Facebook Pixel

Dadansoddwr ynni gwynt

A elwir hefyd yn -

Dadansoddwr gwynt, ymgynghorydd ynni gwynt

Mae dadansoddwyr ynni gwynt yn profi technoleg tyrbinau gwynt ac yn mesur effeithlonrwydd prosiectau gwynt.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£80000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn ddadansoddwr ynni gwynt

Mae sawl ffordd o ddod yn ddadansoddwr ynni gwynt. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu brentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn ddadansoddwr ynni gwynt i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Prifysgol

I fod yn ddadansoddwr ynni gwynt, gallech chi gwblhau cwrs prifysgol israddedig neu ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol, fel:  

  • Pensaernïaeth 
  • Rheoli ynni 
  • Peirianneg amgylcheddol neu ynni  
  • Ynni adnewyddadwy neu gynaliadwy 
  • Datblygu cynaliadwy 
  • Tirfesur. 

Bydd angen y canlynol arnoch chi: 

  • 2 - 3 lefel A, neu gyfwerth, gan gynnwys mathemateg a gwyddoniaeth (gradd israddedig)
  • Gradd israddedig mewn pwnc perthnasol (gradd ôl-raddedig). 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi hyfforddi i fod yn ddadansoddwr ynni gwynt drwy gwblhau prentisiaeth uwch neu radd-brentisiaeth mewn peirianneg, neu bensaernïaeth, neu drwy hyfforddi fel technegydd tirfesur. 

Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefel A, neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer prentisiaeth uwch neu radd-brentisiaeth. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu ddarparwr hyfforddiant. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi brofiad o weithio mewn diwydiant cysylltiedig fel pensaernïaeth, tirfesur neu beirianneg ynni, efallai y gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel dadansoddwr ynni gwynt. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel dadansoddwr ynni gwynt. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel dadansoddwr ynni gwynt:  

  • Gallu i weithio ar eich liwt eich hun 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol 
  • Galluoedd mathemategol rhagorol 
  • Gwybodaeth am ynni adnewyddadwy 
  • Sgiliau meddwl yn rhesymegol ac yn ddadansoddol.

Cymwysterau


Beth mae dadansoddwr ynni gwynt yn ei wneud?

Fel dadansoddwr ynni gwynt, byddwch yn profi ac yn dadansoddi gwahanol fathau o dechnoleg gwynt, er mwyn mesur eu heffeithlonrwydd ac awgrymu ffyrdd o wella'r dulliau cynhyrchu ynni. 

Mae swydd dadansoddwr ynni gwynt yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Cynghori’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ynglŷn â thechnoleg gwynt adnewyddadwy 
  • Dadansoddi gwahanol fathau o dyrbinau gwynt 
  • Prosesu data’n drylwyr ac ysgrifennu adroddiadau 
  • Archwilio ffyrdd o wella technoleg 
  • Modelu prosiectau ffermydd gwynt i ganfod faint o ynni y byddant yn ei gynhyrchu 
  • Ymchwilio i gostau ynni gwynt  
  • Rhannu ymchwil mewn cynadleddau, cyfarfodydd neu adroddiadau   
  • Astudio systemau ynni gwynt a marchnadoedd pŵer gwynt domestig a rhyngwladol 
  • Profi technoleg tyrbinau gwynt a mesur ei heffeithlonrwydd. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel dadansoddwr ynni gwynt?

Mae’r cyflog disgwyliedig i ddadansoddwr ynni gwynt yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall dadansoddwyr ynni gwynt sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £25,000 
  • Gall dadansoddwyr ynni gwynt profiadol ennill hyd at £80,000*
  • Dadansoddwyr ynni gwynt hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer dadansoddwyr ynni gwynt:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt ddod ar gael. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel dadansoddwr ynni gwynt, gallech symud ymlaen i rôl fel peiriannydd ynni neu ehangu eich rôl i fod yn ymgynghorydd ynni adnewyddadwy gan gynghori ar fathau gwahanol o ynni adnewyddadwy, fel ynni’r haul. 

Gallech chi fynd yn hunangyflogedig a gweithio fel ymgynghorydd ynni gwynt.  


Dyluniwyd y wefan gan S8080