Facebook Pixel

Rheolwr sicrhau ansawdd

A elwir hefyd yn -

Rheolwr ansawdd, rheolwr rheoli ansawdd, arolygydd ansawdd

Gwaith rheolwr sicrhau ansawdd yw sicrhau bod holl wasanaethau a gweithgareddau cwmni yn cyrraedd ac yn cynnal safonau a osodwyd. Fel rheolwr sicrhau ansawdd, byddwch yn cynnal archwiliadau ac yn cadw cofnodion manwl fel tystiolaeth bod y gwaith o’r ansawdd gorau posibl.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

37-39

Sut i fod yn rheolwr sicrhau ansawdd

Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr sicrhau ansawdd. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr sicrhau ansawdd i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech chi gwblhau gradd israddedig neu ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol, fel astudiaethau busnes, gweinyddu neu reoli cynhyrchiant. 

Ar ôl eich astudiaethau, gallech wneud cais i fod yn rheolwr sicrhau ansawdd dan hyfforddiant drwy gynllun hyfforddi graddedigion y cwmni adeiladu. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg

Gallech chi ddilyn cwrs coleg ym maes rheoli busnes neu adeiladu neu beirianneg, i’ch helpu ar eich taith i fod yn rheolwr sicrhau ansawdd.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallech chi gwblhau prentisiaeth adeiladu, peirianneg neu weinyddu i’ch helpu i gychwyn ar eich llwybr gyrfa i fod yn rheolwr sicrhau ansawdd.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad fel rheolwr sicrhau ansawdd. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i reolwr sicrhau ansawdd mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr sicrhau ansawdd. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr sicrhau ansawdd: 

  • Ymwybyddiaeth o reoli busnes
  • Sgiliau cyfathrebu cadarn
  • Sgiliau meddwl dadansoddol
  • Sgiliau rheoli/ arwain prosiectau.
  • Gwybodaeth fathemategol dda.

Cymwysterau


Beth mae rheolwr sicrhau ansawdd yn ei wneud?

Fel rheolwr sicrhau ansawdd, byddwch chi’n datblygu prosesau a rheolaethau ar gyfer y cwmni cyfan, i sicrhau bod gwaith o ansawdd uchel yn cael ei gwblhau.

Fel rheolwr sicrhau ansawdd, gallai eich dyletswyddau gynnwys:  

  • Cwrdd â chleientiaid er mwyn ddeall eu hanghenion busnes
  • Datblygu gweithdrefnau, safonau a manylebau ansawdd y cwmni
  • Paru prosesau â safonau
  • Cydlynu’r gweithgarwch sydd angen i fodloni safonau ansawdd
  • Cynnal archwiliadau ac arolygon mewnol
  • Cyflwyno cynigion prosiect i gleientiaid
  • Trafod deunyddiau gyda chyflenwyr
  • Ysgrifennu adroddiadau rheoli a thechnegol
  • Goruchwylio cyllidebau
  • Casglu a rhannu ystadegau
  • Delio ag unrhyw faterion sy’n codi gyda chwsmeriaid neu brosiectau
  • Cadw golwg ar ddisgwyliadau cwsmeriaid
  • Dilyn rheoliadau cyfreithiol
  • Gweithio ar y safle ac mewn swyddfa.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr sicrhau ansawdd?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr sicrhau ansawdd yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwyr sicrhau ansawdd sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall rheolwyr sicrhau ansawdd gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £45,000
  • Gall rheolwyr sicrhau ansawdd uwch, siartredig neu feistr ennill £45,000 - £60,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr sicrhau ansawdd: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel rheolwr sicrhau ansawdd, gallech chi symud ymlaen i rôl uwch a dod yn gyfarwyddwr prosiectau.

Neu, gallech gynnig eich gwasanaethau fel ymgynghorydd hunangyflogedig.


Dyluniwyd y wefan gan S8080