Facebook Pixel

Gweithiwr adnoddau dynol

A elwir hefyd yn -

Cydlynydd adnoddau dynol, swyddog adnoddau dynol, cynorthwyydd adnoddau dynol

Mae rheolwyr adnoddau dynol yn datblygu ac yn gweithredu polisïau yn ymwneud ag arferion gwaith eu sefydliadau. Maen nhw’n cyflogi gweithwyr ac yn eu helpu i gael hyfforddiant a datblygiad er mwyn camu ymlaen yn eu gyrfaoedd. Maen nhw’n allweddol o ran goruchwylio amodau cyflogaeth, telerau cytundebol, negodi ar gyflogau, a materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cyflog cyfartalog*

£15000

-

£100000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i gael swydd ym maes adnoddau dynol

Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr adnoddau dynol. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch

drwy gwblhau cwrs yn y brifysgol neu’r coleg, neu brentisiaeth. Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr neu hyfforddi yn y gwaith.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr adnoddau dynol i weld pa un yw’r un iawn i chi.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol/cynllun hyfforddi graddedigion

Gallech chi gwblhau gradd mewn astudiaethau busnes, busnes gydag ieithoedd.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech chi gwblhau cwrs coleg i fod yn rheolwr adnoddau dynol.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallech chi gwblhau prentisiaeth uwch mewn cymorth adnoddau dynol, neu fod yn brentis gweinyddol ac, ar ôl cymhwyso, arbenigo i fod yn rheolwr adnoddau dynol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad fel rheolwr adnoddau dynol. Gallech chi ddechrau fel gweinyddwr busnes mewn adran Adnoddau Dynol cwmni, a gweithio eich ffordd i fyny drwy gael hyfforddiant a chael eich dyrchafu.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio ym maes adnoddau dynol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr adnoddau dynol:

  • Doniau gweinyddol
  • Sensitifrwydd a dealltwriaeth
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid.

Cymwysterau


Beth mae gweithwyr adnoddau dynol yn ei wneud?

Fel gweithiwr adnoddau dynol, byddwch yn gyfrifol am ofalu am y drefn recriwtio staff newydd, a goruchwylio eu lles, eu contractau a’u pryderon unwaith y byddant wedi dechrau yn eu swyddi.

Gall swydd gweithiwr adnoddau dynol gynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Recriwtio staff, ysgrifennu disgrifiadau swyddi, gwirio ffurflenni cais, creu rhestr fer o ymgeiswyr a chynnal cyfweliadau cychwynnol
  • Llunio a gweithredu polisïau i ddethol, datblygu a chadw staff
  • Goruchwylio lles staff
  • Gweithio’n agos gydag adrannau eraill i gyflwyno polisïau a gweithdrefnau
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y busnes
  • Goruchwylio polisïau iechyd a diogelwch
  • Datblygu a chyflwyno polisïau ar faterion fel amodau gwaith, rheoli perfformiad, cyfleoedd cyfartal, gweithdrefnau disgyblu a rheoli absenoldebau
  • Cynghori ar dâl, dyrchafiadau a buddion, gan gynnwys tâl salwch, tâl tadolaeth a mamolaeth
  • Cynnal adolygiadau cyflog
  • Negodi gyda staff a’u cynrychiolwyr (er enghraifft, swyddogion undebau llafur)
  • Gweinyddu’r gyflogres
  • Delio â chwynion ac anghydfodau staff a rhoi gweithdrefnau disgyblu ar waith
  • Gweithio mewn swyddfa.


Faint mae gweithwyr adnoddau dynol yn ei ennill?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithwyr adnoddau dynol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwr adnoddau dynol sydd newydd gael ei hyfforddi ennill £15,000 - £25,000
  • Gall rheolwyr adnoddau dynol gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £45,000
  • Gall uwch reolwyr adnoddau dynol ennill £75,000 - £100,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr adnoddau dynol:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Mae cyfleoedd i ddatblygu a chynyddu eich cyflog wrth i chi ennill profiad ym maes adnoddau dynol, yn enwedig os oes gennych gymhwyster gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).

Gyda phrofiad, gallech chi symud ymlaen i fod yn uwch reolwr. Gallech chi hefyd sefydlu eich ymgynghoriaeth eich hun sy’n cynnig gwasanaethau recriwtio neu gyngor ar gynllunio polisïau.


Dyluniwyd y wefan gan S8080