Facebook Pixel

Gorffennwr concrid

Mae gorffenwyr concrid yn taenu ac yn tywallt concrid i greu gorffeniadau llyfn ar wynebau fel ffyrdd, palmentydd, lloriau a chyrbiau, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer arbenigol. Fel gorffennwr concrid, gallwch hefyd ddefnyddio ffurfiau (mowldiau) i greu blociau concrid ar gyfer prosiectau adeiladu.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£25000

Oriau arferol yr wythnos

35-40

Sut i fod yn orffennwr concrid

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn orffennwr concrid, mae sawl llwybr y gallech ei ddilyn i'ch helpu i ddilyn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs coleg neu brentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn orffennwr concrid i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg

I fod yn orffennwr concrid, byddai hyd at 5 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg ar radd 4 neu uwch o fudd.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth adeiladu i’ch helpu i ddod yn orffennwr concrid.

Bydd prentisiaethau ym maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, neu beirianneg yn rhoi’r cymwysterau angenrheidiol i chi ddechrau gweithio yn y maes hwn ac yn agor cyfleoedd i arbenigo mewn gorffeniadau concrid.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych brofiad blaenorol fel labrwr, gallech wneud cais am waith mewn cwmni adeiladu er mwyn datblygu eich sgiliau. Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig hyfforddiant i'ch helpu i arbenigo a dod yn orffennwr concrid. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gorffennwr concrid. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae sgiliau delfrydol ar gyfer gorffennwr concrid yn cynnwys: 

  • Gwybodaeth am weithio gyda choncrid
  • Lefel dda o ffitrwydd corfforol
  • Sgiliau ymarferol i ddefnyddio offer pŵer a pheiriannau
  • Y gallu i ddarllen a dehongli lluniadau technegol a chynlluniau.

Cymwysterau


Beth mae gorffennwr concrid yn ei wneud?

Mae gorffennwr concrid yn gyfrifol am sicrhau bod concrid wedi’i dywallt yn cael ei daenu a’i orffen i’r safon uchaf. 

Mae dyletswyddau gorffennwr concrid yn cynnwys: 

  • Gwirio ffurfiau concrid (mowldiau)
  • Cymysgu concrid yn unol â’r manylebau cywir
  • Gosod ac alinio’r ffurfiau
  • Taenu, lefelu a llyfnhau concrid gan ddefnyddio amrywiaeth o offer arbenigol
  • Mowldio ymylon a chwyddgymalau
  • Monitro effeithiau’r tywydd ar goncrid
  • Hwyluso’r gwaith o dywallt concrid.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gorffennwr concrid?

Mae’r cyflog disgwyliedig i orffennwr concrid yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gorffenwyr concrid sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gorffenwyr concrid hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £25,000
  • Gall gorffenwyr concrid profiadol ennill dros £25,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gorffenwyr concrid: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gorffennwr concrid, gallech symud ymlaen i rôl rheolwr safle ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli’r gweithlu ar y safle.

Neu, gallech symud i rôl gynllunio neu beirianneg, neu weithio i asiantaethau’r llywodraeth ac awdurdodau lleol.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gorffennwr concrid Gan weithio gydag amrywiaeth o dechnegau ac offer arbenigol, mae gorffenwyr conc...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr safle Mae rheolwyr safle yn rhedeg y gweithlu ar safle adeiladu. ...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080