Facebook Pixel

Gosodwr paneli solar

A elwir hefyd yn -

Gosodwr paneli solar ffotofoltäig, gosodwr solar, gosodwr PV

Mae gosodwyr paneli solar yn gosod paneli solar ar doeau a strwythurau ar dir, i drosi ynni solar yn ynni adnewyddadwy. Mae gosodwyr hefyd yn gyfrifol am gynnal paneli solar a sicrhau bod y systemau weirio’n ddiogel ac yn effeithlon.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£36000

Oriau arferol yr wythnos

30-40

Sut i fod yn osodwr paneli solar

Mae sawl ffordd o fod yn osodwr paneli solar. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs coleg neu brentisiaeth. Os oes gennych chi gymwysterau perthnasol yn barod, gallech chi wneud cais am swydd yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn osodwr paneli solar i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau, mae gan lawer o gyflogwyr ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.  

Coleg/darparwyr hyfforddiant 

Gallech ennill y sgiliau i’ch helpu i fod yn osodwr paneli solar yn y coleg drwy gwblhau cwrs fel Diploma City and Guilds Lefel 2 neu 3 mewn Gwaith Gosod Trydanol. 

Bydd angen y canlynol arnoch chi: 

  • 2 TGAU neu fwy (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau 9 i 3 (A* i D) (cwrs lefel 2). 
  • 4 i 5 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau 9 i 4 (A* i C) (cwrs lefel 3). 

Ar ôl i chi gymhwyso mewn gwaith gosod trydanol, gallech fynd ymlaen i hyfforddi i fod yn osodwr paneli solar drwy gwrs arbenigol. 

Prentisiaeth 

Gallech chi weithio tuag at fod yn osodwr paneli solar drwy gwblhau prentisiaeth ganolradd mewn gwaith gosod trydanol. Bydd hyn yn cymryd tua dwy flynedd i’w gwblhau a byddai’n eich galluogi i symud ymlaen i gymhwyster uwch, neu arbenigo mewn gosod paneli solar. 

Bydd angen o leiaf 4 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau 9 i 4 (A* i C) arnoch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, i fod yn brentis-drydanwr. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Gwaith

Os oes gennych chi TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) gan gynnwys Saesneg a mathemateg, a sgiliau ymarferol da, gallech wneud cais am swydd fel mêt, hyfforddai neu gynorthwyydd trydanwr. Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich cefnogi i hyfforddi i fod yn gwbl gymwys ac yna gallwch fynd ymlaen i ennill cymwysterau pellach ac arbenigo mewn gosod paneli solar. 

Profiad gwaith 

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gosodwr paneli solar. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr paneli solar:  

  • Gwybodaeth am systemau trydanol. 
  • Sgiliau mathemateg da 
  • Sgiliau dylunio a dealltwriaeth o hynny 
  • Sylw da i fanylion 
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol 
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill 
  • Y gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen. 

Beth mae gosodwr paneli solar yn ei wneud?

Fel gosodwr paneli solar, byddwch chi’n gyfrifol am osod a chynnal paneli solar ar adeiladau a thir i sicrhau eu bod yn effeithlon wrth drosi pŵer solar yn ynni adnewyddadwy. Bydd y rhan fwyaf o’ch gwaith fel gosodwr paneli solar yn yr awyr agored ac mewn mannau uchel.

Efallai y bydd swydd gosodwr paneli solar yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Asesu lleoliadau i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer paneli solar 
  • Mesur ardaloedd i’w gosod 
  • Addasu arwynebau adeiladau fel bod paneli’n ffitio ac yn cael eu cynnal yn ddigonol 
  • Gosod a chynnal paneli solar ar gartrefi, adeiladau busnes neu ar dir agored 
  • Cysylltu paneli solar â system drydanol 
  • Daearu cyfarpar trydanol a gwirio gwifrau  
  • Cadw at ganllawiau iechyd a diogelwch caeth. 
  • Cynnal archwiliadau cynnal a chadw a gosod paneli solar 
  • Defnyddio amrywiaeth o offer a chyfarpar technegol 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gosodwr paneli solar?

Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwr paneli solar yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall gosodwyr paneli solar sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 
  • Gall gosodwyr paneli solar profiadol ennill £36,000*. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i osodwyr paneli solar:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gosodwr paneli solar, gallech chi symud ymlaen i swydd fel arweinydd tîm neu reolwr prosiect. 

Neu, gallech sefydlu eich hun fel gweithiwr hunangyflogedig.


Dyluniwyd y wefan gan S8080