Facebook Pixel

Adeiladwr dur

Adeiladwyr dur sy’n cydosod fframwaith metel adeiladau neu strwythurau newydd drwy roi trawstiau, pibellau a distiau dur yn sownd yn ei gilydd. Fel adeiladwr dur, byddech chi’n gweithio ar gynlluniau manwl sydd wedi’u creu gan benseiri a pheirianwyr. Mae’n bosibl y bydd eich gwaith yn cael ei wneud ar lwyfannau uchel yn aml.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

47-49

Sut i fod yn adeiladwr dur

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn adeiladwr dur, mae sawl llwybr y gallech eu dilyn i'ch helpu i gychwyn ar yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn adeiladwr dur i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Er nad oes unrhyw ofynion mynediad penodol, byddai unrhyw un sy’n ystyried gyrfa fel adeiladwr dur yn elwa ar ennill cymwysterau TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg.

Gallech astudio ar gyfer Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu neu Ddyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Peirianneg i wella eich gallu a’ch rhagolygon gwaith.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallech gwblhau prentisiaeth ganolradd adeiladwr dur strwythurol neu uwch-brentisiaeth adeiladwr/rigiwr adeiladu peirianyddol.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 2 -3 TGAU, neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth ganolradd)
  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch).

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol ar safle, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael swydd fel adeiladwr dur. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i adeiladwr dur mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel adeiladwr dur. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel adeiladwr dur: 

  • Gwybodaeth am adeiladu
  • Sgiliau meddwl yn rhesymegol
  • Lefel dda o ffitrwydd corfforol
  • Hyderus yn gweithio mewn mannau uchel
  • Ymwybyddiaeth o ganllawiau iechyd a diogelwch
  • Sgiliau da o ran gweithio mewn tîm.

Beth mae adeiladwr dur yn ei wneud?

Mae adeiladwr dur yn gyfrifol am greu’r fframweithiau ‘amlinellol’ ar gyfer prosiectau adeiladu o bob lliw a llun. 

Mae swydd adeiladwr dur yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Adolygu cynlluniau technegol a luniwyd gan benseiri a pheirianwyr
  • Cynllunio'r gwaith o roi’r prosiect at ei gilydd
  • Torri a siapio dur
  • Defnyddio offer llaw a phŵer
  • Gosod a rhoi trawstiau, pibellau a distiau dur yn sownd yn ei gilydd er mwyn gwneud fframwaith dur
  • Defnyddio llwyfannau gwaith uchel a lifftiau siswrn
  • Gosod decin metel
  • Gosod rhwydi diogelwch a rheiliau ymyl
  • Codi a rhoi cydrannau yn eu lle gyda chraeniau tŵr
  • Gosod gwaith dur mewn rhes a’i lefelu cyn ei folltio yn ei le
  • Gweithio ar safle, yn aml mewn mannau uchel.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel adeiladwr dur?

Mae’r cyflog disgwyliedig i adeiladwr dur yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall adeiladwyr dur sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £19,000 - £25,000
  • Gall adeiladwyr dur hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £35,000
  • Gall adeiladwyr dur uwch neu feistr ennill £35,000 - £45,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer adeiladwyr dur: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel adeiladwr dur, gallech symud i faes cysylltiedig fel weldiwr neu osodwr strwythurau dur.

Gyda phrofiad, gallech chi symud ymlaen i swyddi uwch fel goruchwyliwr safle, arweinydd tîm neu reolwr adeiladu.

Neu, gallech ddod yn hyfforddwr, a throsglwyddo eich gwybodaeth a’ch profiad i hyfforddeion.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Adeiladwr dur Gallwch ddod yn adeiladwr fframweithiau ac adeiladu fframweithiau cryf ar gyfer ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Tiwtor Addysg Bellach Gweithiwch gyda disgyblion dros 16 oed i’w helpu i ddysgu’r sgiliau sy’n eu siap...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080