Facebook Pixel

Arbenigwr adfer

A elwir hefyd yn -

Arbenigwr adfer amgylcheddol

Mae arbenigwyr adfer yn delio â’r gwaith o asesu, trin a gwaredu halogiad o bridd a dŵr daear. Maent yn dylunio ac yn rhoi cynlluniau gweithredu adferol ar waith i lanhau safleoedd y mae tanwydd, plaladdwyr a metelau trwm ymysg sylweddau eraill yn effeithio arnynt, fel eu bod yn ddiogel ar gyfer y dyfodol.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

40-41

Sut i fod yn arbenigwr adfer

Mae sawl ffordd o fod yn arbenigwr adfer. Gallech ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn arbenigwr adfer i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallwch ddod yn arbenigwr adfer drwy gwblhau gradd mewn pwnc sy’n ymwneud â pheirianneg, adeiladu, priddeg neu wyddor amgylcheddol. 

Ar gyfer gradd israddedig, bydd angen y canlynol arnoch:

  • 5 TGAU (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) ar radd 4 (C) neu uwch, neu gymhwyster cyfatebol
  • 2 - 3 lefel A, neu gyfwerth.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg i’ch helpu i ddechrau ar eich taith i fod yn arbenigwr adfer, fel cwrs Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu gwrs astudiaethau amgylcheddol. Yna gallech benderfynu arbenigo ym maes adfer.

Bydd angen i chi gael 2 TGAU neu fwy ar raddau 9 i 4 (A* i C) neu gymhwyster cyfatebol i gofrestru ar gwrs coleg.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn arbenigwr adfer. Dylai hyn fod yn gysylltiedig ag adeiladu, yr amgylchedd adeiledig neu astudiaethau amgylcheddol, er mwyn i chi allu mynd ymlaen i arbenigo ym maes adfer yn nes ymlaen.

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adfer arbenigol i gael profiad ar safle fel arbenigwr adfer. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel arbenigwr adfer. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel arbenigwr adfer: 

  • Dealltwriaeth o samplu
  • Sgiliau dadansoddi da
  • Ysgrifennu adroddiadau
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.

Cymwysterau


Beth mae arbenigwr adfer yn ei wneud?

Fel arbenigwr adfer, byddwch yn gyfrifol am asesu a lleihau lefelau halogiad mewn pridd a dŵr. Gall y dyletswyddau gynnwys adrodd ar samplau a rhoi cyngor ar atebion effeithiol i lanhau safleoedd sydd wedi cael eu llygru gan sylweddau gwastraff, fel gweddillion cemegol neu ddeunyddiau peryglus. Efallai y byddwch yn cydweithio â daearegwyr amgylcheddol, hydrolegwyr a gwenwynegwyr i ymchwilio i’r dulliau a fydd yn gweithio orau.

Mae swydd arbenigwr adfer yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Casglu ac asesu samplau dŵr daear, gwaddod a dŵr wyneb i wirio’r lefelau halogiad
  • Dewis y systemau adfer mwyaf effeithiol
  • Paratoi adroddiadau i gyfleu'r canfyddiadau
  • Trefnu a goruchwylio contractwyr arbenigol
  • Dylunio a rhoi cynlluniau gweithredu adferol ar waith
  • Asesu halogiad a rhoi cyngor ar sut i’w newid i gyflwr diogel a chyfreithlon y gellir ei ddefnyddio
  • Mesur effaith yn dilyn gwaith adfer a sicrhau bod y safle'n parhau i fod yn ddiogel ac yn cael ei gynnal
  • Gweithio ar safle neu mewn swyddfa.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel arbenigwr adfer?

Mae’r cyflog disgwyliedig i arbenigwr adfer yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall arbenigwyr adfer sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall arbenigwyr adfer hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £45,000
  • Gall uwch arbenigwyr adfer ennill £45,000 - £60,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer arbenigwyr adfer: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel arbenigwr adfer, gallech symud ymlaen i rolau uwch neu sefydlu eich hun fel ymgynghorydd hunangyflogedig.

Gallech symud i faes cysylltiedig a dod yn rheolwr cynaliadwyedd neu reolwr yr amgylchedd.


Dyluniwyd y wefan gan S8080