Facebook Pixel

Rigiwr rhwydi diogelwch

Mae rigwyr rhwydi diogelwch yn cydosod, yn gosod, yn cynnal ac yn sicrhau rhwydi diogelwch ar gyfer amryw o brosiectau adeiladu. Mae’r systemau rhwydi diogelwch maen nhw’n eu darparu yn cynnig amddiffyniad rhag cwympo i weithwyr adeiladu sy’n gweithio mewn mannau uchel. Maen nhw’n sicrhau diogelwch cyffredinol ar y safle a rhaglenni adeiladu effeithlon drwy osod rhwydi diogelwch i’r safon gywir.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn rigiwr rhwydi diogelwch

Mae sawl ffordd o fod yn rigiwr rhwydi diogelwch. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs arbenigol, prentisiaeth, neu drwy wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rigiwr rhwydi diogelwch i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. Efallai y bydd angen trwydded yrru ddilys y DU arnoch hefyd. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Bydd angen i chi gael eich tystysgrif Hyfforddiant ar Gyfer Stopio Cwympiau (FASET) gan ganolfan awdurdodedig. Unwaith y byddwch wedi cael digon o brofiad, gallwch symud ymlaen i gwblhau NVQ neu SVQ mewn Rigio Rhwydi Diogelwch. Bydd angen i chi hefyd gael cerdyn rigiwr rhwydi diogelwch fel tystiolaeth o’ch gallu proffesiynol. Mae hwn ar gael o statws hyfforddai hyd at statws profiadol. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. 

Gallech wneud cais am brentisiaeth sgaffaldiwr canolradd gyda chwmni adeiladu neu gwmni sgaffaldiau arbenigol, a fydd yn cymryd 18 mis i’w gwblhau, cyn symud i rôl fel rigiwr rhwydi diogelwch.

Bydd angen 2 - 3 TGAU arnoch, sydd fel arfer yn cynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymwysterau cyfatebol, ar gyfer prentisiaeth ganolradd.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu neu gwmni sgaffaldiau arbenigol i gael profiad ar safle fel rigiwr rhwydi diogelwch. Bydd angen i chi gael cymwysterau arbenigol i weithio yn y rôl hon. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i rigiwr rhwydi diogelwch mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella, ac ar ôl i chi gwblhau’r hyfforddiant.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rigiwr rhwydi diogelwch. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rigiwr rhwydi diogelwch: 

  • Gallu gweithio’n ddiogel mewn mannau uchel.
  • Gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm
  • Rhagweithiol ac yn gallu dangos blaengaredd.

Cymwysterau


Beth mae rigiwr rhwydi diogelwch yn ei wneud?

Fel gosodwr rhwydi diogelwch, byddwch yn gyfrifol am ddefnyddio peiriannau’n ddiogel i helpu i baratoi a datgymalu llwyfannau er mwyn gallu gweithio’n uwch.

Mae swydd rigiwr rhwydi diogelwch yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Paratoi a gweithredu Llwyfannau Gwaith Symudol sy’n Codi (MEWP), gan gynnwys mathau o sisyrnau a breichiau
  • Gosod, datgymalu, cynnal ac archwilio rhwydi diogelwch
  • Llwytho a dadlwytho lorïau a chynwysyddion offer
  • Cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch
  • Gweithio yn unol â datganiadau dull ac asesiadau risg
  • Gweithio ar safleoedd ym mhob tywydd.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rigiwr rhwydi diogelwch?

Mae’r cyflog disgwyliedig i rigiwr rhwydi diogelwch yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rigwyr rhwydi diogelwch sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall rigwyr rhwydi diogelwch gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £35,000
  • Gall rigwyr rhwydi diogelwch ennill mwy na £35,000.*
  • Rigwyr rhwydi diogelwch hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rigwyr rhwydi diogelwch: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Wrth i chi ennill profiad a sgiliau yn eich gyrfa fel rigiwr rhwydi diogelwch, gallech chi gael eich dyrchafu i fod yn oruchwyliwr neu’n rheolwr. 

Gyda rhagor o hyfforddiant a chymwysterau, gallech chi symud ymlaen i yrfa fel cynghorydd diogelwch, iechyd, yr amgylchedd ac ansawdd.

Gallech fod yn gontractwr hunangyflogedig a gosod eich cyflog eich hun.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rigiwr rhwydi diogelwch Cydosod a gosod rhwydi diogelwch ar wahanol brosiectau adeiladu ledled y DU gan ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Sgaffaldiwr Gweithio ar brosiectau adeiladu ledled y DU yn codi ac yn datgysylltu strwythura...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Cynghorydd SHEQ (Diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd) Rhoi arweiniad ar yr holl faterion sy’n ymwneud â diogelwch, iechyd, yr amgylche...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080