Facebook Pixel

Prynwr tir

A elwir hefyd yn -

Negodwr tir

Mae prynwr tir yn gyfrifol am helpu busnesau ac unigolion i brynu tir sy’n addas ar gyfer adeiladu. Fel prynwr tir, byddwch yn dod o hyd i safleoedd addas ar gyfer prosiectau adeiladu, yn penderfynu a oes angen caniatâd cynllunio ac yn canfod a fydd unrhyw gyfyngiadau o ran yr hyn y gellir ei adeiladu.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn brynwr tir

Mae sawl ffordd o ddod yn brynwr tir. Gallech gwblhau gradd prifysgol, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Mewn rhai achosion, bydd gofyn i chi feddu ar radd mewn pwnc perthnasol i fod yn brynwr tir.

Neu, os oes gennych radd mewn pwnc llai penodol ar gyfer y gwaith, fel economeg, y gyfraith neu fathemateg, gallech ddilyn cymhwyster ôl-radd achrededig mewn syrfeo. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu'ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau mewn TG, busnes neu weinyddu cyfreithiol, a fyddai'n eich helpu i ddechrau ar eich llwybr gyrfa tuag at fod yn brynwr tir.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn beiriannydd draenio. Gallech hyfforddi mewn TG neu weinyddiaeth gyda chwmni adeiladu neu gofrestru ar brentisiaeth peirianneg sifil i ennill sgiliau a fyddai’n eich galluogi i ddod yn brynwr tir dan hyfforddiant ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi brofiad yn y sector eiddo, fel gwerthwr tai, neu negodwr gwerthu a gosod, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar y safle fel prynwr tir. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i brynwr tir mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel prynwr tir. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel prynwr tir: 

  • Gweithio’n drylwyr a rhoi sylw i fanylion
  • Meddwl mathemategol
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Gwybodaeth am yr iaith Saesneg
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Gallu defnyddio cyfrifiadur a’r prif becynnau meddalwedd yn hyderus.

Cymwysterau


Beth mae prynwr tir yn ei wneud?

Fel prynwr tir, byddwch chi’n gyfrifol am nodi a phenderfynu pa dir sy’n briodol ar gyfer prosiectau adeiladu eich cleientiaid. Gallech chi fod yn ymwneud â phrosiectau sy’n cynnwys safleoedd preswyl newydd, adeiladau swyddfeydd, ysbytai neu barciau manwerthu.

Mae swydd prynwr tir yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Canfod ac ymweld â safleoedd ar gyfer datblygiadau posibl
  • Gwerthuso safle i benderfynu ar werth y tir ac ysgrifennu adroddiadau ar eich canfyddiadau
  • Negodi cytundebau gyda thirfeddianwyr ac asiantau, a chyflwyno syniadau mewn digwyddiadau ymgynghori
  • Deall deddfwriaeth cynllunio a gweithio’n agos gyda thimau cynllunio i asesu pa mor addas yw’r tir ar gyfer ei ddatblygu, a’r tebygolrwydd o sicrhau caniatâd ar gyfer amrywiaeth o ddatblygiadau
  • Gwireddu potensial datblygu plot o dir
  • Cynnal asesiadau
  • Cysylltu â gwerthwyr a chwmnïau allanol i drefnu arolygon safle
  • Rhoi’r holl wybodaeth berthnasol am y safle i gwmnïau syrfeo
  • Monitro’r gystadleuaeth
  • Cynnal arolygon dirlawnder a thasgau eraill wrth nodi safleoedd
  • Gwneud gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth ar gyfer adroddiadau yn ôl y cyfarwyddyd
  • Rheoli cyllidebau

Faint o gyflog allech chi ei gael fel prynwr tir?

Mae’r cyflog disgwyliedig i brynwr tir yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall prynwyr tir sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall prynwyr tir hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £50,000
  • Gall uwch brynwyr tir ennill mwy na £50,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer prynwyr tir: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel prynwr tir, gallech symud i faes cysylltiedig, fel syrfëwr neu syrfëwr adeiladau. Gallech chi hefyd symud i fyny yn y rôl a dod yn arweinydd tîm, neu'n negodwr tir.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Prynwr tir Dod o hyd i’r prosiect datblygu nesaf ar gyfer eich cleient drwy werthuso, negod...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr masnachol Mae'n gyfrifol am y gyllideb ar brosiectau mawr a pharatoi bidiau newydd i ennil...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080