Facebook Pixel

Peiriannydd priffyrdd

A elwir hefyd yn -

Rheolwr rheoli priffyrdd

Mae peirianwyr priffyrdd yn gyfrifol am sicrhau bod y miloedd o filltiroedd o ffyrdd ledled Prydain mewn cyflwr da. Mae tair prif gangen i beirianneg priffyrdd: cynllunio, ymchwil ac adeiladu. Mae’r rhan fwyaf o beirianwyr priffyrdd yn arbenigo mewn un o’r meysydd hyn.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£50000

Sut i fod yn beiriannydd priffyrdd

Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannydd priffyrdd. Gallech gwblhau gradd prifysgol neu gwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

I fod yn beiriannydd priffyrdd gallech astudio ar gyfer gradd israddedig yn y brifysgol. Dyma rai pynciau perthnasol:

  • Peirianneg sifil
  • Peirianneg strwythurol
  • Peirianneg amgylcheddol.

Bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, arnoch.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech astudio mewn coleg i'ch helpu i ddod yn beiriannydd priffyrdd dan hyfforddiant. Mae cyrsiau coleg perthnasol yn cynnwys: 

  • Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) Lefel 4 mewn Peirianneg Sifil
  • Diploma Genedlaethol Uwch (HND) Lefel 5 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig.

Bydd angen 1 - 2 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, arnoch i astudio am HNC neu HND.

Prentisiaeth

Gallech gwblhau gradd-brentisiaeth mewn peirianneg sifil ac yna arbenigo mewn bod yn beiriannydd priffyrdd

Mae prentisiaeth gyda chwmni peirianneg yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych brofiad fel technegydd cynnal priffyrdd neu weithiwr cynnal priffyrdd, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni peirianneg sifil arbenigol, neu awdurdod lleol, i gael profiad ar safle fel peiriannydd priffyrdd dan hyfforddiant. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i beiriannydd priffyrdd mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd priffyrdd. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd priffyrdd: 

  • Gwybodaeth am wyddoniaeth, mathemateg a thechnoleg peirianneg
  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sgiliau dylunio 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol

Beth mae peiriannydd priffyrdd yn ei wneud?

Fel peiriannydd priffyrdd, byddwch yn gyfrifol am gynllunio, dylunio a goruchwylio prosiectau sy’n cadw rhwydweithiau ffyrdd i weithredu’n effeithlon. 

Gall swydd peiriannydd priffyrdd gynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Dylunio cynlluniau ffyrdd lleol a chynnal y rhwydwaith ffyrdd, gan gynnwys strwythurau fel pontydd
  • Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i adeiladu a chynnal ffyrdd
  • Dod o hyd i atebion newydd i broblemau trafnidiaeth
  • Cynllunio ar gyfer prosiectau cynnal a chadw a gwella priffyrdd 
  • Sicrhau bod ffyrdd yn cael eu cadw’n glir ac ar agor yn y gaeaf
  • Cynllunio a goruchwylio prosiectau newydd
  • Paratoi dogfennau tendr a dogfennau contract
  • Rheoli timau adeiladu a glynu wrth ganllawiau iechyd a diogelwch
  • Cynnal asesiadau risg
  • Delio â rhanddeiliaid gan gynnwys cleientiaid, arbenigwyr trafnidiaeth a’r cyhoedd
  • Mynd ati i ddylunio cynlluniau ffyrdd newydd i’r safonau technegol priodol uchaf
  • Cynorthwyo i baratoi amcangyfrifon o adnoddau dylunio 
  • Amcangyfrif costau adeiladu
  • Sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n brydlon ac o fewn y gyllideb.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel peiriannydd priffyrdd?

Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd priffyrdd yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall peirianwyr priffyrdd sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall peirianwyr priffyrdd hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £45,000
  • Gall uwch beirianwyr priffyrdd ennill oddeutu £50,000

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr priffyrdd: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel peiriannydd priffyrdd, gallech symud ymlaen i fod yn uwch reolwr. Neu, gallech sefydlu eich hun fel ymgynghorydd prosiectau hunangyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peiriannydd priffyrdd Helpwch i gynnal y miloedd o ffyrdd ledled Prydain ac adeiladu rhai newydd. Gall...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Technegydd cynnal a chadw priffyrdd Byddwch yn rhan o’r tîm sy’n ymwneud ag archwilio ffyrdd a nodi materion diogelw...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080