Facebook Pixel

Rheolwr desg llogi peiriannau

A elwir hefyd yn -

Rheolwr llogi peiriannau, cynghorydd llogi peiriannau adeiladu

Mae rheolwyr desg llogi peiriannau yn gyfrifol am drefnu i logi peiriannau, offer a chyfarpar i gwsmeriaid a chwmnïau adeiladu. Fel rheolwr desg llogi peiriannau, bydd disgwyl bod gennych sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorol a’ch bod yn datblygu perthnasoedd proffesiynol â chleientiaid.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

37-42

Sut i fod yn rheolwr desg llogi peiriannau

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn rheolwr desg llogi peiriannau, mae sawl llwybr y gallech chi eu dilyn i'ch helpu yn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr desg llogi peiriannau i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn rheolwr desg llogi peiriannau, byddai TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg ar radd 4 neu uwch o fudd i unrhyw un sy’n ystyried hyn fel gyrfa.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni llogi peiriannau yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd fel rheolwr desg llogi peiriannau.

Efallai y bydd angen rhywfaint o gymwysterau TGAU arnoch, neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, i wneud prentisiaeth ganolradd.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi brofiad neu gymwysterau blaenorol ym maes adeiladu, rhedeg warysau neu werthu, efallai y gallwch chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel rheolwr desg llogi peiriannau.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr desg llogi peiriannau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

I unrhyw un sy’n ystyried gyrfa fel rheolwr desg llogi peiriannau, mae’r sgiliau canlynol yn ddymunol: 

  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid da
  • Gwybodaeth dda am fathemateg.
  • Gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm
  • Trefnus iawn a llawn cymhelliant 
  • Sgiliau gweinyddol cyffredinol.

Cymwysterau


Beth mae rheolwr desg llogi peiriannau yn ei wneud?

Prif gyfrifoldeb rheolwr desg llogi peiriannau yw delio ag ymholiadau ac archebion cwsmeriaid mewn modd proffesiynol. 

Dyma rai o ddyletswyddau bob dydd rheolwr desg llogi peiriannau:

  • Ymateb i ymholiadau cwsmeriaid am logi peiriannau, offer a chyfarpar
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo’r cwmni bob amser
  • Datblygu perthnasoedd proffesiynol gyda chleientiaid mewnol ac allanol
  • Cynnal targedau’r cwmni a rhagori arnynt
  • Sefydlu contractau llogi gyda chwsmeriaid
  • Trafod costau a pharatoi anfonebau
  • Gweinyddu cyffredinol
  • Gweithio mewn warws neu swyddfa

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr desg llogi peiriannau?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr desg llogi peiriannau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwyr desg llogi peiriannau sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £19,000 - £25,000
  • Gall rheolwyr desg llogi peiriannau hyfforddedig a phrofiadol ennill £25,000 - £35,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr desg llogi peiriannau: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel rheolwr desg llogi peiriannau, gallech chi symud i rôl fel gweithredwr peiriannau neu fecanig peiriannau.

Fel arall, gallech chi symud ymlaen i swydd uwch fel goruchwyliwr, arweinydd tîm neu reolwr depo.v


Dyluniwyd y wefan gan S8080