Facebook Pixel

Arolygydd cyfarpar codi

Mae arolygydd cyfarpar codi yn cynnal archwiliadau hanfodol i sicrhau bod yr offer a’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer codi yn gweithio’n iawn, fel bod modd ymgymryd â phrosiectau adeiladu yn unol â chanllawiau iechyd a diogelwch llym. Os canfyddir bod angen trwsio offer, byddant yn gwneud y gwaith hwnnw neu’n argymell peiriannydd mwy cymwys ar gyfer y gwaith.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

35-40

Sut i fod yn arolygydd cyfarpar codi

Gallwch gwblhau cwrs hyfforddiant i ddod yn arolygydd cyfarpar codi. Dan y canllawiau, gall unrhyw berson medrus â phrofiad gynnal archwiliadau, os oes ganddo ef/hi gymhwyster safonol y diwydiant gan Gymdeithas y Peirianwyr Cyfarpar Codi (LEEA).

Er bod angen cymwysterau penodol ar gyfer y rôl hon, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

I fod yn arolygydd cyfarpar codi, bydd angen i chi ennill cymhwyster safonol y diwydiant gan ddarparwr hyfforddiant arbenigol. Mae Cymdeithas y Peirianwyr Cyfarpar Codi (LEEA) yn gyfrifol am hyfforddi peirianwyr cyfarpar codi newydd, yn ogystal â gosod safonau a darparu gwybodaeth am iechyd a diogelwch. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni sy'n cyflenwi neu'n cynnal cyfarpar codi i gael profiad fel arolygydd cyfarpar codi. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i arolygydd cyfarpar codi mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel arolygydd cyfarpar codi. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel arolygydd cyfarpar codi: 

  • Sylw da i fanylion
  • Gwybodaeth am gyfarpar codi
  • Gallu canfod problemau a chynnig atebion
  • Gwybodaeth ragorol am ofynion iechyd a diogelwch
  • Brwdfrydedd dros beiriannau ac agweddau technegol y maes adeiladu
  • Gallu dysgu am systemau technegol yn gyflym
  • Sgiliau trefnu o safon uchel ac ymrwymiad i’ch gwaith
  • Dealltwriaeth fanwl o beirianneg gyffredinol.

Cymwysterau


Beth mae arolygydd cyfarpar codi yn ei wneud?

  • Ategolion codi cyffredinol, gan gynnwys slingiau cadwyn, slingiau gwe a slingiau rhaffau gwifren
  • Cyfarpar codi a thrin pwrpasol
  • Cyfarpar codi sy’n cael ei weithio â llaw, fel teclynnau codi cadwyni, rhaffau gwifren, peiriannau codi a thynnu, a throliau trawstiau
  • Cyfarpar codi pŵer (gan gynnwys systemau trydanol, niwmatig a hydrolig, winshis pŵer, ac ati, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny)
  • Trawstiau rhedfa a strwythurau craeniau ysgafn
  • Craeniau teithio trydan uwchben
  • Unedau cludo nwyddau ar y môr
  • Archwilio craeniau symudol
  • Ymgymryd â gwaith archwilio a phrofi yn unol â manylebau’r diwydiant, boed hynny ar safleoedd neu mewn gweithdai
  • Cwblhau’r gwaith papur angenrheidiol yn unol â gweithdrefnau penodol a manylebau’r diwydiant
  • Cynorthwyo â gwaith trwsio a gwasanaethu cyfarpar codi lle bo angen
  • Cadw at reoliadau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, ansawdd a diogelu’r amgylchedd
  • Teithio rhwng gwahanol safleoedd a gweithdai i weithio ar ddarnau cyffredin o gyfarpar adeiladu
  • Gweithio mewn amgylchedd swyddfa prysur gan gwblhau gwaith gweinyddol
  • Gwybodaeth ragorol am ofynion iechyd a diogelwch
  • Brwdfrydedd dros beiriannau ac agweddau technegol y diwydiant
  • Gallu dysgu systemau newydd yn gyflym a allai fod yn dechnegol iawn
  • Sgiliau trefnu o safon uchel ac ymrwymiad i’ch gwaith
  • Gwybodaeth dda am dechnegau archwilio a phrofi mewn perthynas â gwahanol fathau o gyfarpar codi
  • Dealltwriaeth fanwl o beirianneg gyffredinol
  • Profiad o ymgymryd â datganiadau dull ac asesiadau risg
  • Sgiliau trefnu personol rhagorol
  • Sylw i fanylion a chywirdeb wrth gwblhau gwaith papur arolygu ac archwilio
  • Gweithio rhwng 35 a 40 awr yr wythnos. Efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi weithio oriau hirach, os bydd angen i chi wneud goramser neu wneud gwaith llanw ar gyfer aelodau eraill o staff

Faint o gyflog allech chi ei gael fel arolygydd cyfarpar codi?

Mae’r cyflog disgwyliedig i arolygydd cyfarpar codi yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall arolygwyr cyfarpar codi sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £30,000
  • Gall arolygwyr cyfarpar codi gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £35,000*
  • Arolygwyr cyfarpar codi hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer arolygwyr cyfarpar codi: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel arolygydd cyfarpar codi, gallech symud i rolau cysylltiedig, fel cynghorydd SHEQ (diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd) wrth i’ch sgiliau a’ch profiad wella.


Dyluniwyd y wefan gan S8080