Facebook Pixel

Peiriannydd gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC)

A elwir hefyd yn -

Gosodwr systemau oeri ac aerdymheru, Peiriannydd Aerdymheru

Mae peirianwyr gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC) yn gosod ac yn gwasanaethu systemau ansawdd aer a thymheredd mewn cartrefi, busnesau a cherbydau.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

48-50

Sut i fod yn beiriannydd gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC)

Mae sawl llwybr i fod yn beiriannydd gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC). Gallech chi gwblhau cwrs coleg, neu brentisiaeth. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn beiriannydd HVAC i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Mae amrywiaeth o gyrsiau coleg y gallech eu dilyn i’ch helpu ar eich taith i fod yn beiriannydd HVAC, fel: 

  • Tystysgrif Lefel 1 mewn Systemau Oeri ac Aerdymheru 
  • Diploma Lefel 2 mewn Mynediad at Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu 
  • Diploma Lefel 2 mewn Gosod a Chynnal Systemau Oeri 
  • Diploma City & Guilds Lefel 2 a 3 mewn Gosod Cyfarpar Trydanol 
  • Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Plymio a Gwresogi Domestig 
  • Diploma Lefel 3 mewn Systemau Oeri, Aerdymheru a Phympiau Gwres. 

Bydd angen y canlynol arnoch: 

Prentisiaeth

Gallech chi hyfforddi i fod yn beiriannydd HVAC drwy gwblhau prentisiaeth ganolraddol neu uwch mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu neu beirianneg oeri, aerdymheru a phympiau gwres. Neu, gallech chi gofrestru ar brentisiaeth ganolradd mewn gosodiadau plymio neu drydanol.  

Bydd angen y canlynol arnoch: 

  • 2 - 4 TGAU, fel arfer yn cynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol (prentisiaeth ganolradd) 
  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch) 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.  

Gwaith

Os oes gennych chi TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) gan gynnwys Saesneg a mathemateg, a sgiliau ymarferol da, gallech wneud cais am swydd fel mêt, hyfforddai neu gynorthwyydd trydanwr neu blymiwr. Gallech chi wedyn gael rhagor o hyfforddiant i ddatblygu eich sgiliau neu arbenigo mewn gwresogi, awyru ac aerdymheru.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd HVAC. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd HVAC:  

  • Dealltwriaeth o adeiladu 
  • Gallu defnyddio offer a pheiriannau 
  • Sylw ardderchog i fanylion 
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid da 
  • Sgiliau meddwl yn rhesymegol 
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun 

Beth mae peiriannydd gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC) yn ei wneud?

Fel peiriannydd gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC), byddwch yn sicrhau bod systemau awyru a thymheredd yn gweithio’n effeithlon ac yn ddiogel. 

Mae swydd peiriannydd HVAC yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Arolygu safleoedd cyn gosod systemau gwresogi, awyru neu aerdymheru 
  • Cynllunio’r gwaith o osod pibellau, dwythellau a phaneli rheoli 
  • Gosod cydrannau HVAC 
  • Cynnal gwiriadau ansawdd i sicrhau bod systemau’n gweithio’n effeithlon ac yn ddiogel 
  • Gwneud gwaith cynnal a chadw ar systemau HVAC 
  • Canfod a thrwsio namau
  • Helpu cwsmeriaid i ddefnyddio llai o ynni

Faint allech chi ei ennill fel peiriannydd gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC)?

Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd HVAC yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall peirianwyr HVAC sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £20,000 
  • Gall peirianwyr HVAC ennill hyd at £35,000 
  • Peirianwyr HVAC hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr HVAC:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel peiriannydd HVAC, gallech chi naill ai weithio i fusnes sefydledig, neu sefydlu eich hun fel gosodwr neu ymgynghorydd hunangyflogedig.


Dyluniwyd y wefan gan S8080