Facebook Pixel

Gweithiwr tynnu asbestos

Mae gweithwyr tynnu asbestos yn mynd ati i dynnu deunyddiau sy’n cynnwys asbestos yn ddiogel. Mae asbestos yn gymysgedd o fwynau sy'n cynnwys ffibrau microsgopig, a oedd yn cael eu defnyddio’n draddodiadol ar gyfer insiwleiddio. Mae bellach wedi’i wahardd yn y DU oherwydd y risgiau i iechyd ond mae’n dal i fod yn bresennol mewn llawer o adeiladau. Wrth i waith adnewyddu gael ei wneud, bydd galw o hyd am weithwyr tynnu asbestos hyfforddedig.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£35000

Sut i fod yn weithiwr tynnu asbestos

Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr tynnu asbestos. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithiwr tynnu asbestos, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Er nad oes angen cymwysterau penodol i fod yn weithiwr tynnu asbestos, gall fod yn fuddiol cael TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg. 

Bydd angen i chi gael hyfforddiant arbenigol mewn tynnu asbestos a chwblhau cwrs sydd wedi'i gymeradwyo gan Gymdeithas Hyfforddiant Asbestos y DU (UKATA) pan fyddwch yn gweithio.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn weithiwr tynnu asbestos.

Gallech ddod yn brentis gweithiwr dymchwel os ydych chi dros 18 oed. Pan fyddwch yn 16 oed, gallech ddechrau fel gweithiwr peiriannau adeiladu ac arbenigo mewn tynnu asbestos ar ôl i chi gymhwyso. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych rywfaint o brofiad sylfaenol fel gweithiwr adeiladu neu weithiwr dymchwel, efallai y bydd eich cyflogwr yn eich enwebu i gael hyfforddiant penodol ar gyfer tynnu asbestos.

Rhaid i’r hyfforddiant hwn gydymffurfio â chanllawiau cyfredol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hefyd angen trwydded i weithio gydag asbestos, a gyhoeddir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. 

Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i weithiwr tynnu asbestos mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr tynnu asbestos. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr tynnu asbestos: 

  • Hyfforddiant arbenigol mewn tynnu asbestos
  • Sgiliau meddwl yn rhesymegol
  • Sgiliau da o ran gweithio mewn tîm
  • Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch.

Cymwysterau


Beth mae gweithiwr tynnu asbestos yn ei wneud?

Fel gweithiwr tynnu asbestos, byddwch yn gyfrifol am dynnu asbestos yn ddiogel o safleoedd adfer a dymchwel. Bydd angen i chi weithio gyda chontractwyr tynnu asbestos trwyddedig yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae'n rhaid i'r sefydliadau hyn wneud cais i'r HSE am drwydded i weithio gydag asbestos mewn amgylchedd a reolir yn dynn.

Mae rôl gweithiwr tynnu asbestos yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Adeiladu llociau pwrpasol o amgylch y deunydd sy'n cynnwys asbestos
  • Tynnu asbestos yn ddiogel o nenfydau, waliau, bwyleri a mwy, a chael gwared arno
  • Defnyddio amrywiaeth o offer arbenigol gan gynnwys chwistrellwyr di-aer a chyfarpar chwistrellu
  • Gwisgo cyfarpar diogelu arbenigol gan gynnwys gorchuddion a mwgwd wyneb llawn
  • Cael cawod mewn uned ddadhalogi ar ddiwedd pob shifft
  • Gweithio ar safleoedd diwydiannol, mewn siopau, swyddfeydd, a chartrefi pobl.

Sut beth yw bod yn weithiwr tynnu asbestos?

Kieran McCabe


Faint allech chi ei ennill fel gweithiwr tynnu asbestos?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr tynnu asbestos yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gweithwyr tynnu asbestos sydd newydd eu hyfforddi ennill tua £20,000
  • Gall gweithiwyr tynnu asbestos hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £25,000
  • Gall goruchwylwyr tynnu asbestos ennill £25,000 - £35,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithwyr tynnu asbestos: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gweithiwr tynnu asbestos, gallech symud ymlaen i swydd uwch fel goruchwyliwr, arweinydd tîm neu reolwr.


Dyluniwyd y wefan gan S8080