Facebook Pixel

Rheolwr peirianneg rheilffyrdd

A elwir hefyd yn -

Pennaeth cledrau

Mae rheolwr peirianneg rheilffyrdd yn gyfrifol am arwain a gweithredu gwaith dylunio peirianneg ar gyfer prosiectau ar reilffyrdd. Maen nhw’n asesu’r sgiliau a’r manylebau sydd angen, ac yna’n goruchwylio gweithrediadau busnes i sicrhau bod briffiau prosiect yn cael eu dilyn a’u gweithredu’n gywir.

Cyflog cyfartalog*

£30000

-

£70000

Oriau arferol yr wythnos

40-42

Sut i fod yn reolwr peirianneg rheilffyrdd

Mae sawl ffordd o fod yn rheolwr peirianneg rheilffyrdd. Gallech chi ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, gradd-brentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith i gael y sgiliau sydd eu hangen.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

I fod yn rheolwr peirianneg rheilffyrdd, gallech gwblhau gradd israddedig neu ôl-raddedig mewn peirianneg sifil, gan arbenigo mewn peirianneg rheilffyrdd.

Ar ôl graddio, efallai y gallwch chi wneud cais am swydd ar gynllun hyfforddi graddedigion cwmni rheilffyrdd i gael profiad yn y gweithle fel peiriannydd rheilffyrdd.


Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech chi gwblhau cwrs gyda darparwr hyfforddiant arbenigol i’ch helpu chi ar eich taith i fod yn rheolwr peirianneg rheilffyrdd.  

Fel arfer, bydd angen y canlynol arnoch: 

  • 2 TGAU neu fwy ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 2)
  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 3).

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth fel uwch dechnegydd rheilffyrdd i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn rheolwr peirianneg rheilffyrdd. Efallai y bydd Network Rail neu Transport for London yn cynnig cyfleoedd i hyfforddi yn y maes hwn.

I ddilyn prentisiaeth uwch, fel arfer bydd angen 5 TGAU arnoch ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi brofiad fel peiriannydd rheilffyrdd, gallech chi gwblhau hyfforddiant yn y gwaith i ddatblygu eich sgiliau a’ch galluogi chi i wneud cais yn uniongyrchol i gwmni rheilffyrdd i fod yn rheolwr peirianneg rheilffyrdd.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr peirianneg rheilffyrdd. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr peirianneg rheilffyrdd: 

  • Gwybodaeth am ddulliau o drafnidiaeth
  • Dealltwriaeth dechnegol o beirianneg rheilffyrdd
  • Gallu gweithredu a rheoli offer rheilffyrdd.
  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Sgiliau arwain a gwaith tîm
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Gallu meddwl yn ddadansoddol a datrys problemau

Cymwysterau


Beth mae rheolwr peirianneg rheilffyrdd yn ei wneud?

Fel rheolwr peirianneg rheilffyrdd, byddwch yn gyfrifol am arwain a chydlynu tîm o beirianwyr rheilffyrdd a goruchwylio gweithrediadau busnes sy’n ymwneud â phrosiectau trafnidiaeth.

Gall rôl rheolwr peirianneg rheilffyrdd gynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Darparu gwybodaeth a chyngor strategol sy’n gysylltiedig â pheirianneg rheilffyrdd
  • Cydweithio â rheolwyr dylunio i helpu i ddod o hyd i’r atebion peirianneg gorau
  • Darparu cyfeiriad technegol i dimau peirianneg traciau ar y safle
  • Cynhyrchu briffiau dylunio ac amserlenni gwaith
  • Adnabod, mentora a datblygu staff llai profiadol
  • Rheoli prosiectau mewn ffordd broffesiynol o safon uchel sydd hefyd yn fasnachol hyfyw
  • Sicrhau bod risgiau’n cael eu nodi a’u rheoli
  • Goruchwylio dogfennau cynnig a thendro
  • Gwneud gwaith sy’n bodloni safonau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
  • Cysylltu â rhanddeiliaid allweddol a chynhyrchu adroddiadau ar gyfer uwch reolwyr
  • Sicrhau bod prosiectau peirianneg rheilffyrdd yn cydymffurfio â deddfwriaeth a safonau’r diwydiant
  • Cydweithio â chontractwyr ac arbenigwyr eraill.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr peirianneg rheilffyrdd?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr peirianneg rheilffyrdd yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwr peirianneg rheilffyrdd sydd newydd gael ei hyfforddi ennill £30,000 - £35,000
  • Gall rheolwyr peirianneg rheilffyrdd gyda pheth brofiad ennill £35,000 - £50,000
  • Gall uwch reolwyr peirianneg rheilffyrdd ennill £50,000 - £70,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr peirianneg rheilffyrdd:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel rheolwr peirianneg rheilffyrdd, gallech chi symud ymlaen i rôl uwch ac ennill cyflog uwch.


Dyluniwyd y wefan gan S8080