Facebook Pixel

Asiedydd

A elwir hefyd yn -

Saer coed, saer mainc

Mae asiedydd yn gweithio gyda phren i greu amrywiaeth o strwythurau sy’n hanfodol i lawer o adeiladau. Gall hyn gynnwys grisiau, ffenestri, drysau, dodrefn a mwy. Fel asiedydd, byddwch yn gwneud ac yn gosod y strwythurau a’r ffitiadau hyn yn y lleoliadau cywir.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

40-45

Sut i fod yn asiedydd

Mae sawl ffordd o ddod yn asiedydd. Gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais uniongyrchol i gyflogwr os oes gennych rywfaint o brofiad. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu'ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau a fydd yn eich helpu i hyfforddi fel asiedydd, megis: 

  • Diploma Lefel 2 mewn Saernïaeth Mainc
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnyrch Pren a Phanel
  • Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Gwaith Saer ac Asiedydd
  • Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Saernïo Coed â Pheiriannau. 

Fel arfer, bydd angen y canlynol arnoch: 

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd neu uwch brentisiaeth mewn gwaith saer ac asiedydd i fod yn asiedydd. Gallech naill ai hyfforddi fel saer safle neu asiedydd pensaernïol.

Bydd y ddau lwybr yn cynnig hyfforddiant yn y gwaith ac yn golygu bod angen i chi dreulio amser gyda choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Hefyd, gallech ddilyn prentisiaeth ganolradd fel gweithiwr cynhyrchu cynnyrch pren.

Ar gyfer prentisiaeth, fel arfer bydd angen y canlynol arnoch:

  • Rhywfaint o gymwysterau TGAU, fel arfer yn cynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol (prentisiaeth ganolradd)
  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch).

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel asiedydd. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i asiedydd mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel asiedydd. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel asiedydd: 

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sylw da i fanylion
  • Gwybodaeth am fathemateg
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill
  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Gallu defnyddio, atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau ac offer
  • Gallu gweithio'n annibynnol
  • Sensitifrwydd a dealltwriaeth
  • Gallu cyflawni tasgau sylfaenol ar gyfrifiadur neu ddyfais yn y llaw.

Beth mae asiedydd yn ei wneud?

Fel asiedydd, byddwch yn gyfrifol am ddylunio, creu a gosod strwythurau, dodrefn a ffitiadau gan ddefnyddio pren.

Mae swydd asiedydd yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Dysgu sut mae gwahanol fathau o bren yn cael eu defnyddio a dewis y deunydd iawn ar gyfer y dasg
  • Deall lluniadau technegol a sut bydd eich gwaith yn cyd-fynd â’r adeilad
  • Cynnal arolygon safle
  • Creu lluniadau dylunio, ochr yn ochr â brasluniau o’r gwaith sydd ei angen a’r manylebau
  • Mesur a marcio pren yn unol â’r dyluniadau technegol
  • Torri coed ar beiriannau neu â llaw
  • Gweithio gyda chyflenwyr ac is-gontractwyr
  • Llunio rhestrau deunyddiau
  • Amcangyfrif y deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer tasg
  • Drafftio briffiau gwaith
  • Defnyddio ystod o gyfarpar o offer traddodiadol i gyfarpar torri cyfrifiadurol o'r radd flaenaf a meddalwedd llunio a dylunio uwch-dechnoleg
  • Rheoli amserlenni a chyllidebau cynhyrchu
  • Cynnal archwiliadau ansawdd
  • Paratoi adroddiadau cynnydd ar gyfer uwch-reolwyr.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel asiedydd?

Mae’r cyflog disgwyliedig i asiedydd yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall asiedyddion sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall asiedyddion hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £30,000
  • Gall uwch asiedyddion ennill £30,000 - £40,000*
  • Asiedyddion hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer asiedyddion: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gall asiedyddion profiadol ddod yn oruchwylwyr, yn rheolwyr prosiect neu’n arweinwyr tîm ac ennill cyflog uwch.

Gallech symud i feysydd gwahanol ym maes adeiladu fel amcangyfrif neu reoli contractau neu arbenigo mewn maes fel adfer treftadaeth neu adeiladu setiau llwyfan. 

Fel asiedydd, gallech ddechrau eich busnes eich hun neu hyfforddi eraill.


Dyluniwyd y wefan gan S8080