Facebook Pixel

Gosodwr ystafelloedd ymolchi

Mae gosodwyr ystafelloedd ymolchi yn gosod holl elfennau ystafelloedd ymolchi gan gynnwys cawodydd, baddonau, sinciau, toiledau ac unedau storio. Mae llawer o osodwyr ystafelloedd ymolchi yn gweithio fel rhan o dîm, sy'n cynnwys arbenigwyr. Felly, gallech fod yn tynnu hen unedau, gosod rhai newydd, gosod lloriau, plastro neu deilsio waliau, paentio ac addurno, plymio neu hyd yn oed gwneud gwaith trydanwr.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

43-45

Sut i ddod yn osodwr ystafelloedd ymolchi

Mae yna sawl llwybr i ddod yn osodwr ystafelloedd ymolchi. Gallech gwblhau cwrs coleg neu brentisiaeth. Os oes gennych sgiliau neu brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallwch anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr. 

Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Er y bydd rhai o'r opsiynau hyn yn rhestru gofynion o ran cymwysterau, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwr hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau a fyddai’n eich helpu i ddod yn osodwr ystafelloedd ymolchi, megis Tystysgrif Lefel 1 neu 2 mewn Gwaith Coed a Saernïaeth, Diploma Lefel 2 mewn Plymio, neu Ddiploma Lefel 2 mewn Ffitiadau Mewnol.

Byddwch angen:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. 

Mae prentisiaethau’n agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Mae prentisiaeth ganolradd yn cymryd tua dwy flynedd i'w chwblhau. Os yw’ch cyflogwr yn gallu cynnig y profiadau priodol i chi, gallech symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3.

Gallech gwblhau prentisiaeth ganolradd mewn ffitiadau mewnol, saernïaeth, teilsio, plymio neu osod systemau trydanol ac yna mynd ati i arbenigo mewn gosod ystafelloedd ymolchi.

Fel arall, efallai y dowch o hyd i gwmni gosod ystafelloedd ymolchi a wnaiff eich cyflogi trwy gyfrwng prentisiaeth uniongyrchol.

Efallai bydd angen cymwysterau TGAU arnoch (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) neu gyfwerth i wneud prentisiaeth, ond nid yw pob cyflogwr yn gofyn am gymwysterau ffurfiol. 

Gwaith

Os oes gennych brofiad neu gymwysterau perthnasol mewn gosod ceginau, gosod siopau, saernïaeth, plymio, teilsio neu osod systemau trydanol, efallai y gallwch anfon cais am swydd yn uniongyrchol at gyflogwr.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith o fewn y diwydiant adeiladu. Gellid bod wedi cael y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.  


Beth mae gosodwr ystafelloedd ymolchi yn ei wneud?

Fel gosodwr ystafelloedd ymolchi, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Tynnu a gwaredu hen unedau ac ystafelloedd
  • Mesur gofodau yn ôl cynlluniau dyluniadau
  • Mesur a thorri arwynebau gwaith
  • Defnyddio offer llaw a thrydanol
  • Nodi a marcio lleoliadau pibellau a cheblau cudd
  • Gosod unedau ac offer newydd
  • Plymio unedau ystafelloedd ymolchi
  • Teilsio waliau a gosod lloriau
  • Clirio ysbwriel ar ôl cwblhau'r gwaith
  • Gweithio yng nghartref neu fusnes cleient, o dan amgylchiadau llychlyd neu gyfyng yn aml.

 



Faint allech ei ennill fel gosodwr ystafelloedd ymolchi?

  • Gall gosodwyr ystafelloedd ymolchi sydd newydd eu hyfforddi ennill £19,000 - £25,000
  • Gall gosodwyr ystafelloedd ymolchi wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £25,000 - £30,000
  • Gall gosodwyr ystafelloedd ymolchi uwch neu rai sy'n feistr ar eu crefft ennill £30,000 - £50,000
  • Bydd gosodwyr ystafelloedd ymolchi hunangyflogedig yn pennu eu cyfraddau cyflog eu hunain. 

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi diweddaraf ar gyfer gosodwyr ystafelloedd ymolchi:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Ar ôl ennill profiad, gallech weithio gyda chwmnïau adeiladu, dylunwyr, gweithgynhyrchwyr ystafelloedd ymolchi a mân-werthwyr.

Gallech wneud rhagor o hyfforddiant er mwyn symud i feysydd cynllunio a dylunio, plymio neu addurno. Gallech hefyd symud i feysydd gosod ceginau neu osod siopau.

Fel arall, gallech ddatblygu i swydd uwch reolwr neu reolwr prosiectau i ennill cyflog uwch. Bydd rhai pobl yn dod yn hunangyflogedig ac yn gweithio fel isgontractwyr, ac yn aml iawn, byddant yn cynnig sgiliau arbenigol i osodwyr ystafelloedd ymolchi eraill.


Dyluniwyd y wefan gan S8080