Facebook Pixel

Rheolwr trafnidiaeth

A elwir hefyd yn -

Rheolwr canolfan ddosbarthu, rheolwr logisteg, swyddog cyflenwi logisteg, rheolwr trafnidiaeth

Mae rheolwyr trafnidiaeth yn gyfrifol am gyfarwyddo, cydlynu, cynllunio a goruchwylio tasgau a gweithrediadau mewn sefydliad sy’n ymwneud â gweithgareddau trafnidiaeth. Mae’n ofynnol iddynt sicrhau bod y gofynion cyfreithiol ar gyfer cludo nwyddau ar y ffyrdd yn cael eu bodloni.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£55000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn rheolwr trafnidiaeth

Gan mai swydd reoli yw hon, mae angen gradd israddedig fel arfer. Ar gyfer rhai swyddi, bydd gradd meistr hefyd yn angenrheidiol, neu statws siartredig gyda chorff perthnasol. Fodd bynnag, mae profiad yn aml yn bwysig iawn hefyd, felly mae’n bosibl y rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr sydd â chymwysterau eraill.

Er efallai bod angen cymwysterau penodol ar gyfer y rôl hon, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Bydd rhai cyflogwyr yn disgwyl i chi gael gradd israddedig i ymuno fel rheolwr trafnidiaeth. Dyma rai pynciau perthnasol:

  • Peirianneg
  • Logisteg
  • Rheoli Busnes
  • Cynllunio trefi
  • Astudiaethau amgylcheddol
  • Peirianneg sifil.

Ar gyfer gradd israddedig, bydd angen y canlynol arnoch fel arfer:

  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth
  • 2 - 3 lefel A, neu gyfwerth.

Mae llawer o raddedigion yn mynd ymlaen i wneud cymhwyster ôl-radd mewn cynllunio trafnidiaeth a gymeradwyir gan y Gymdeithas Cynllunio Trafnidiaeth.

> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol

> Dod o hyd i gwrs prifysgol

> Cyngor am gyllid

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad yn y sector rheoli trafnidiaeth, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel rheolwr trafnidiaeth. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i reolwr trafnidiaeth mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr trafnidiaeth. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

> Dysgwch fwy am brofiad gwaith

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr trafnidiaeth: 

  • Gwybodaeth am ddulliau, costau a manteision trafnidiaeth
  • Gwybodaeth am fathemateg
  • Gwybodaeth am beirianneg, gwyddoniaeth a thechnoleg
  • Sgiliau dylunio a gwybodaeth amdano
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill
  • Sgiliau datrys problemau cymhleth
  • Sylw da i fanylion

Beth mae rheolwr trafnidiaeth yn ei wneud?

Fel rheolwr trafnidiaeth, rydych yn gyfrifol am helpu i sicrhau bod yr holl nwyddau a theithwyr yn cyrraedd pen eu taith yn ddiogel.

Mae rôl rheolwr trafnidiaeth yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Gwneud yn siŵr bod cerbydau’n cael eu cynnal a’u cadw’n iawn.
  • Archwilio cerbydau
  • Trefnu gwaith atgyweirio a chynnal a chadw rheolaidd
  • Sicrhau bod gan yr holl yrwyr a gweithredwyr y cymwysterau cywir, ac wedi’u diweddaru
  • Lleihau’r risg o orlwytho cerbydau
  • Cynnal a chwblhau cofnodion cywir
  • Cynnal amserlenni a threfnu aelodau’r tîm.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr trafnidiaeth?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr trafnidiaeth yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwyr trafnidiaeth sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall rheolwyr trafnidiaeth gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £35,000
  • Gall uwch reolwyr trafnidiaeth ennill oddeutu £35,000 - £60,000.* 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr trafnidiaeth: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel rheolwr trafnidiaeth profiadol, gallech fod yn ymgynghorydd hunangyflogedig neu ddechrau eich cwmni cludo eich hun.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr trafnidiaeth Sicrhau bod y gofynion cyfreithiol ar gyfer cludo nwyddau ar y ffordd yn cael eu...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr peiriannau Bod yn gyfrifol am yr holl beiriannau trwm sy’n cael eu defnyddio ar safleoedd a...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080