Facebook Pixel

Peintiwr ac addurnwr

Mae paentwyr ac addurnwyr yn dod â lleoedd bob dydd yn fyw. Maent yn paratoi ac yn gosod paent, papur wal a gorffeniadau eraill ar arwynebau, dan do ac yn yr awyr agored. Fel paentiwr ac addurnwr, byddai galw mawr am eich gwasanaeth. Gallech chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drawsnewid prosiectau preswyl, masnachol a diwydiannol, neu gallech arbenigo mewn gwaith adnewyddu neu gynnal adeiladau treftadaeth.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

42-44

Y nifer sy’n gyflogedig yn y DG

112,800

Sut i ddod yn baentiwr ac addurnwr

Mae sawl ffordd o ddod yn beintiwr ac addurnwr. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu eich darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau, fel Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Peintio ac Addurno.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 2 TGAU neu fwy ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 2)
  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 3).

Mae rhai colegau'n cynnig cyrsiau byr, rhan-amser yn y maes peintio ac addurno a allai fod yn ffordd dda o weld os mai dyma'r swydd iawn i chi, yn enwedig os nad oes gennych chi brofiad neu os ydych chi'n ystyried newid gyrfa.

Hyfforddeiaeth

Os ydych chi rhwng 16 a 24 oed, efallai eich bod yn gymwys i wneud hyfforddeiaeth. Cwrs byr yw hwn (2 wythnos - 6 mis) sy’n eich helpu i gael profiad gwaith yn y rôl o’ch dewis.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni peintio ac addurno yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Mae’n cymryd oddeutu dwy flynedd i gwblhau prentisiaeth ganolradd. Os gall eich cyflogwr roi'r profiadau iawn i chi, gallech symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch neu arbenigo mewn adnewyddu treftadaeth a hanesyddol.

Efallai y bydd angen TGAU (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) neu gymhwyster cyfatebol arnoch i ddilyn prentisiaeth, ond nid yw pob cyflogwr yn gofyn am gymwysterau ffurfiol.

Gwaith

Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i waith yn helpu peintiwr/addurnwr cymwys ac ennill cymwysterau drwy astudio’n rhan-amser.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peintiwr ac addurnwr:

  • Gweithio’n drylwyr a rhoi sylw i fanylion
  • Hyblyg ac yn agored i newid
  • Gallu derbyn beirniadaeth a gweithio’n dda dan bwysau
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid
  • Gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd
  • Sgiliau rheoli busnes
  • Gallu cyflawni tasgau sylfaenol ar gyfrifiadur neu ddyfais yn y llaw

Cymwysterau


Beth mae peintiwr ac addurnwr yn ei wneud?

Fel peintiwr ac addurnwr, byddwch yn gyfrifol am amryw o wahanol dasgau – fel rhoi paent a staeniau ar ystafelloedd, dodrefn neu gyfarpar newydd, neu gallech chi fod yn cynorthwyo gyda phrosiectau eraill.

Mae swydd peintiwr ac addurnwr yn amrywio, a gall gynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Rhoi paent, staeniau, farneisiau a gorffeniadau eraill
  • Defnyddio brwshys, rholeri neu gyfarpar chwistrellu
  • Rhoi paent preimio a chotiau isaf, neu farneisiau a gwydreddau
  • Gosod papur wal
  • Cyfrifo faint o ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer prosiect
  • Tynnu hen baent neu bapur wal drwy sandio neu grafu, neu drwy ddefnyddio gynnau gwres, hylif codi paent neu stemwyr tynnu paent neu bapur wal
  • Cymysgu paent i arlliw a gytunwyd arno
  • Gosod gorchuddion llwch i ddiogelu ardaloedd rhag paent
  • Paratoi arwynebau ar gyfer addurno drwy lenwi tyllau a selio craciau
  • Tacluso a glanhau eich offer
  • Gweithio yng nghartrefi neu fusnesau eich cleientiaid.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel peintiwr ac addurnwr?

Mae’r cyflog disgwyliedig i beintiwr ac addurnwr yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall peintwyr ac addurnwyr sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall peintwyr ac addurnwyr hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £30,000
  • Gall peintwyr ac addurnwyr uwch/meistr ennill £30,000 - £50,000
  • Peintwyr ac addurnwyr hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer peintwyr ac addurnwyr 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Ar ôl i chi gymhwyso, fe allech chi wneud NVQ Lefel 3 mewn Gorffeniadau Addurnol a Phaentio Diwydiannol i wella eich rhagolygon am waith.

Gydag amser, gallech symud ymlaen i fod yn rheolwr tîm neu’n oruchwyliwr ac ennill cyflog uwch. Gallech symud i faes adeiladu cysylltiedig fel dylunio mewnol, cadwraeth hanesyddol neu ddylunio setiau. Neu, gallech hyfforddi i amcangyfrif neu reoli contractau.

Mae rhai peintwyr ac addurnwyr yn sefydlu eu busnes eu hunain. Gallech weithio fel is-gontractwr ar brosiectau mwy a gosod eich cyfraddau tâl eich hun.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peintiwr ac addurnwr Trawsnewidiwch ofodau bob dydd drwy baentio, papuro waliau a gweithio gyda chlei...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Contractwr hunangyflogedig Fel contractwr neu is-gontractwr, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch cle...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080