Facebook Pixel

Arbenigwr gorchudd adeiladau

Mae arbenigwyr gorchudd adeiladau yn gosod ac yn atgyweirio gorchuddion anstrwythurol i adeiladau gan ddefnyddio amryw o ddeunyddiau fel pren, gwydr a metel. Mae dylunio gorchudd adeilad yn faes arbenigol o ymarfer pensaernïol a pheirianneg sy’n deillio o bob maes gwyddor adeiladu a rheoli’r hinsawdd dan do.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£50000

Sut i fod yn arbenigwr gorchudd adeiladau

Mae sawl ffordd o fod yn arbenigwr gorchudd adeiladau. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith. Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg

Er nad oes angen cymwysterau penodol i fod yn arbenigwr gorchudd adeiladau, mae cael TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg yn fanteisiol gan y bydd yn rhaid i chi weithio yn ôl mesuriadau manwl a dilyn cyfarwyddiadau’n ofalus. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallech chi ddilyn prentisiaeth fel gweithiwr gorchudd adeiladau fel man cychwyn ar eich llwybr gyrfa.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gontractwr gorchudd adeiladau i gael profiad ar y safle fel arbenigwr gorchudd adeiladau. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i arbenigwr gorchudd adeiladau mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel arbenigwr gorchudd adeiladau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel arbenigwr gorchudd adeiladau: 

  • Sgiliau cyfathrebu da.
  • Gallu gweithio i fesuriadau manwl gywir
  • Gallu dilyn cyfarwyddiadau’n ofalus
  • Gwybodaeth am ddiogelu adeiladau a chladin
  • Gallu gweithio mewn mannau uchel.

Cymwysterau


Beth mae arbenigwr gorchudd adeiladau yn ei wneud?

Fel arbenigwr gorchudd adeiladau, byddwch yn gyfrifol am ddylunio ac adeiladu systemau gorchudd adeiladau ar draws amrywiaeth o strwythurau, o greu’r cysyniad i’r cam adeiladu. O asesiadau ar y safle a pharatoi dogfennau adeiladu, i wasanaethau rheoli prosiectau yn ystod y cam adeiladu, mae’r rôl yn amrywiol a gall olygu llawer o deithio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Fel arbenigwr gorchudd adeiladau, fe allech chi fod yn: 

  • Astudio cyfarwyddiadau a manylebau cydosod, yn ogystal â chasglu darnau a deunyddiau
  • Gosod cydrannau yn unol â’r lluniadau
  • Cydosod cynnyrch – gosod caledwedd ac unedau gwydr, archwilio i sicrhau ei fod yn ffitio’n gywir, defnyddio deunyddiau selio, gosodion a deunyddiau gorffen
  • Dilysu manylebau drwy fesur ar ôl gorffen cydosod
  • Sicrhau bod yr holl offer yn weithredol 
  • Cynnal amgylchedd gwaith diogel a glân drwy gydymffurfio â gweithdrefnau, rheolau a rheoliadau
  • Cynnal rhestr cyflenwadau drwy wirio stoc er mwyn pennu lefel y stoc a rhagweld y cyflenwadau sydd eu hangen.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel arbenigwr gorchudd adeiladau?

Mae’r cyflog disgwyliedig i arbenigwr gorchudd adeiladau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall arbenigwyr gorchudd adeiladau sydd newydd eu hyfforddi ennill £17,000 - £25,000
  • Gall arbenigwr gorchudd adeiladau hyfforddedig gyda pheth profiad ennill £25,000 - £50,000
  • Arbenigwyr gorchudd adeiladau hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer arbenigwr gorchudd adeiladau: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel arbenigwr gorchudd adeiladau, gallech chi symud ymlaen i swydd rheolwr safle neu amcangyfrifydd. 

Neu, gallech weithio fel ymgynghorydd hunangyflogedig ar brosiectau adeiladu.


Dyluniwyd y wefan gan S8080