Facebook Pixel

Modelwr trafnidiaeth

A elwir hefyd yn -

Cynllunydd trafnidiaeth

Mae modelwyr trafnidiaeth yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol arbenigol i ddylunio a datblygu llwybrau trafnidiaeth. Fel modelydd trafnidiaeth, gallech ddylunio sut mae gosodiadau ffyrdd newydd yn cysylltu â systemau trafnidiaeth presennol. Gallech fod yn dylunio systemau unffordd neu wyriadau, tra bod ffyrdd eraill yn cael eu hatgyweirio, neu’n cynllunio systemau trafnidiaeth cyn digwyddiadau mawr, fel gwyliau neu brotestiadau.

Cyflog cyfartalog*

£30000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

41-43

Sut i fod yn fodelwr trafnidiaeth

Mae sawl ffordd o ddod yn fodelwr trafnidiaeth. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr os oes gennych brofiad perthnasol. 

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn fodelwr trafnidiaeth i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i chi gael gradd i fod yn fodelwr trafnidiaeth.

I astudio gradd israddedig, bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol arnoch fel arfer.

Mae llawer o raddedigion yna’n mynd ymlaen i wneud cymhwyster ôl-radd cymeradwy mewn cynllunio trafnidiaeth, a gynigir gan y Gymdeithas Cynllunio Trafnidiaeth

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg sy'n ymwneud â TG neu Ddylunio â Chymorth Cyfrifiadur, i'ch helpu i baratoi am yrfa fel modelwr trafnidiaeth.  

Yn gyffredinol, bydd angen i chi gael 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Gallech ddechrau drwy ddilyn prentisiaeth uwch technegydd cynllunio trafnidiaeth, ac yna symud ymlaen i radd brentisiaeth fel cynllunydd trafnidiaeth.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch)
  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefelau A, neu gymhwyster cyfatebol (uwch brentisiaeth neu radd-brentisiaeth).

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad yn y sector rheoli trafnidiaeth, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel modelwr trafnidiaeth. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i fodelwr trafnidiaeth mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel modelwr trafnidiaeth. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel modelwr trafnidiaeth: 

  • Gwybodaeth am ddulliau, costau a manteision trafnidiaeth
  • Gwybodaeth am fathemateg, peirianneg, gwyddoniaeth a daearyddiaeth
  • Sgiliau dylunio a gwybodaeth amdano
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol a datrys problemau
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill
  • Sylw da i fanylion

Cymwysterau


Beth mae modelwr trafnidiaeth yn ei wneud?

Fel modelwr trafnidiaeth, byddwch yn gwneud gwaith ymchwil ac yn defnyddio modelu cyfrifiadurol i ddylunio systemau ffyrdd a thraffyrdd newydd neu ragweld effaith gwyriadau angenrheidiol (ar gyfer gwaith atgyweirio priffyrdd) ar ffyrdd presennol, neu ddatblygiadau newydd fel canolfannau siopa. 

Mae swydd modelwr trafnidiaeth yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol arbenigol i ddylunio a datblygu modelau trafnidiaeth i ragweld y defnydd a fydd yn cael ei wneud o ffyrdd yn y dyfodol
  • Efelychu problemau trafnidiaeth
  • Deall pryderon amgylcheddol ynghylch trafnidiaeth
  • Bod yn ymwybodol o’r rheoliadau a’r cyfarwyddebau cyfredol
  • Gweithio mewn tîm i ddod o hyd i’r atebion mwyaf effeithlon i ddatblygu systemau trafnidiaeth o ran amser a chost
  • Dadansoddi a dehongli data o astudiaethau trafnidiaeth
  • Rhagweld effaith datblygiadau newydd, fel canolfnnau siopa neu wyriadau, ar systemau trafnidiaeth
  • Rheoli traffig drwy godi tâl am dagfeydd neu fesurau rheoli parcio
  • Astudio mannau lle mae damweiniau cyson er mwyn dylunio gwelliannau i ddiogelwch ar y ffordd
  • Creu lluniadau technegol manwl gywir
  • Ychwanegu gwybodaeth newydd am ffyrdd i gronfeydd data
  • Cysylltu rhwng timau ac adrannau
  • Ymweld â lleoliadau i asesu safleoedd drosoch eich hun.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel modelwr trafnidiaeth?

Mae’r cyflog disgwyliedig i fodelwr trafnidiaeth yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall modelwyr trafnidiaeth sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £30,000 - £35,000
  • Gall modelwyr trafnidiaeth gyda pheth brofiad ennill £35,000 - £40,000
  • Gall modelwyr trafnidiaeth uwch, siartredig neu feistr ennill £40,000 - £60,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer modelwyr trafnidiaeth: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel modelwr trafnidiaeth, gallech ddod yn gynllunydd trafnidiaeth uwch neu siartredig drwy gymwysterau fel y cymhwyster Proffesiynol Cynllunio Trafnidiaeth. Gallech hefyd symud ymlaen i faes cynllunio trefi, datblygu polisi neu ymgynghori amgylcheddol.


Dyluniwyd y wefan gan S8080