Facebook Pixel

Gweithiwr dosbarthu trydanol

A elwir hefyd yn -

Gweithiwr dosbarthu trydanol, gweithiwr trosglwyddo

Mae gweithwyr dosbarthu trydanol yn gyfrifol am gynnal a chadw llinellau pŵer sy’n cysylltu adeiladau â’r grid cenedlaethol.

Cyflog cyfartalog*

£16000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

42-44

Sut i fod yn weithiwr dosbarthu trydanol

Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr dosbarthu trydanol. Gallech gwblhau cwrs coleg neu brentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithiwr dosbarthu trydanol i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Mae amrywiaeth o gyrsiau coleg y gallech eu dilyn i’ch helpu ar eich taith i fod yn weithiwr dosbarthu trydanol.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech hyfforddi i fod yn weithiwr dosbarthu trydanol drwy gwblhau uwch brentisiaeth fel crefftwr rhwydwaith pŵer, neu brentisiaeth uwch ar gyfer peirianwyr rhwydwaith pŵer trydanol. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych brofiad o weithio yn y diwydiant pŵer neu waith cynnal a chadw peirianneg drydanol mewn diwydiant arall, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am waith neu wneud cais am swydd ar raglen hyfforddiant peirianneg sy’n cael ei rhedeg gan gyflogwr. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr dosbarthu trydanol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr dosbarthu trydanol:  

  • Gwybodaeth am iechyd a diogelwch
  • Sylw trylwyr i fanylion 
  • Amynedd a dyfalbarhad 
  • Sgiliau meddwl yn rhesymegol 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol 
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun. 

Cymwysterau


Beth mae swyddog dosbarthu trydanol yn ei wneud?

Fel gweithiwr dosbarthu trydanol, byddwch yn gosod, yn cynnal a chadw ac yn atgyweirio llinellau pŵer i sicrhau bod cartrefi a busnesau yn cael eu cysylltu â’r grid cenedlaethol. 

Mae swydd gweithiwr dosbarthu trydanol yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Cydosod neu dynnu darnau cydrannol 
  • Ffurfweddu systemau trydanol  
  • Sicrhau bod cyfarpar technegol yn gweithio’n iawn 
  • Archwilio ceblau a phrofi cyfarpar yn rheolaidd  
  • Gosod a datgymalu offer, fel ceblau trawsyrru 
  • Adnabod a gwneud diagnosis o namau trydanol  
  • Gweithrediadau newid 
  • Gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd ac mewn mannau uchel. 

Faint allech chi ei ennill fel gweithiwr dosbarthu trydanol?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr dosbarthu trydanol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall gweithwyr dosbarthu trydanol sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £16,000 
  • Gall gweithwyr dosbarthu trydanol profiadol ennill hyd at £35,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithwyr dosbarthu trydanol:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gweithiwr dosbarthu trydanol, gallech chi symud ymlaen i swydd fel arweinydd tîm neu reolwr prosiect. Gyda hyfforddiant, gallech fod yn beiriannydd neu’n dechnegydd peirianneg drydanol. 


Dyluniwyd y wefan gan S8080