Facebook Pixel

Cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau

Mae cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau yn gyfrifol am drefnu timau o beirianwyr i sicrhau bod prosiect yn cael yr adnoddau angenrheidiol i sicrhau ei fod yn rhedeg yn esmwyth ac yn cadw at yr amserlen. Mae hyn fel arfer yn golygu trefnu ymweliadau i wneud gwaith cynnal ar beiriannau.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

40-42

Sut i fod yn gydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau

Mae sawl ffordd o ddod yn gydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau. Er nad oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.  

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech chi gwblhau cwrs gyda choleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol mewn gweinyddu busnes neu TG i roi cychwyn da i chi wrth wneud cais am swydd fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau.  Gallech ddilyn Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Busnes a Gweinyddu.

Bydd angen y canlynol arnoch chi: 

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant adeiladu. 

Mae prentisiaeth gweinyddu busnes ganolradd yn cymryd tua dwy flynedd i’w chwblhau, a bydd yn helpu i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn gydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau.  Os gall eich cyflogwr roi'r profiadau iawn i chi, gallech symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3 (uwch).

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Hyd at 5 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol), fel arfer yn cynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth ganolradd)
  • 5 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau 9 i 4 (A* i C), gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch)

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i gydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau: 

  • Sgiliau gweinyddol
  • Sylw da i fanylion
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill
  • Gallu trefnu tîm
  • Hyblyg ac yn agored i newid
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid
  • Sgiliau rheoli amser

Beth mae cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau yn ei wneud?

Fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau, byddwch yn gyfrifol am reoli tîm o beirianwyr i sicrhau eu bod yn symud i’r safleoedd cywir i wneud gwaith cynnal. Gall y dyletswyddau gynnwys ymweld â safleoedd, a gallan nhw fod ar y môr neu dramor.

Mae swydd cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau’n cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cydlynu symudiadau tîm o beirianwyr ledled y DU neu dramor
  • Cysylltu â chleientiaid i drefnu ymweliadau safle
  • Gwneud trefniadau teithio a llety
  • Diweddaru adroddiadau
  • Goruchwylio anfonebu
  • Cysylltu ag asiantau dramor
  • Datblygu effeithlonrwydd y peiriannau presennol drwy dechnegau gwella parhaus
  • Sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n brydlon ac o fewn y gyllideb
  • Cwblhau camau trosglwyddo shifft yn llafar ac yn ysgrifenedig 
  • Sicrhau bod logiau cynnal a chadw wedi’u cwblhau’n llawn.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau?

Mae’r cyflog disgwyliedig i gydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall cydlynwyr gwasanaethau cymorth peiriannau sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall cydlynwyr gwasanaethau cymorth peiriannau hyfforddedig gyda pheth profiad ennill £25,000 - £40,000 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer Cydlynwyr Gwasanaethau Cymorth Peiriannau: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. 

Edrychwch bob dydd i weld cyfleoedd newydd wrth iddynt gael eu postio!

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau, gallech symud ymlaen yn y rôl i fod yn rheolydd peiriannau, ac yn y pen draw yn rheolwr peiriannau ar ôl i’ch sgiliau a’ch profiad wella.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau Cymerwch gyfrifoldeb am reoli timau o beirianwyr ledled y DU. Mae rhagor o wybod...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arolygydd peiriannau Goruchwylio cyfrifon mewnol a sicrhau bod peiriannau’n rhedeg yn effeithiol am y...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr peiriannau Bod yn gyfrifol am yr holl beiriannau trwm sy’n cael eu defnyddio ar safleoedd a...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr trafnidiaeth Sicrhau bod y gofynion cyfreithiol ar gyfer cludo nwyddau ar y ffordd yn cael eu...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080