Facebook Pixel

Peiriannydd weldio

Mae peirianwyr weldio wedi’u hyfforddi fel weldwyr, ac yn gwneud gwaith dylunio, cynnal a datblygu ar amrywiaeth eang o systemau weldio mewn diwydiannau fel awyrofod, adeiladu a pheirianneg sifil. Efallai y byddan nhw’n ymchwilio i dechnegau weldio mwy effeithiol neu’n dylunio offer mwy effeithlon i helpu gyda’r broses weldio.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

35-40

Sut i fod yn beiriannydd weldio?

Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannydd weldio. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu drwy wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn beiriannydd weldio, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol/cynllun hyfforddi graddedigion

Gallwch ddod yn beiriannydd weldio drwy gwblhau gradd mewn pwnc perthnasol fel peirianneg neu ddisgyblaeth debyg. Gallech chi gwblhau gradd sylfaen wedi’i hachredu gan y diwydiant, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu radd israddedig.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech chi gwblhau cwrs coleg i fod yn saer weldio ac yna gweithio tuag at ennill cymwysterau uwch i fod yn beiriannydd weldio.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu neu gwmni saernïo dur yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi gymwysterau perthnasol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel peiriannydd weldio. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i beiriannydd weldio mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd weldio Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd weldio:

  • Gwybodaeth am wyddoniaeth a thechnoleg peirianneg
  • Sgiliau dylunio a gwybodaeth amdano
  • Gwybodaeth am fathemateg
  • Sgiliau meddwl a rhesymu
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol

Cymwysterau


Beth mae peiriannydd weldio yn ei wneud?

Fel peiriannydd weldio, gallech chi fod yn:

  • Gwneud gwaith dylunio, cynnal a datblygu ar amrywiaeth eang o systemau a chyfarpar weldio
  • Defnyddio’r technegau diweddaraf, fel technoleg pelydrau laser ac electron, mewn amrywiaeth eang o brosiectau adeiladu
  • Hyfforddi weldwyr eraill ar dechnegau a phrosesau newydd neu newidiadau i ddyluniadau
  • Gwerthuso prosesau, goruchwylio weldwyr ar brosiect a gwneud mân newidiadau i’r broses er mwyn gwneud gwelliannau
  • Lleolir y swydd mewn un lleoliad, ond efallai y bydd cyfleoedd i gael secondiad naill ai yn y DU neu dramor.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel peiriannydd weldio?

Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd weldio yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall peirianwyr weldio sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall peirianwyr weldio hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £30,000
  • Gall uwch beirianwyr weldio ennill mwy na £35,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. Mae cyflogau ac opsiynau gyrfa yn gwella os bydd gennych statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr weldio:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gallech chi ddechrau fel peiriannydd weldio dan hyfforddiant. Unwaith y byddwch yn beiriannydd weldio cwbl gymwys, gallech chi fod yn uwch beiriannydd weldio neu weithio fel rheolwr ac ennill cyflog uwch.

Byddwch yn gwella eich cyflogadwyedd ac yn ennill cyflog uwch drwy ennill statws siartredig drwy’r Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB) neu sefydliad proffesiynol arall fel The Welding Institute.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peiriannydd weldio Dylunio a datblygu amrywiaeth eang o systemau a chyfarpar weldio ar gyfer prosie...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arweinydd Tîm Adeiladu Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa fel Goruchwyliwr Galwedigaethol. Byddwch yn g...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd strwythurol Mae peirianwyr strwythurol yn dylunio strwythurau i wrthsefyll straen a phwysau ...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080