Facebook Pixel

Goruchwyliwr craen

Mae goruchwyliwr craen yn gyfrifol am oruchwylio symudiadau’r holl weithrediadau codi ar safle adeiladu er mwyn sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd y tîm.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

35-40

Sut mae dod yn oruchwyliwr craen

Mae sawl ffordd o ddod yn oruchwyliwr craen. Gallech gwblhau cwrs arbenigol yn y coleg neu brentisiaeth, a chael rhagor o gymwysterau a phrofiad i’ch helpu i symud i’r swydd.

I fod yn oruchwyliwr craen fel arfer bydd angen profiad arnoch fel gweithredwr craen, a cherdyn goruchwyliwr craen Cynllun Cymhwysedd Peiriannau Adeiladu (CPCS) dilys y gallwch ei gael drwy astudio gyda darparwr hyfforddiant. 

Mae gan lawer o gyflogwyr ddiddordeb clywed hefyd gan bobl sy'n frwdfrydig, yn barod i ddysgu ac sy'n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gofrestru ar gwrs hyfforddi arbenigol i ddysgu sut mae bod yn weithredwr peiriannau, fel Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peiriannau Adeiladu neu Ddiploma Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. Gyda rhagor o brofiad ar safle, gallech chi arbenigo fel goruchwyliwr craen.

Bydd angen y canlynol arnoch:

2 TGAU neu fwy ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 2)

4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 3). 

Prentisiaeth

Nid oes prentisiaeth benodol ar gyfer goruchwyliwr craen, ond gallech ddechrau ar eich gyrfa fel gweithredwr peiriannau dan brentisiaeth neu ddechrau mewn rôl sy'n rhoi profiad ar safleoedd adeiladu ac arbenigo mewn gweithredu craeniau a goruchwylio yn nes ymlaen. 

Gallech gwblhau prentisiaeth ganolradd i Weithredwyr Peiriannau neu Dechnegwyr Codi neu NVQ/SVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peiriannau. Mae’n cymryd oddeutu dwy flynedd i gwblhau prentisiaeth ganolradd.

Efallai y bydd angen TGAU (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) neu gymhwyster cyfatebol arnoch i ddilyn prentisiaeth, ond nid yw pob cyflogwr yn gofyn am gymwysterau ffurfiol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych brofiad fel gweithredwr peiriannau neu, yn fwy penodol, fel gweithredwr craen, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar y safle fel goruchwyliwr craen. Efallai y gall eich cyflogwr eich cefnogi i gael unrhyw hyfforddiant angenrheidiol.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel goruchwyliwr craen. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel goruchwyliwr craen: 

  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Dealltwriaeth o adeiladu 
  • Sylw da i fanylion
  • Gallu defnyddio, atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau ac offer
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill
  • Gallu gweithredu a rheoli offer.

Beth mae goruchwyliwr craen yn ei wneud?

Fel goruchwyliwr craen byddwch yn gyfrifol am reoli a diogelu’r rhai sy'n gweithio ar y safle. Byddwch yn gwneud yn siŵr y dilynir rheoliadau er mwyn cynnal iechyd a diogelwch bob amser. 

Mae swydd goruchwyliwr craen yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Gweithio fel rhan o dîm i sicrhau bod gweithrediadau codi yn cydymffurfio â’r gyfraith a’u bod yn sicrhau iechyd a diogelwch cyflogeion a phawb y mae’r gweithrediadau’n effeithio arnynt
  • Cydlynu a goruchwylio’r holl weithgareddau codi yn unol â’r Cynllun Codi
  • Briffio holl aelodau’r tîm codi
  • Bod yn bresennol yn ystod yr holl waith codi
  • Sicrhau bod cyflwr y tir yn ddiogel ar gyfer unrhyw weithrediadau sy’n cynnwys craeniau symudol
  • Cymryd camau priodol i gywiro amodau anniogel
  • Sicrhau mai dim ond gweithredwyr cofrestredig a staff penodedig sy’n rhan o unrhyw waith codi
  • Mewn swydd amser llawn, mae Goruchwylwyr Craeniau fel arfer yn gweithio rhwng 35 a 40 awr yr wythnos
  • Gall yr oriau gwaith amrywio ac efallai y bydd angen gweithio goramser er mwyn cadw at amserlenni prosiectau

Faint o gyflog allech chi ei gael fel goruchwyliwr craen?

Mae’r cyflog disgwyliedig i oruchwyliwr craen yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall goruchwylwyr craen sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £25,000
  • Gall goruchwylwyr craen hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £40,000
  • Gall uwch oruchwylwyr craen ennill mwy na £40,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i oruchwylwyr craen: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel goruchwyliwr craen, gallech ddatblygu eich sgiliau i fod yn rheolwr safle. Neu, gallech drosglwyddo eich sgiliau i fod yn fanciwr/signalwr.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Goruchwyliwr craen I’r rhai sy'n dymuno gweithio fel rhan o dîm, mae goruchwylwyr craen yn goruchwy...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr safle Mae rheolwyr safle yn rhedeg y gweithlu ar safle adeiladu. ...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080