Facebook Pixel

Ataliwr drafftiau

Mae ataliwr drafftiau’n sicrhau bod adeiladau wedi’u hawyru’n iawn a’u bod hefyd yn cadw gwres. Drwy sicrhau nad oes unrhyw ynni’n cael ei wastraffu mewn adeilad, drwy golli gwres o ffenestri neu ddrysau allanol, maen nhw’n helpu i sicrhau bod ynni’n cael ei ddefnyddio’n effeithlon, sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£25000

Sut i fod yn ataliwr drafftiau

Nid oes angen cymwysterau penodol i fod yn ataliwr drafftiau, ond gallech chi ddilyn cwrs coleg neu brentisiaeth a allai eich helpu i symud ymlaen yn yr yrfa hon. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg

Does dim cymwysterau penodol y mae’n rhaid i chi eu cael i fod yn ataliwr drafftiau. Fodd bynnag, gallai bod â Thystysgrif NVQ Lefel 2 mewn Inswleiddio a Thriniaethau Adeiladu - Atal Drafftiau fod yn fanteisiol i chi.

Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i wneud hyn.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o ymuno â’r diwydiant a gallai eich helpu ar eich taith tuag at fod yn ataliwr drafftiau. 

Gallech gwblhau prentisiaeth ganolradd fel briciwr, saer coed neu asiedydd, er enghraifft, i’ch helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn ataliwr drafftiau.

Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis canolradd.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel ataliwr drafftiau. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i ataliwr drafftiau mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel ataliwr drafftiau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel ataliwr drafftiau: 

  • Sgiliau datrys problemau
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid
  • Y gallu i weithio’n dda gyda’ch dwylo.

Beth mae ataliwr drafftiau’n ei wneud?

Fel ataliwr drafftiau, byddwch chi’n gyfrifol am sicrhau bod adeiladau’n cael eu diogelu rhag colli gwres neu ynni. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn adeiladau newydd, neu ddod o hyd i broblemau mewn adeiladau hŷn a’u trwsio.

Mae swydd ataliwr drafftiau’n cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Canfod ac olrhain lle mae aer yn cael ei ollwng o adeilad, ac yna datrys y broblem drwy fesurau atal drafftiau
  • Argymell a gosod y cynhyrchion gorau i drwsio unrhyw ollyngiadau
  • Siarad â’r prif gontractwr a chrefftwyr eraill ar y safle
  • Rhoi sylw i amryw o leoliadau a deunyddiau gan gynnwys ffenestri, drysau allanol, estyll lloriau, sgyrtins, a drysau mewnol
  • Helpu cleientiaid drwy leihau biliau gwresogi a goleuo
  • Helpu’r amgylchedd drwy leihau faint o ynni a ddefnyddir
  • Gweithio yng nghartref neu fusnes y cleient.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel ataliwr drafftiau?

Mae’r cyflog disgwyliedig i ataliwr drafftiau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall atalwyr drafftiau sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall atalwyr drafftiau hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £25,000*
  • Atalwyr drafftiau hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer atalwyr drafftiau: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel ataliwr drafftiau, gallech chi ddechrau eich busnes eich hun a bod yn hunangyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Ataliwr drafftiau Mae ataliwr drafftiau yn gyfrifol am sicrhau bod pob eiddo wedi’i awyru'n iawn h...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arweinydd Tîm Adeiladu Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa fel Goruchwyliwr Galwedigaethol. Byddwch yn g...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Contractwr hunangyflogedig Fel contractwr neu is-gontractwr, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch cle...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080