Facebook Pixel

Cynghorydd cyfreithiol

A elwir hefyd yn -

Gweithredwr cyfreithiol

Mae cynghorwyr cyfreithiol yn rhoi arweiniad i gwmnïau ar faterion sy’n ymwneud â’r gyfraith. Yn y diwydiant adeiladu, byddai cynghorydd cyfreithiol yn helpu gyda chontractau cleientiaid, yn llunio dogfennau cyfreithiol ac yn datrys anghydfodau.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

39-41

Sut i fod yn gynghorydd cyfreithiol

Mae sawl ffordd o ddod yn gynghorydd cyfreithiol. Gallech astudio gradd prifysgol, cwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr os oes gennych brofiad perthnasol. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech ddilyn gradd yn y gyfraith, neu radd ôl-radd fel Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL), ac arbenigo mewn materion cyfreithiol sy’n ymwneud ag adeiladu.

Fel arfer, bydd angen y canlynol arnoch: 

Cynllun hyfforddi graddedigion

Os oes gennych gymhwyster prifysgol perthnasol, gallech wneud cais i gynllun hyfforddi graddedigion cwmni cyfreithiol i gael profiad fel cynghorydd cyfreithiol, neu arbenigo mewn adeiladu.

Coleg

Gallech gymhwyso fel cynghorydd cyfreithiol drwy gwblhau Diploma Proffesiynol Lefel 3 mewn Cyfraith ac Ymarfer neu Ddiploma Uwch Proffesiynol Lefel 6 mewn Cyfraith ac Ymarfer.

Ar ôl cwblhau cymhwyster coleg, byddai angen i chi gwblhau tair blynedd o gyflogaeth gymwys. Mae hyn yn golygu y byddech yn gwneud gwaith cyfreithiol dan oruchwyliaeth cyfreithiwr, uwch weithredwr cyfreithiol siartredig, bargyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig. Gallech wneud hyn mewn practis cyfreithiol, adran gyfreithiol cwmni preifat neu mewn adran o’r llywodraeth.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni cyfreithwyr yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Gallech gwblhau prentisiaeth uwch gweithredwr cyfreithiol siartredig i fod yn gynghorydd cyfreithiol. Gwneir hyn fel arfer ar ôl cwblhau prentisiaeth paragyfreithiwr.

Er mwyn cwblhau prentisiaeth uwch neu radd-brentisiaeth fel arfer bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefelau A, neu gymhwyster cyfatebol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi eisoes brofiad mewn cwmni cyfreithwyr, efallai y gallwch wneud cais i gwmni adeiladu mawr yn uniongyrchol am swydd yn ei adran gyfreithiol. Gallech wedyn gael profiad a hyfforddiant pellach i arbenigo mewn materion cyfreithiol sy’n ymwneud ag adeiladu. Wedyn gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i gynghorydd cyfreithiol mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cynghorydd cyfreithiol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cynghorydd cyfreithiol: 

  • Gwybodaeth am faterion cyfreithiol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Sylw i fanylion
  • Sgiliau gweinyddol
  • Gallu gweithio’n dda mewn tîm
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun.

Beth mae cynghorydd cyfreithiol yn ei wneud?

  • Fel cynghorydd cyfreithiol, byddwch yn gyfrifol am ymdrin â chyfrifoldebau cyfreithiol y cwmni. Gall y dyletswyddau gynnwys paratoi contractau a dogfennau, a darparu cymorth cyfreithiol.

    Mae rôl cynghorydd cyfreithiol yn y diwydiant adeiladu’n cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

    • Goruchwylio contractau cleientiaid a gwerthwyr
    • Darparu cyngor cyfreithiol sy'n fasnachol synhwyrol ac sy'n gost-effeithiol ar gyfer rheoli contractau adeiladu
    • Cynnal ymchwil gyfreithiol
    • Drafftio dogfennau cyfreithiol sylfaenol ar gyfer prosiectau adeiladu
    • Sicrhau cydymffurfiad â chyfreithiau a rheoliadau adeiladu
    • Paratoi hawliadau am ddifrod
    • Datrys anghydfodau prynu-gwerthu a thor-rheolau eiddo
    • Darparu cymorth yn ymwneud â chyflafareddu, ymgyfreitha a chyfryngu
    • Rhoi cyngor ar y safonau adeiladu diweddaraf
    • Esbonio safonau adeiladu i randdeiliaid
    • Goruchwylio hawliadau anafiadau ac iechyd a diogelwch a chynnig cyngor ar achosion llys
    • Cwrdd â chleientiaid a’u cyfweld
    • Drafftio dogfennau, llythyrau a chontractau
    • Gweithredu ar ran cleientiaid mewn anghydfodau, os oes angen.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel cynghorydd cyfreithiol?

  • Mae’r cyflog disgwyliedig i gynghorydd cyfreithiol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

    • Gall cynghorwyr cyfreithiol sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £19,000 - £25,000
    • Gall cynghorwyr cyfreithiol hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £60,000
    • Gall uwch gynghorwyr cyfreithiol ennill mwy na £60,000.*

    Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer cynghorwyr cyfreithiol:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel cynghorydd cyfreithiol, gallech symud ymlaen i fod yn rheolwr contractau neu’n rheolwr cydymffurfiaeth.

Neu, gallech ddod yn ymgynghorydd prosiectau hunangyflogedig.


Dyluniwyd y wefan gan S8080