gyfer Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu neu Dystysgrif Lefel 2 mewn Gweithrediadau Adeiladu i ddechrau ar eich llwybr gyrfa i fod yn sgaffaldiwr.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant adeiladu.

Gallech wneud cais am brentisiaeth sgaffaldiwr canolradd gyda chwmni adeiladu neu gwmni sgaffaldiau, a fydd yn cymryd 18 mis i’w chwblhau.

Bydd angen 2 - 3 TGAU arnoch, sydd fel arfer yn cynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymwysterau cyfatebol, ar gyfer prentisiaeth ganolradd.

Mae hefyd yn bosibl cwblhau rhaglen hyfforddiant rhan amser dros gyfnod o 11 wythnos i ddod yn sgaffaldiwr, a fydd yn cael ei chwblhau dros ddwy flynedd.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Gallech wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr i fod yn sgaffaldiwr neu’n labrwr adeiladu, yn enwedig os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol o weithio ar safle. Byddai hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau gan aelodau mwy profiadol o’r tîm, ac efallai y bydd eich cyflogwr yn darparu hyfforddiant i’ch helpu i gamu ymlaen.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel sgaffaldiwr. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae sgiliau dymunol ar gyfer sgaffaldiwr yn cynnwys: 

  • Gallu gweithio’n hyderus mewn mannau uchel
  • Cydsymud llaw-llygad rhagorol 
  • Lefel dda o ffitrwydd corfforol
  • Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch
  • Y gallu i ddeall lluniadau technegol a chynlluniau
  • Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Beth mae sgaffaldiwr yn ei wneud?

Mae sgaffaldwyr yn hanfodol i’r diwydiant adeiladu, gan fod cymaint o griwiau adeiladu angen mynediad gyda sgaffaldiau, rigiau, rheiliau gwarchod ac estyll er mwyn ymgymryd â gwaith adeiladu neu adfer. 

Mae dyletswyddau sgaffaldiwr yn cynnwys: 

  • Dadlwytho cyfarpar sgaffaldiau ar y safle
  • Sicrhau sylfaen sefydlog ar gyfer y sgaffaldiau
  • Codi polion sgaffaldiau
  • Gosod sgaffaldiau ar adeiladau neu strwythurau
  • Gosod estyll i’r gweithwyr gerdded arnynt
  • Gosod rheiliau gwarchod a rhwydi diogelwch
  • Datgysylltu’r sgaffaldiau pan fydd y prosiect wedi’i gwblhau
  • Adeiladu gwahanol fathau o blatfformau, o sgaffaldiau syml i strwythurau cymhleth fel sgaffaldiau crog, cantilifer cwymp a thoeau dros dro
  • Gweithio ar safleoedd ym mhob tywydd.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel sgaffaldiwr?

Mae’r cyflog disgwyliedig i sgaffaldiwr yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall sgaffaldwyr sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £19,000 - £25,000
  • Gall sgaffaldwyr hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £40,000
  • Gall uwch sgaffaldwyr ennill £40,000 - £50,000*
  • Sgaffaldwyr hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer sgaffaldwyr:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gyda phrofiad, gallech chi symud ymlaen i swydd goruchwyliwr neu arweinydd tîm, neu ddod yn rheolwr prosiect neu'n rheolwr adeiladu.

Gallech hefyd weithio fel sgaffaldiwr hunangyflogedig, neu ddod yn ymgynghorydd sgaffaldiau a thynnu llun manwl o sgaffaldiau cymhleth ar gyfer prosiectau sydd ar y gweill.


Dyluniwyd y wefan gan S8080