Facebook Pixel

Delweddwr 3D

A elwir hefyd yn -

Dylunydd 3D, arbenigwr 3D

Mae delweddwyr 3D yn dod â syniadau penseiri’n fyw, gan gymryd cynlluniau, darluniau pensaernïol a deunyddiau cyfeirio eraill a defnyddio’r rhain i gynhyrchu delweddau 3D realistig o adeiladau a datblygiadau arfaethedig. Fel delweddwr 3D, bydd angen i chi gael meddwl creadigol a thechnegol, er mwyn modelu adeiladau arfaethedig a fydd yn gweithio’n dda ac yn edrych yn dda.

Cyflog cyfartalog*

£18000

-

£35000

Sut i fod yn ddelweddwr 3D

Mae sawl ffordd o ddod yn ddelweddwr 3D. Gallech gwblhau cwrs prifysgol, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn ddelweddwr 3D, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Er mwyn bod yn ddelweddwr 3D, gallech gwblhau gradd israddedig mewn dylunio 3D, dylunio graffeg, delweddu pensaernïol, neu bwnc cysylltiedig.

Dylai eich cwrs ddarparu hyfforddiant mewn meddalwedd dylunio perthnasol fel AutoCAD, 3D Studio Max a VRay, yn ogystal â rhaglenni fel Adobe Photoshop, Premier a meddalwedd graffeg neu rendro eraill.

Ar gyfer gradd israddedig, bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallwch ddod yn ddelweddwr 3D drwy gwblhau prentisiaeth ddylunio neu bensaernïol. 

I ddod yn brentis, bydd angen TGAU graddau 9 i 4 (A* i C) arnoch, neu gymhwyster cyfatebol, mewn Saesneg a mathemateg, yn ogystal â phwnc celf a dylunio.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Ar ôl ennill cymwysterau perthnasol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu am rôl lefel mynediad, er mwyn cael profiad mewn tîm pensaernïol. Efallai y bydd modd i chi gysgodi dylunydd 3D, neu weithio fel cynorthwyydd dylunio 3D wrth i chi ddatblygu eich sgiliau.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel delweddwr 3D. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau personol sy’n ddelfrydol i unrhyw un sy’n ystyried dilyn gyrfa fel delweddwr 3D: 

  • Sgiliau creadigol a thechnegol 
  • Parodrwydd i gyflawni tasgau cymhleth
  • Sgiliau cyfathrebu cadarn
  • Gallu rheoli eich llwyth gwaith eich hun a chwrdd â therfynau amser.

Beth mae delweddwr 3D yn ei wneud?

Fel delweddwr 3D, byddwch yn cydweithio â thimau dylunio a phensaernïol i sicrhau bod dyluniadau prosiectau arfaethedig yn cael eu hatgynhyrchu’n gywir ac yn effeithiol. Byddwch hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod briff y prosiect yn cael ei ddilyn a bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn ôl yr amserlen.

Mae swydd delweddwr 3D yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Gweithio’n agos gyda’r timau pensaernïol a dylunio i gynllunio a delweddu prosiectau adeiladu
  • Cyflwyno ac esbonio nodweddion gweledol i gydweithwyr a chleientiaid
  • Sicrhau bod pob syniad yn cael ei gynrychioli mor gywir a deniadol â phosibl 
  • Cynorthwyo gyda phenderfyniadau cynllunio
  • Creu delweddau statig ac animeiddiadau/CGI (delweddaeth a gynhyrchir gan gyfrifiadur) 
  • Gweithio gydag offer a rhaglenni dylunio safonol y diwydiant
  • Delweddu cysyniadau adeiladu mewn amryw o gyfryngau graffeg
  • Dilyn y datblygiadau diweddaraf gyda meddalwedd perthnasol.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel delweddwr 3D?

Mae’r cyflog disgwyliedig i ddelweddwr 3D yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall delweddwyr 3D sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £18,000 - £25,000
  • Gall delweddwyr 3D hyfforddedig gyda pheth profiad ennill £25,000 - £30,000
  • Gall delweddwyr 3D uwch, siartredig neu feistr ennill £30,000 - £35,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer delweddwyr 3D: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Mae’r cyfleoedd i ddatblygu fel delweddwr 3D yn amrywio yn dibynnu ar faint eich cwmni.

Fel delweddwr 3D, gallech symud ymlaen i yrfa fel rheolwr BIM neu reolwr dylunio.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Delweddwr 3D Creu delweddau 3D realistig o brosiectau a awgrymir a dod â’r delweddau’n fyw. D...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Cydlynydd BIM Y Technegydd BIM sy’n gyfrifol am roi’r holl wybodaeth a’r dyluniadau i mewn i g...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr dylunio Rheolwr Dylunio sy'n gyfrifol am gydgysylltu'r gwaith dylunio sy'n rhan o'r bros...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080