Facebook Pixel

Rheolwr cynaliadwyedd

Mae rheolwr cynaliadwyedd yn goruchwylio'r gwaith o roi strategaethau cynaliadwyedd ar waith yn ystod prosiect adeiladu. Mae hyn fel arfer yn ymwneud ag effeithiau amgylcheddol y gwaith sy’n cael ei wneud, er mwyn sicrhau bod y prosiect yn glynu wrth y dulliau mwyaf cyfeillgar posibl o safbwynt amgylcheddol ac economaidd.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

40-42

Sut i fod yn rheolwr cynaliadwyedd

Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr cynaliadwyedd. Ar gyfer y swydd hon, fel arfer bydd disgwyl i chi fod â gradd prifysgol, ond gallech hefyd gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr os oes gennych brofiad perthnasol.  

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Bydd y rhan fwyaf o swyddi rheolwyr cynaliadwyedd yn gofyn am radd anrhydedd BSc neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc fel

  • Gwyddor yr amgylchedd
  • Astudiaethau amgylcheddol
  • Tirfesur
  • Peirianneg
  • Adeiladu. 

Bydd angen 2 - 3 lefel A neu gymhwyster cyfatebol arnoch i astudio gradd. 

Efallai y bydd rhai cyflogwyr hefyd yn gofyn am gymhwyster ôl-raddedig mewn pwnc cysylltiedig.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg i’ch helpu i ddod yn rheolwr cynaliadwyedd, fel peirianneg, adeiladu neu gynaliadwyedd.

Bydd gofynion mynediad penodol ar gyfer pob cwrs, ond fel arfer bydd angen i chi gael o leiaf 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.

Prentisiaeth

Gallech gwblhau gradd-brentisiaeth ymarferwr amgylcheddol i’ch helpu i ddod yn rheolwr cynaliadwyedd.

Fel arfer, bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, ar gyfer gradd-brentisiaeth.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Mae profiad yn aml yn bwysig er mwyn sicrhau rôl fel rheolwr cynaliadwyedd, felly efallai y bydd ymgeiswyr â gwybodaeth fanwl am logisteg, technoleg carbon isel neu ddi-garbon, neu ddealltwriaeth o’r rheoliadau adeiladu yn gallu gwneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am waith, hyd yn oed os nad oes ganddynt gymwysterau perthnasol.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith, neu wirfoddoli, yn ffordd dda i helpu â chael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr cynaliadwyedd. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Gallwch hefyd gael profiad drwy wirfoddoli i elusen amgylcheddol, gwneud cais am interniaethau neu astudio tuag at gymhwyster sy’n cynnwys profiad o’r diwydiant. 

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr cynaliadwyedd: 

  • Gwybodaeth am fathemateg
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Gwybodaeth am ddaearyddiaeth
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Sylw da i fanylion
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig gwych
  • Uchelgeisiol ac yn awyddus i lwyddo.

Beth mae rheolwr cynaliadwyedd yn ei wneud?

Fel rheolwr cynaliadwyedd, byddwch yn gyfrifol am reoli a goruchwylio materion amgylcheddol a chynaliadwyedd sy'n gysylltiedig â phrosiectau adeiladu. 

Mae rôl rheolwr cynaliadwyedd yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cynnal asesiadau Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) ac Arweinyddiaeth mewn Ynni a Dyluniad Amgylcheddol (LEED)
  • Cwblhau cynlluniau cynaliadwyedd
  • Cynnal asesiadau safle a chynhyrchu adroddiadau ar ganfyddiadau
  • Dechrau asesiadau ynni adnewyddadwy
  • Rhoi cyngor ar y technolegau carbon isel neu ddi-garbon diweddaraf
  • Trefnu a chadeirio cyfarfodydd
  • Cyfathrebu cynlluniau i dimau prosiect ac uwch staff.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr cynaliadwyedd?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr cynaliadwyedd yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwyr cynaliadwyedd sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall rheolwyr cynaliadwyedd hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £45,000
  • Gall uwch reolwyr cynaliadwyedd ennill £45,000 - £60,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr cynaliadwyedd: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel rheolwr cynaliadwyedd, gallech drosglwyddo eich sgiliau i rôl fel cynghorydd SHEQ (diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd), neu symud ymlaen i swydd uwch ac ennill cyflog uwch.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr cynaliadwyedd Goruchwylio'r gwaith o roi strategaethau cynaliadwyedd ar waith yn ystod prosiec...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arbenigwr cynaliadwyedd Gan weithio gyda pheirianwyr a dylunwyr, byddwch yn datblygu cynllun cynaliadwye...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080