Facebook Pixel

Cynllunydd tref

A elwir hefyd yn -

Prif gynllunydd tref, cynllunydd gofodol, cynllunydd, dylunydd trefol, swyddog cynllunio, ymgynghorydd cynllunio

Mae cynllunydd tref yn gyfrifol am ddylunio a datblygu ardaloedd trefol, fel trefi a dinasoedd. Fel cynllunydd tref, byddech yn sicrhau bod cydbwysedd rhwng y galw i ddatblygu’r tir ac anghenion y gymuned. Gall hyn fod ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol ac mae angen ymwybyddiaeth o effeithiau amgylcheddol ac economaidd datblygiadau arfaethedig.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£45000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn gynllunydd tref

I fod yn gynllunydd tref, fel arfer bydd angen gradd arnoch sydd wedi’i hennill naill ai mewn prifysgol neu wrth weithio mewn rôl gefnogol, fel technegydd cynllunio, os oes gennych gefnogaeth eich cyflogwr. Gallech hefyd gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth lefel gradd, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr os oes gennych rywfaint o brofiad blaenorol.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

I fod yn gynllunydd tref, gallech gwblhau gradd neu gymhwyster ôl-raddedig sydd wedi’i achredu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI), mewn pwnc sy’n ymwneud â’r amgylchedd a datblygu, cynllunio trefol neu ddatblygu eiddo.

Os oes gennych chi radd yn barod mewn pwnc nad yw’n gysylltiedig â'r maes, mae’n bosibl y gallech gwblhau cymhwyster ôl-raddedig mewn cynllunio i’ch helpu ar eich taith i fod yn gynllunydd tref.

Fel arfer, bydd angen y canlynol arnoch:

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau Diploma Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Sifil, neu Lefel T mewn Dylunio, Arolygu a Chynllunio i’ch helpu ar eich taith i fod yn gynllunydd tref.

Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), gan gynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth gydag Awdurdod Lleol neu gyngor tref i fod yn gynllunydd tref.

Yn gyffredinol, bydd angen i chi gael 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi brofiad fel technegydd cynllunio, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel cynllunydd tref, ac ennill y cymwysterau angenrheidiol i’ch helpu i symud ymlaen yn y swydd. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i gynllunydd tref mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cynllunydd tref. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cynllunydd tref: 

  • Sgiliau cyfathrebu da 
  • Y gallu i ddatblygu cysylltiadau busnes
  • Meddwl yn greadigol a sylw da i fanylion
  • Sgiliau dadansoddi
  • Gwybodaeth am ddaearyddiaeth a mathemateg
  • Diddordeb mewn gwella amgylcheddau pobl.

Beth mae cynllunydd tref yn ei wneud?

Fel cynllunydd tref, byddwch yn gyfrifol am reoli datblygiad ardaloedd newydd mewn dinasoedd, trefi a chefn gwlad. Byddwch yn adolygu'r ardaloedd presennol, yn helpu i gael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau ac yn sicrhau bod datblygiadau’n cael eu hasesu o ran eu heffeithiau amgylcheddol ac economaidd. 

Mae swydd cynllunydd tref yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Datblygu polisïau cynllunio ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol, gan ystyried trafnidiaeth, yr economi leol, swyddi, seilwaith gwyrdd, ynni adnewyddadwy, newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd hanesyddol
  • Adolygu a monitro dogfennau polisi cynllunio presennol
  • Cynorthwyo â'r gwaith o baratoi a gweithredu polisïau a strategaethau trafnidiaeth i greu rhwydwaith trafnidiaeth effeithlon, gan gynnwys llwybrau beicio, llwybrau rheilffordd a ffyrdd a/neu redfeydd o bosibl 
  • Helpu i wneud yn siŵr bod ardaloedd yn ddeniadol, yn ddiogel ac yn ddymunol i fyw, gweithio ac ymweld â nhw
  • Gweithio i rymuso mannau sydd wedi dirywio
  • Cydbwyso anghenion poblogaeth sy’n tyfu gydag effeithiau amgylcheddol
  • Cynnal ymchwil priodol i lywio ceisiadau cynllunio
  • Helpu i ddrafftio ac adolygu ceisiadau cynllunio
  • Cynorthwyo gydag ymgynghoriadau a thrafodaethau gydag ymgynghorwyr a datblygwyr
  • Gorfodi rheolaethau cynllunio ar gyfer datblygiadau
  • Paratoi polisïau neu ddogfennau canllawiau ar sut i reoli amgylcheddau hanesyddol, neu adnewyddu neu ailddefnyddio adeiladau rhestredig
  • Cynorthwyo â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i gleientiaid a chyfrannu at brosiectau
  • Paratoi cyflwyniadau cynllunio, apeliadau, datganiadau dylunio a mynediad a dogfennau eraill
  • Rheoli portffolio cleientiaid
  • Datblygu cysylltiadau busnes
  • Cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel cynllunydd tref?

Mae’r cyflog disgwyliedig i gynllunydd tref yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall cynllunwyr tref sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £35,000
  • Gall cynllunwyr tref hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £35,000 - £40,000
  • Gall prif gynllunwyr tref neu gynllunwyr uwch ennill mwy na £45,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cynllunwyr tref:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel cynllunydd tref, gallech symud ymlaen o fewn y rôl i fod yn brif gynllunydd tref neu’n rheolwr cynllunio a chwarae rhan fwy gweithredol yn y gwaith o ddatblygu polisïau sy’n ymwneud â datblygu trefol.

Gallech hefyd ddod yn ymgynghorydd hunangyflogedig neu symud i rôl fwy penodol ym maes datblygu eiddo neu adfywio trefol.


Dyluniwyd y wefan gan S8080