Facebook Pixel

Cynghorydd SHEQ (Diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd)

A elwir hefyd yn -

Swyddog SHEQ, cynghorydd iechyd a diogelwch

Mae cynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ) yn gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau iechyd a diogelwch, rheoliadau amgylcheddol, a rheoli ansawdd, ar safleoedd ac mewn cwmnïau adeiladu.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

40-42

Sut i fod yn gynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ)

Mae sawl ffordd o fod yn gynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ). Gallech gwblhau gradd prifysgol, cwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd arnoch angen Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol NEBOSH neu Dystysgrif Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Adeiladu NEBOSH, neu gymhwyster cyfatebol i’ch galluogi i ddod yn gynghorydd SHEQ. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

I ddod yn gynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ) gallech astudio tuag at radd israddedig mewn pwnc perthnasol, fel: 

  • Adeiladu
  • Peirianneg
  • Datblygu busnes

Bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, arnoch. 

Ar ôl i chi orffen eich astudiaethau, gallech gwblhau rhagor o gymwysterau drwy’r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH) i ddysgu sgiliau a gwybodaeth fwy penodol.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau Tystysgrif Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NEBOSH) neu Iechyd a Diogelwch Cymhwysol (NCRQ) i’ch helpu i ddod yn gynghorydd SHEQ. 

Nid oes unrhyw ofynion mynediad sylfaenol, ond mae’n ddefnyddiol cael dealltwriaeth dda o’r iaith Saesneg.

Prentisiaeth

I fod yn gynghorydd SHEQ, gallech ddilyn uwch brentisiaeth fel technegydd diogelwch, iechyd a’r amgylchedd. Gallech hefyd gwblhau gradd-brentisiaeth ymarferwr iechyd yr amgylchedd os ydych chi'n mynd i weithio'n bennaf ym maes diogelwch amgylcheddol.

I astudio am brentisiaeth, fel arfer bydd angen y canlynol arnoch:

  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch)
  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefelau A, neu gymhwyster cyfatebol (uwch brentisiaeth neu radd-brentisiaeth).

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Gallech astudio i fod yn gynghorydd SHEQ pan fyddwch yn gweithio.

Mae'n bosibl cwblhau cymwysterau iechyd a diogelwch a all gryfhau eich siawns o wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd dan hyfforddiant fel cynghorydd SHEQ. Mae’r cyrsiau perthnasol yn cynnwys Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle, Asesiadau Risg ac Ymchwilio i Ddamweiniau Sylfaenol. Fel arfer mae'r cyrsiau ar gael ar sail ran-amser neu drwy ddysgu o bell.

Gallwch ddilyn cyrsiau iechyd a diogelwch cymeradwy drwy:

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ). Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ): 

  • Gwybodaeth gyfreithiol
  • Sylw da i fanylion
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Sgiliau ardderchog o ran gweithio mewn tîm
  • Dyfalbarhad a phenderfyniad.

Beth mae cynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ) yn ei wneud?

Fel cynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ), byddwch yn gyfrifol am greu arferion yn y gweithle i sicrhau iechyd a diogelwch, ac arferion amgylcheddol gorau ar safleoedd. Byddwch hefyd yn cynnal archwiliadau rheoli ansawdd i sicrhau y cedwir at safonau uchel.

Gall swydd cynghorydd SHEQ gynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Sicrhau bod safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd yn cael eu cyflawni ar safleoedd
  • Ymchwilio i ddamweiniau ac ysgrifennu adroddiadau
  • Canfod peryglon posibl
  • Cwblhau asesiadau risg ac archwiliadau safle
  • Awgrymu gwelliannau i brosesau gwaith
  • Sicrhau bod staff yn deall gweithdrefnau diogelwch
  • Gwirio'r offer i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel
  • Casglu ystadegau ar gyfer adroddiadau a chyflwyniadau
  • Monitro effeithiau amgylcheddol
  • Datblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau diogelwch
  • Cynghori a hyfforddi staff ynghylch yr arferion gweithio gorau
  • Cysylltu ag arolygwyr ac undebau llafur.

Sut beth yw bod yn gynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ)

Chloe Biddle

Mae Chloe Biddle yn uwch gynghorydd diogelwch, iechyd ac amgylchedd (SHE) yn Wates Group.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel cynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ)?

Mae’r cyflog disgwyliedig i gynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ) yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall cynghorwyr SHEQ sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall cynghorwyr SHEQ hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £35,000
  • Gall cynghorwyr SHEQ uwch neu siartredig ennill £35,000 - £50,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer cynghorwyr diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ): 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel cynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ) gallech arbenigo mewn maes penodol a dod yn gynghorydd amgylcheddol, neu’n gynghorydd cyfreithiol.


Dyluniwyd y wefan gan S8080