Facebook Pixel

Gweithiwr chwarel

A elwir hefyd yn -

Gweithiwr chwarel, glöwr brig, gweithiwr mwynglawdd brig, gweithiwr agregau

Mae gweithwyr chwarel yn defnyddio peiriannau pwerus i gloddio a drilio creigiau, tywod, llechi, graean a mwynau o chwareli a mwyngloddiau. Maent yn malu, yn cludo ac yn prosesu’r agregau hyn i’w defnyddio, yn aml ar safleoedd adeiladu.

Cyflog cyfartalog*

£16000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

53-55

Sut i fod yn weithiwr chwarel

Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr chwarel. Gallech gwblhau prentisiaeth neu, yn dibynnu ar eich profiad blaenorol, gallech wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithiwr chwarel i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau penodol ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.  

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithredu Peiriannau Adeiladu neu Ddiploma Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig i’ch helpu i gael y profiad sydd ei angen i fod yn weithiwr chwarel. 

Bydd angen y canlynol arnoch chi: 

Prentisiaeth

Gallech ddod yn weithiwr chwarel drwy brentisiaeth ganolradd fel gweithiwr peiriannau prosesu mwynau symudol a statig, neu drwy gwblhau prentisiaeth ganolradd gweithiwr peiriannau neu dechnegydd codi, neu NVQ/SVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peiriannau. 

Bydd angen rhywfaint o gymwysterau TGAU arnoch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol, ar gyfer prentisiaeth ganolradd. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.  

Gwaith

Os oes gennych brofiad ym maes adeiladu, mwyngloddio, neu ddefnyddio peiriannau trwm, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni i gael profiad ar safle fel gweithiwr chwarel. Efallai y gall eich cyflogwr eich cefnogi gydag unrhyw hyfforddiant ychwanegol sy'n angenrheidiol. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr chwarel. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr chwarel:  

  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Sylw da i fanylion 
  • Gallu defnyddio, atgyweirio, a chynnal a chadw peiriannau ac offer 
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill 
  • Ymwybyddiaeth ofodol dda 
  • Sgiliau da o ran gweithio mewn tîm 
  • Gallu gweithredu a rheoli offer. 

Beth mae gweithiwr chwarel yn ei wneud?

Fel gweithiwr chwarel, byddwch yn defnyddio peiriannau ac offer trwm i gloddio agregau o chwareli a mwyngloddiau, sy’n aml yn cael eu defnyddio yn y diwydiant adeiladu. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio peiriannau drilio dwfn neu ffrwydron i durio neu dorri creigiau.  

Mae swydd gweithiwr chwarel yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Defnyddio offer mecanyddol i gloddio cerrig, clai, tywod, graean ac agregau llechi
  • Defnyddio cyfarpar fel peiriannau malu creigiau a graddio cerrig 
  • Defnyddio offer drilio 
  • Cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch a chynnal a chadw cerbydau a pheiriannau 
  • Gosod a thanio ffrwydron 
  • Symud deunyddiau mewn tryciau mawr. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gweithiwr chwarel?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr chwarel yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall gweithwyr chwarel sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £16,000
  • Gall gweithwyr chwarel profiadol ennill hyd at £30,000*
  • Gweithwyr chwarel hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithwyr chwarel:   

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gweithiwr chwarel, gallech chi symud ymlaen i fod yn arweinydd tîm neu’n rheolwr peiriannau a goruchwylio logisteg ar safleoedd. 

Neu, gallech hyfforddi i fod yn beiriannydd chwarel, neu sefydlu eich hun fel gweithiwr hunan-gyflogedig. 

Gallech gael hyfforddiant pellach i arbenigo mewn iechyd a diogelwch ar y safle. 


Dyluniwyd y wefan gan S8080