Facebook Pixel

Plymwr

Mae plymwyr yn gosod ac yn cynnal systemau dŵr mewn adeiladau. Mae hyn yn cynnwys toiledau, baddonau, cawodydd, sinciau, peiriannau golchi a pheiriannau golchi llestri. Gallent hefyd osod systemau gwres canolog ond mae angen cymwysterau ychwanegol arnynt i weithio â boeleri nwy. Mae plymwyr yn gosod pibellau newydd, yn gwasanaethu systemau hŷn, yn adnabod ac yn atgyweirio diffygion, a gallent ateb galwadau brys pan fydd systemau dŵr neu wresogi wedi'u difrodi.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

37-40

Sut i ddod yn blymwr

Mae yna sawl llwybr i ddod yn blymwr. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy wneud cwrs coleg neu brentisiaeth. Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallech anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr neu hyfforddi yn y gwaith.

Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Er y bydd rhai o'r opsiynau hyn yn gofyn am gymwysterau, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwr hyfforddiant

Mae cystadleuaeth gref am lefydd ar gyrsiau plymio. Gallech wneud Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Plymio a Gwresogi Domestig. Fel arall, gallech ymgeisio am swyddi hyfforddai gyda chwmni plymio.

Byddwch angen: 

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Mae prentisiaeth plymio ganolradd yn cymryd tua dwy flynedd i'w chwblhau. 

Byddwch angen: 

  • Hyd at 5 o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth), yn cynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth ganolradd)
  • 5 cymhwyster TGAU (neu gyfwerth) â graddau 9 - 4 (A* - C), yn cynnwys Saesneg a mathemateg (uwch-brentisiaeth).

  • Canllaw ynghylch prentisiaethau

Gwaith

Os oes gennych gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) gan gynnwys Saesneg a mathemateg, ynghyd â sgiliau ymarferol da, efallai y gallech gael swydd fel cynorthwyydd neu hyfforddai plymwr. Yna, efallai y gall eich cyflogwr ddarparu hyfforddiant i'ch galluogi i gymhwyso'n blymwr.

Os oes gennych gymwysterau neu brofiad mewn gwasanaethau adeiladu neu beirianneg gwresogi ac awyru, efallai y gallwch anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.  


Beth mae plymwr yn ei wneud?

Fel plymwr, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Gosod systemau dŵr poeth ac oer, glanweithdra a draenio
  • Gosod systemau casglu dŵr glaw a darnau gwrth-ddŵr plwm
  • Gosod systemau gwres canolog ac offer llosgi tanwydd domestig sy'n defnyddio nwy, olew neu danwydd solet
  • Dylunio systemau dŵr a gwresogi
  • Torri ac uno pibellau a ffitiadau
  • Mesur neu asesu safleoedd i roi amcan bris i gleientiaid
  • Gwasanaethu systemau ac atgyweirio diffygion
  • Ymateb i alwadau brys megis llifogydd neu foeleri wedi torri
  • Gweithio yng nghartref neu fusnes cleient, dan amgylchiadau llychlyd neu gyfyng yn aml.

Faint allech ei ennill fel plymwr?

  • Gall plymwyr sydd newydd eu hyfforddi ennill £19,000 - £25,000
  • Gall plymwyr wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £25,000 - £30,000
  • Gall uwch blymwyr neu rai sy'n feistr ar eu crefft ennill £30,000 - £60,000
  • Bydd plymwyr hunangyflogedig yn pennu eu cyfraddau cyflog eu hunain.*

 Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer plymwyr:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Mae plymwyr yn delio â thechnolegau sy'n newid yn gyflym, felly bydd angen hyfforddiant rheolaidd i sicrhau fod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf.

Gallech arbenigo mewn un maes plymio megis glanweithdra, aerdymheru neu awyru.  

Os ydych yn gweithio fel rhan o dîm mwy, gallech ddod yn amcangyfrifwr, neu symud ymlaen i fod yn arweinydd tîm neu'n uwch reolwr. 

Gallech astudio am Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu radd i ddod yn beiriannydd. Byddai hynny'n caniatáu i gael gyrfa ym maes peirianneg gwasanaethau adeiladu a swyddi adeiladu eraill â chyflog cyfartalog uwch.

Bydd rhai plymwyr yn dod yn hyfforddwyr neu'n diwtoriaid mewn colegau lleol, i drosglwyddo eu sgiliau. Gallech hefyd ddod yn hunangyflogedig a gweithio fel is-gontractwr.


Dyluniwyd y wefan gan S8080