Facebook Pixel

Pensaer

Mae penseiri yn llunio ein hamgylchedd yn greadigol trwy ddylunio'r adeiladau a'r gofodau o'n cwmpas. Maent yn dod â strwythurau newydd yn fyw ac yn adfer neu'n adnewyddu'r rhai presennol. Mae penseiri yn cydweithredu ag eraill i sicrhau bod dyluniadau'n addas at y diben ac yn ddiogel, p'un a ydynt yn gweithio ar adeiladau unigol neu ddatblygiadau mawr.

Cyflog cyfartalog*

£40000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

35-40

Y nifer sy’n gyflogedig yn y DG

43,630

Sut i ddod yn Pensaer

Gallwch chi ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy astudio ar gwrs prifysgol neu wneud prentisiaeth.

Efallai y bydd arnoch angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) i weithio ar safle adeiladu.

Y Brifysgol

I gymhwyso fel pensaer bydd angen i chi gwblhau gwneud cwrs prifysgol pum mlynedd a gydnabyddir gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) - a gaiff ei ddilyn gan o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol.

I fynd ar gwrs gradd pensaernïaeth bydd arnoch angen:

  • 5 TGAU (gan gynnwys Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth) ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gyfwerth
  • 3 Lefel A (gan gynnwys mathemateg), neu gyfwerth
  • Diddordeb mewn celf a dylunio.

Bydd llawer o brifysgolion yn gofyn am weld portffolio o'ch lluniadau cyn eich derbyn ar y cwrs.

Canfod cwrs prifysgol.

Cyngor ar gyllido

Prentisiaeth

Gallwch ddod yn bensaer trwy wneud prentisiaeth gradd pensaer.

Ar gyfer hyn, bydd arnoch angen:

  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gyfwerth
  • Lefelau A, neu gyfwerth
  • Cyflogaeth gyda chwmni pensaernïol.

Gwaith

Gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni pensaernïol os oes gennych ddiddordeb/profiad yn y math hwn o waith. Gallech ddechrau eich gyrfa fel cynorthwyydd pensaernïol ac ennill cymwysterau yn rhan-amser.

Profiad gwaith

Er mwyn helpu i benderfynu a yw pensaernïaeth yn addas i chi, gwella'ch sgiliau a gwneud argraff ar gyflogwyr, gallech chi ennill rhywfaint o brofiad gwaith yn ychwanegol at y lleoliadau y byddwch chi'n ymgymryd â nhw wrth hyfforddi.


Beth mae pensaer yn ei wneud?

  • Gydgysylltu â chleientiaid i ddeall eu hanghenion
  • Ystyried gofynion cyllideb, diogelwch a chymunedau ar gyfer prosiect
  • Creu dyluniadau adeiladau newydd
  • Cynghori ar adfer a chadw adeiladau presennol
  • Sicrhau bod rheoliadau adeiladu, deddfau cynllunio ac ystyriaethau amgylcheddol yn cael eu diwallu
  • Lluniadu cynlluniau manwl a glasbrintiau gan ddefnyddio rhaglenni dylunio cyfrifiadurol
  • Gweithio'n agos â chontractwyr, peirianwyr, syrfewyr, cyfreithwyr ac adrannau cynllunio
  • Archwilio strwythurau yn ystod y cam adeiladu, i sicrhau eu bod yn diwallu gofynion
  • Goruchwylio penseiri eraill trwy gydol pob cam o ddylunio ac adeiladu adeilad
  • Sicrhau bod tasgau'n cael eu cwblhau mewn pryd ac yn unol â'r gyllideb
  • Gweithio mewn swyddfa, ag ymweliadau a chyfarfodydd safle achlysurol neu fynychl.

 


Faint allech chi ei ennill fel pensaer?

  • Mae cyflogau cychwyn ar gyfer cynorthwyydd pensaer yn ystod y cyfnod dan hyfforddiant fel arfer yn amrywio o £18,000 hyd at £30,000 y flwyddyn
  • Gall penseiri sydd wedi'u cofrestru'n ddiweddar ennill tua £30,000 a £35,000 
  • Gall penseiri wedi'u hyfforddi â phrofiad ennill  tua £35,000 a £60,000
  • Gall penseiri uwch neu siartredig ennill tua £50,000 a £100,000 

Bydd cyflogau'n dibynnu ar leoliad, cyflogwr a lefel gyfrifoldeb. Mae cyflogau a dewisiadau gyrfa hefyd yn gwella â statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Gwiriwch y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer penseiri:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Fe gaiff cyfleoedd newydd eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a dilyniant

Bydd eich dilyniant yn amrywio yn dibynnu ar ba lefel astudio rydych wedi'i chwblhau, beth rydych yn penderfynu arbenigo ynddo, a ble rydych yn dewis gweithio.

Mae llawer o benseiri yn arbenigo mewn un maes, megis pensaernïaeth gynaliadwy, adfer neu breswyl. Mae rhai'n mynd i mewn i dechnoleg bensaernïol ac yn creu cynlluniau adeiladu ac efelychiadau.

Cyflogir penseiri gan bractisau annibynnol, llywodraethau canolog a lleol, cwmnïau adeiladu, a sefydliadau masnachol a diwydiannol. Mae rhai penseiri'n gweithio ym myd addysg, yn sefydlu eu busnesau eu hunain, neu'n dod yn ymgynghorwyr prosiectau llawrydd.

Os ydych yn gweithio i bractis preifat, efallai y gallwch symud i fyny i rôl uwch bensaer, partner neu gyswllt. Mewn rolau sector cyhoeddus, gallech ddod yn rheolwr prosiect neu'n bensaer arweiniol.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Pensaer Mae gan benseiri y gwaith heriol ond hynod foddhaus o gyflwyno adeiladau newydd ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr prosiect Rheolwr prosiect sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw fath o waith adeiladu...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Cyfarwyddwr adeiladu Cyfarwyddwyr adeiladu sy'n gyfrifol am gynllunio a rheoli'r holl weithgareddau y...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080