Facebook Pixel

Cynghorydd trawsgludo

A elwir hefyd yn -

Trawsgludwr trwyddedig

Mae cynghorwyr trawsgludo yn gyfreithwyr eiddo sy’n trosglwyddo perchnogaeth eiddo o un perchennog i un arall (ar gyfer busnesau neu unigolion). Maent yn gyfrifol am sicrhau bod gweithredoedd eiddo'n cael eu trosglwyddo o'r gwerthwr i'r prynwr ac yn rhoi cyngor ar unrhyw faterion cyfreithiol gyda'r eiddo.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn gynghorydd trawsgludo

Mae sawl ffordd o ddod yn gynghorydd trawsgludo. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy gwblhau cwrs hyfforddi, prentisiaeth, neu weithio’ch ffordd tuag at y rôl.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn gynghorydd trawsgludo i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech ddod yn gynghorydd trawsgludo drwy gwblhau cymhwyster proffesiynol drwy Gyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig (CLC) fel Diploma Lefel 4 mewn Cyfraith ac Ymarfer Trawsgludo neu Ddiploma Lefel 6 mewn Cyfraith ac Ymarfer Trawsgludo.

Gallwch astudio hyd yn oed os nad ydych yn gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae pob diploma yn cymryd oddeutu 18 - 24 mis i’w gwblhau, gan gynnwys profiad ymarferol. 

Os oes gennych radd mewn pwnc arall fel y gyfraith, Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL) neu ddiploma Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEx), efallai y gallwch gwblhau eich cymhwyster yn gynt. 

Prentisiaeth

Gallech ddilyn prentisiaeth uwch technegydd trawsgludo a symud ymlaen i wneud gradd-brentisiaeth trawsgludwr trwyddedig.

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth ganolradd)
  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth uwch). 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Gallech wneud cais am swydd mewn swyddfa trawsgludo a gweithio eich ffordd i fyny drwy hyfforddi i ddod yn gynghorydd trawsgludo cofrestredig. 

Bydd angen 6 mis o brofiad ymarferol arnoch mewn practis profiant neu drawsgludo, mewn cwmni cyfreithiol neu mewn sefydliad sy’n cynnig gwasanaethau profiant i’r cyhoedd i wneud cais i gofrestru gyda Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig. Gallech wedyn wneud Diploma Lefel 6 mewn Cyfraith ac Ymarfer Trawsgludo i gymhwyso’n llawn.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel trawsgludwr. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cynghorydd trawsgludo:

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Gweithio’n drylwyr a rhoi sylw i fanylion
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol a dealltwriaeth fathemategol
  • Gwybodaeth gyfreithiol gan gynnwys gweithdrefnau’r llys a rheoliadau’r llywodraeth
  • Gallu cyflawni tasgau sylfaenol ar gyfrifiadur neu ddyfais yn y llaw

Beth mae cynghorydd trawsgludo yn ei wneud?

Fel cynghorydd trawsgludo, byddwch yn gyfrifol am roi cyngor a gwybodaeth am eiddo i ddarpar brynwyr. Byddwch yn rheoli pob agwedd ar hyn, gan gynnwys rheoli cysylltiadau â chleientiaid, diweddaru dogfennau, neu ymdrin â materion ariannol.

Mae swydd cynghorydd trawsgludo yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cynghori cleientiaid ar brynu a gwerthu eiddo
  • Ymchwilio i wybodaeth a rhannu hyn gydag eraill
  • Gwirio a chadarnhau manylion perchnogaeth drwy chwiliadau a dulliau eraill
  • Cadw cofnodion manwl, ar bapur ac ar system gyfrifiadurol
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cleient dros y ffôn, mewn negeseuon e-bost, drwy’r post ac mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb
  • Cysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys benthycwyr a thimau cyfreithiol eraill
  • Paratoi dogfennau contract angenrheidiol
  • Delio ag agweddau ariannol y broses gwerthu neu brynu
  • Cwblhau cyfnewid contractau
  • Cadarnhau pwy sy’n berchen ar yr eiddo’n gyfreithiol a’r tir y mae arno.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel cynghorydd trawsgludo?

Mae’r cyflog disgwyliedig i gynghorydd trawsgludo yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall cynghorwyr trawsgludo sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £25,000
  • Gall cynghorwyr trawsgludo hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £40,000*
  • Cynghorwyr trawsgludo hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer cynghorwyr trawsgludo: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel cynghorydd trawsgludo, gallech gael hyfforddiant ychwanegol i ddod yn gynghorydd cyfreithiol a chael eich cyflogi gan gwmnïau mawr i ddarparu cyngor mewn materion cyfreithiol. 

Gallech chi sefydlu practis preifat neu weithio fel ymgynghorydd hunangyflogedig a gosod eich cyflog eich hun.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Cynghorydd trawsgludo Dysgwch sut i fod yn drawsgludwr gyda'r disgrifiad swydd hwn ar gyfer cynghorydd...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Cynghorydd cyfreithiol Rhoi cyngor cyfreithiol i’ch cwmni, goruchwylio contractau ac ymchwil. Dysgwch f...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080