Facebook Pixel

Arolygydd safle

A elwir hefyd yn -

Rheolwr safle adeiladu, goruchwyliwr safle adeiladu, clerc gwaith

Mae arolygwyr safle’n monitro’r holl waith sy’n cael ei wneud ar safle adeiladu i sicrhau bod safonau diogelwch ac ansawdd yn cael eu cynnal. Maent yn gwneud yn siŵr bod cynlluniau adeiladu a manylebau yn cael eu dilyn yn gywir, ac maent yn rheoli staff ac isgontractwyr ar safleoedd adeiladu. Maent hefyd yn mynd i gyfarfodydd rheoli safle ac yn helpu rheolwyr prosiect i gynllunio gwaith.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

44-46

Sut i fod yn arolygydd safle

Mae sawl ffordd o ddod yn arolygydd safle. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith. Dylech chi ymchwilio i’r opsiynau i weld pa un yw’r un iawn i chi. Fel arfer, bydd gan arolygydd safle rhai blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd mewn pwnc perthnasol.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Efallai y bydd ymgeiswyr â chymwysterau perthnasol eraill i’r diwydiant yn cael eu hystyried, er enghraifft: 

  • IOSH - Gweithio’n Ddiogel
  • IOSH - Rheoli’n Ddiogel
  • Cyrsiau hyfforddiant Site Safety Plus CITB

 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Os ydych chi’n gweithio ar safle neu os oes gennych brofiad ym maes adeiladu, gallech ddilyn cwrs coleg fel Diploma Lefel 3 mewn Astudiaethau Goruchwylio Safleoedd Adeiladu, Diploma Lefel 4 mewn Goruchwylio Safleoedd Adeiladu neu Ddiploma Lefel 4 mewn Rheoli Safleoedd Adeiladu.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Os oes gennych chi rywfaint o brofiad yn y diwydiant adeiladu, gallwch ddechrau drwy ddilyn prentisiaeth uwch fel goruchwyliwr safle adeiladu. Gall hyn gymryd hyd at dair blynedd i’w gwblhau.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os ydych chi eisoes wedi gweithio mewn rolau cefnogol mewn timau prosiect, a bod gennych brofiad neu gymwysterau rheoli amlwg, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol am rôl fel arolygydd safle.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel arolygydd safle. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel arolygydd safle: 

  • Llygad craff am fanylion a dull rhesymegol o archwilio safle
  • Sgiliau rheoli prosiectau
  • Sgiliau trefnu da
  • Gallu ymdopi â gweithio mewn mannau uchel.

Cymwysterau


Beth mae arolygydd safle yn ei wneud?

Fel arolygydd safle, gallech chi fod yn: 

  • Cynnal archwiliadau rheolaidd o safleoedd adeiladu
  • Cysylltu â gwahanol adrannau
  • Monitro'r broses adeiladu gyfan
  • Diogelu ansawdd y gwaith
  • Sicrhau y glynir wrth gynlluniau arfaethedig
  • Trefnu cyfarfodydd
  • Rhagweld problemau posibl
  • Sicrhau y glynir wrth ddeddfwriaeth.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel arolygydd safle?

Mae’r cyflog disgwyliedig i arolygydd safle yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall arolygwyr safle sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall arolygwyr safle gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £40,000
  • Gall uwch arolygwyr safle ennill £40,000 - £50,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer arolygwyr safle: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel arolygydd safle, gallech symud ymlaen yn eich gyrfa i fod yn rheolwr contractau, yn rheolwr cydymffurfiaeth neu'n gyfarwyddwr adeiladu.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Arolygydd safle Goruchwylio’r holl waith ar y safle, hwyluso cydweithrediad a monitro’r broses a...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Cyfarwyddwr adeiladu Cyfarwyddwyr adeiladu sy'n gyfrifol am gynllunio a rheoli'r holl weithgareddau y...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080