Facebook Pixel

Gweithiwr drilio tir

A elwir hefyd yn -

Peiriannydd drilio, driliwr tir

Mae gweithiwr drilio tir yn gyfrifol am ymchwilio i dir cyn drilio i mewn iddo, er mwyn gosod strwythurau fel twneli neu ffynhonnau ar gyfer nwy neu olew. Fel gweithiwr drilio tir, byddwch chi’n gweithio’n agos gyda syrfewyr, daearegwyr a gwyddonwyr daearegol, ac yn monitro’r cynnydd o ran drilio, goruchwylio’r gwaith o reoli diogelwch a sicrhau bod yr amgylchedd o’i gwmpas yn cael ei ddiogelu.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£35000

Sut i fod yn weithiwr drilio tir

Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr drilio tir. Mae prentisiaeth yn un ffordd gyffredin o ddechrau arni yn y rôl hon, neu gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr, am hyfforddiant yn y gwaith. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech chi gwblhau Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Drilio Tir (Adeiladu) gyda darparwr hyfforddiant arbenigol, i ddod yn weithiwr drilio tir. 

Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni drilio arbenigol yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallech chi gwblhau prentisiaeth drilio tir i ddod yn weithiwr drilio tir. 

Bydd angen i chi gael 2 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni drilio arbenigol i gael profiad ar safle fel gweithiwr drilio tir. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i weithiwr drilio tir mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr drilio tir. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr drilio tir: 

  • Sgiliau cyfathrebu cadarn
  • Galluoedd rhifedd a TG da
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Sgiliau da o ran gweithio mewn tîm
  • Gallu gweithio dan bwysau.

Cymwysterau


Beth mae gweithiwr drilio tir yn ei wneud?

Fel gweithiwr drilio tir, byddwch yn gyfrifol am ymchwilio i’r tir ar amrywiaeth o wahanol safleoedd adeiladu cyn drilio tyllau i mewn iddo i greu ffynhonnau nwy neu dwneli.

Mae swydd gweithiwr drilio tir yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Arolygu safleoedd a dadansoddi data
  • Llunio rhaglenni drilio
  • Monitro iechyd a diogelwch
  • Cynllunio ffyrdd o leihau effaith amgylcheddol
  • Growtio ac angori
  • Cymryd samplau o ddyddodion mwynau, pridd neu ddŵr daear
  • Gosod ffynhonnau neu dwneli tanddaearol
  • Cymryd rhan mewn prosiectau tirlenwi a geothermol.

Sut beth yw bod yn weithiwr drilio tir?

Lee Allardyce


Faint o gyflog allech chi ei gael fel gweithiwr drilio tir?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr drilio tir yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gweithiwyr drilio tir sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £25,000
  • Gall gweithiwyr drilio tir hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £35,000*
  • Gall uwch weithiwyr drilio tir ennill mwy na £35,000.*
  • Gweithiwyr drilio tir hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithiwyr drilio tir: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gweithiwr drilio tir, gallech chi gwblhau rhagor o astudiaethau i fod yn syrfewyr tir, neu drosglwyddo eich sgiliau i rôl fel gweithiwr twnelu neu beiriannydd geo-dechnegol.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gweithiwr drilio tir Gweithiwyr Drilio Tir sy’n gyfrifol am asesu’r safle adeiladu cyn i’r gwaith dde...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Contractwr hunangyflogedig Fel contractwr neu is-gontractwr, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch cle...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd Gosod Allan Peirianwyr Gosod Allan yw'r prif gynghorwyr technegol i isgontractwyr a gweithre...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080