Facebook Pixel

Cydlynydd BIM

A elwir hefyd yn -

Technegydd BIM, hyfforddai BIM

Mae cydlynwyr BIM (Modelu Gwybodaeth am Adeiladu) yn gyfrifol am brosesau digidol sy’n gysylltiedig â chamau dylunio ac adeiladu prosiect. Maent yn sicrhau bod modelau 3D, lluniadau a data strwythurol yn cael eu cadw mewn un lle hygyrch ac yn darparu model gwybodaeth y prosiect i gleientiaid.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

37-40

Sut i fod yn gydlynydd BIM

Mae sawl ffordd o ddod yn gydlynydd BIM. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs prifysgol neu brentisiaeth.  

Dylech chi ymchwilio i’r opsiynau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech astudio ar gyfer gradd israddedig neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn pwnc perthnasol fel rheoli BIM, pensaernïaeth, adeiladu, dylunio cynnyrch neu dechnoleg bensaernïol.  

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn dysgu sut mae defnyddio meddalwedd dylunio fel Autodesk Revit, Microstation neu AutoCAD Civil 3D. Ar ôl hynny, efallai y byddwch yn gallu ymuno â chynllun hyfforddi graddedigion y cwmni fel technegydd iau. 

Yn gyffredinol, bydd angen 2 - 3 lefel A (neu gymhwyster cyfatebol) arnoch i astudio cwrs gradd.  

Coleg/darparwyr hyfforddiant  

Efallai y bydd eich coleg neu'ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau rheoli BIM a fydd yn eich helpu i ddechrau ar eich llwybr gyrfa fel cydlynydd BIM.  

Ar gyfer y cyrsiau hyn, yn gyffredinol bydd angen 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg, mathemateg a chyfrifiadura. 

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. 

Gallech gwblhau prentisiaeth ganolig neu uwch mewn peirianneg, gweithgynhyrchu neu adeiladu, neu unrhyw brentisiaeth sy’n cynnwys cydlynu a rheoli BIM. 

Bydd angen y canlynol arnoch: 

  • Hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth ganolig)
  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch). 

Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Gwaith

Os oes gennych brofiad o BIM yn barod, neu gymwysterau addas eraill, gallwch wneud cais yn uniongyrchol am swydd i gwmnïau. Bydd llawer o gwmnïau adeiladu yn cynnig hyfforddiant mewn technoleg Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM). 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cydlynydd BIM. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.  

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a fydd o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cydlynydd BIM: 

  • Dyfalbarhad a phenderfyniad
  • Blaengarwch
  • Datrys problemau
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Sylw i fanylion
  • Hyblygrwydd ac yn agored i newid
  • Dealltwriaeth drylwyr o systemau a rhaglenni cyfrifiadurol. 

Beth mae cydlynydd BIM yn ei wneud?

Fel technegydd BIM, byddwch yn gyfrifol am redeg prosiect sy’n bodloni’r manylebau gofynnol. Mae hyn yn golygu paratoi lluniadau a modelau technegol.

Mae swydd technegydd BIM yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Casglu gwybodaeth o nifer o gynlluniau a’u hymgorffori mewn model cyfrifiadurol y gellir ei ddefnyddio i adeiladu a chynnal strwythur
  • Cysylltu â thimau dylunio, cleientiaid, penseiri, syrfewyr, peirianwyr a rheolwyr prosiectau
  • Cynorthwyo peirianwyr ac uwch reolwyr gyda lluniadau a glasbrintiau
  • Cynhyrchu modelau, lluniadau ac amserlenni strwythurol gan ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol a BIM
  • Cyflwyno eich dyluniadau a gwneud newidiadau ar sail adborth neu brofi prototeipiau
  • Dylunio atebion technegol ar gyfer adeiladau a strwythurau eraill
  • Sicrhau bod cynlluniau’n gywir ac yn hawdd eu dehongli
  • Gweithio mewn swyddfa.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel cydlynydd BIM?

Mae’r cyflog disgwyliedig i gydlynydd BIM yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall cydlynwyr BIM sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £35,000
  • Gall cydlynwyr BIM hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £35,000 - £45,000
  • Gall cydlynwyr BIM uwch, siartredig neu feistr ennill £45,000 - £55,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cydlynwyr BIM: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gyda phrofiad, gallech symud ymlaen i rôl fel rheolwr BIM ac ennill cyflog uwch. 

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr bidio Mae'r disgrifiad swydd Rheolwr Bidio Am Adeiladu hwn yn sôn am bopeth y mae ange...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr datblygu busnes Mae gan Reolwyr Datblygu Busnes Adeiladu ystod o ddyletswyddau. O ddatblygu cont...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080