Facebook Pixel

Cynllunydd adnoddau dŵr

A elwir hefyd yn -

Ymgynghorydd adnoddau dŵr

Mae cynllunwyr adnoddau dŵr yn datblygu cynlluniau ar gyfer rheoli dŵr glân a dŵr gwastraff, yn seiliedig ar y galw nawr ac yn y dyfodol.

Cyflog cyfartalog*

£30000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn gynllunydd adnoddau dŵr

Mae sawl ffordd o ddod yn gynllunydd adnoddau dŵr. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn gynllunydd adnoddau dŵr i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Prifysgol

I fod yn gynllunydd adnoddau dŵr, gallech chi gwblhau cwrs prifysgol israddedig neu ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol, fel:  

  • Peirianneg sifil neu amgylcheddol 
  • Gwyddorau'r ddaear  
  • Gwyddorau naturiol 
  • Cynllunio trefol. 

Bydd angen y canlynol arnoch chi: 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

I’ch helpu i gychwyn ar eich taith i fod yn gynllunydd adnoddau dŵr, gallech gwblhau naill ai:  

  • Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Sifil
  • Lefel T mewn Dylunio, Arolygu a Chynllunio

Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), gan gynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol. 

Prentisiaeth

Gallech chi hyfforddi i fod yn gynllunydd adnoddau dŵr drwy gwblhau prentisiaeth uwch neu radd-brentisiaeth mewn peirianneg, neu drwy ddilyn prentisiaeth mewn cynllunio trefol gydag Awdurdod Lleol neu gyngor tref. 

Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefelau A, neu gymhwyster cyfatebol, ar gyfer uwch-brentisiaeth neu radd brentisiaeth. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu ddarparwr hyfforddiant.  

Gwaith

Os oes gennych chi brofiad o weithio mewn diwydiant cysylltiedig, fel cynllunio trefol neu beirianneg sifil, efallai y gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel cynllunydd adnoddau dŵr. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cynllunydd adnoddau dŵr. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cynllunydd adnoddau dŵr:  

  • Gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Profiad o reoli prosiectau 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol 
  • Gwybodaeth am systemau dŵr  
  • Gallu meddwl yn rhesymegol ac yn ddadansoddol 
  • Sgiliau TG cryf. 

Beth mae cynllunydd adnoddau dŵr yn ei wneud?

Fel cynllunydd adnoddau dŵr, byddwch yn datblygu cynlluniau ar gyfer rheoli dŵr yn strategol, yn seiliedig ar alw a dichonoldeb. 

Mae swydd cynllunydd adnoddau dŵr yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Dadansoddi gwybodaeth a defnyddio data i ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau 
  • Asesu’r galw am ddŵr, yn seiliedig ar ddata, defnydd a dulliau storio’r boblogaeth 
  • Asesu goblygiadau ansawdd dŵr a datblygu mesurau ar gyfer rheoli cyfnodau o sychder  
  • Cyfathrebu materion technegol i randdeiliaid 
  • Gorfodi rheoliadau iechyd a diogelwch a deddfwriaeth dŵr 
  • Creu rhagolygon a rheoli cyllidebau  
  • Cadw amcanion prosiectau ar y trywydd iawn 
  • Cysylltu â chwmnïau dŵr, cynllunwyr a pheirianwyr 
  • Goruchwylio nifer o brosiectau rheoli adnoddau dŵr 
  • Rhagweld y defnydd a’r galw am ddŵr, ynghyd ag adnoddau ar gyfer y dyfodol  
  • Paratoi bidiau am dendrau 
  • Cael gwybod y diweddaraf am bolisïau dŵr y DU 
  • Cynnal ymchwil fanwl a llunio astudiaethau dichonoldeb 
  • Defnyddio meddalwedd cynllunio. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel cynllunydd adnoddau dŵr?

Mae’r cyflog disgwyliedig i gynllunydd adnoddau dŵr yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall cynllunwyr adnoddau dŵr sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £30,000 
  • Gall cynllunwyr adnoddau dŵr profiadol ennill hyd at £50,000* 
  • Mae cynllunwyr adnoddau dŵr hunangyflogedig yn gosod eu cyfraddau eu hunain. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cynllunwyr adnoddau dŵr:   

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt ddod ar gael. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel cynllunydd adnoddau dŵr, gallech symud ymlaen i swydd fel peiriannydd adnoddau dŵr neu ymgynghorydd amgylcheddol. 

Gallech chi fynd yn hunangyflogedig a gweithio fel ymgynghorydd cynllunio adnoddau dŵr. 


Dyluniwyd y wefan gan S8080