Facebook Pixel

Rheolwr asedau

Mae rheolwyr asedau yn rheoli ac yn monitro asedau cwmni. Gall hyn gynnwys eiddo, arian, stociau, cyfranddaliadau a bondiau, nwyddau, ecwiti a chynhyrchion ariannol eraill. Fel rheolwr asedau, byddech yn anelu at sicrhau'r enillion mwyaf posibl ar fuddsoddiad eich cyflogwr. Byddech yn sicrhau bod eu prosiectau'n gwella incwm a sefydlogrwydd ariannol.

Cyflog cyfartalog*

£21000

-

£40000

Sut i ddod yn rheolwr asedau

Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gyflawni cwrs prifysgol neu gynllun hyfforddi graddedigion, neu drwy ennill cymwysterau sy'n cael eu cydnabod gan y diwydiant. Os oes gennych sgiliau neu brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallech anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr neu hyfforddi yn y gwaith. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol/cynllun hyfforddi graddedigion

Gallech gwblhau gradd israddedig ym meysydd adeiladu, astudiaethau busnes, cyllid, ystadegau, economeg, rheoli neu gyfrifeg. I wneud hyn, bydd angen 1 - 2 o gymwysterau Safon Uwch (neu gyfwerth) arnoch, gan gynnwys mathemateg.

Wedi hynny, gallech wneud cais ar gyfer cynllun hyfforddeion graddedig. Gallech weithio i fanc neu gwmni adeiladu fel rheolwr asedau iau neu gynorthwyol.

Os oes gennych radd gyntaf berthnasol yn barod, gallech ennill cymhwyster ôl-raddedig i wella'ch cyflogadwyedd.

Dod o hyd i gwrs prifysgol.

Cyngor ynghylch cyllid

Cymwysterau'r diwydiant

Mae Sefydliad Rheoli Asedau (IAM) yn cynnig cyrsiau sy'n ymdrin â hanfodion rheoli asedau. Nid oes angen i chi fod wedi ennill cymwysterau'n barod i wneud y rhain.

Mae Sefydliad Siartredig Gwarantau a Buddsoddi (CISI) hefyd yn cynnig cymwysterau a chyrsiau hyfforddi. Mae'r rhain ar gyfer gweithwyr proffesiynol profiadol a’r rhai sy’n gadael yr ysgol sydd â diddordeb mewn gyrfa sy’n ymwneud ag arian.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol i ennill cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV. 

Dysgwch ragor am brofiad gwaith


Beth mae rheolwr asedau yn ei wneud?

Fel rheolwr asedau, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Mwyhau proffidioldeb
  • Cynnal a dadansoddi rhestrau eiddo o'r holl asedau
  • Cysylltu â chyflenwyr i gael y pris gorau am asedau
  • Buddsoddi arian ar gyfer prosiectau sydd ar y gweill
  • Gweithio â systemau rheoli asedau a thechnolegau tracio
  • Sicrhau bod cofnodion ariannol yn gyfredol ac yn gywir
  • Monitro deunyddiau, y gweithlu, offer, cyfarpar a chyflenwadau
  • Llunio adroddiadau cyllid a rhagweld cyllidebau
  • Gweithio mewn swyddfa ac ymweld yn achlysurol â safleoedd.seiliedig ar y rhyngrwyd a systemau soffistigedig ar gyfer rheoli asedau.

Faint allech ennill fel rheolwr asedau?

  • Gall rheolwyr asedau sydd newydd eu hyfforddi ennill £19,000 - £21,000
  • Gall rheolwyr asedau wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £38,000 - £40,000
  • Gall uwch reolwyr asedau ennill £40,000 - £50,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio. Mae cyflogau a dewisiadau gyrfa yn gwella â statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swydd wag

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr asedau:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Gallech weithio i gwmni adeiladu, banc neu wasanaeth ariannol arall, yn cynorthwyo busnesau neu unigolion.

Mae rhai rheolwyr asedau yn arbenigo mewn rheoli eiddo neu fuddsoddiadau. Ar ôl ennill profiad, gallech symud ymlaen i rolau ariannol uwch ac ennill cyflog uwch.

Fel rheolwr asedau, gallech hefyd ddod yn gyfrifydd neu'n ymgynghorydd ariannol. Yn yr un modd, gallech symud i faes rheoli asedau os oes gennych brofiad fel cyfrifydd.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr asedau Mae rheolwr asedau yn gyfrifol am reoli a monitro'r amrywiaeth eang o asedau sy'...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Cyfrifydd Mae gan bersonél cyfrifyddu a chyllid rôl hollbwysig i’w chwarae ymhob busnes, g...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080