Facebook Pixel

Beth mae hyfforddeiaeth yn ei gynnwys?

Mae hyfforddeiaethau’n ffordd wych o fagu profiad a gwella eich cyflogadwyedd. Rydyn ni wedi edrych o’r blaen ar gyfer pwy yn union y cafodd hyfforddeiaethau eu cynllunio, ond yma gallwch chi weld popeth sydd wedi’i gynnwys os byddwch chi’n penderfynu gwneud un.

Darparu sgiliau hanfodol

Bydd y sgiliau y byddwch yn eu datblygu fel rhan o’ch hyfforddeiaeth yn eich helpu i gael gwell siawns o gael eich swydd ddelfrydol ym maes adeiladu, ond hefyd i wella sgiliau hanfodol ar gyfer y rôl honno. Byddwch yn dysgu technegau a phrosesau dros eich hun, a allai eich gwneud i sefyll allan o flaen yr ymgeiswyr eraill ar gyfer swyddi.  

Cymorth cyflogadwyedd

Bydd hyfforddeiaeth yn cael ei theilwra ar gyfer eich anghenion penodol chi ac yn eich helpu chi i wella eich siawns o gael gwaith ar ôl iddi ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys help i ysgrifennu CV a llythyrau eglurhaol, yn ogystal â pharatoi ar gyfer cyfweliadau.  

Ar ddiwedd eich hyfforddiant, efallai y cynigir cyfweliad i chi am brentisiaeth neu swydd amser llawn. Os nad yw hyn yn bosib, byddwch yn dal i gael cyfweliad ymadael ac adborth ysgrifenedig y gallwch ei ddefnyddio i sicrhau gwaith neu hyfforddiant pellach yn rhywle arall. 

Profiad gwaith ymarferol

Mae hyfforddeiaeth yn rhoi profiad ymarferol i chi o swydd, heb yr ymrwymiad llawn. Gallwch ennill profiad a gweld a yw swydd yn addas i chi, neu feithrin sgiliau y gallwch fynd â nhw gyda chi i’ch rôl nesaf neu eu defnyddio i wneud eich hun yn ymgeisydd mwy dymunol yn ddiweddarach yn eich llwybr gyrfa.  

Cymorth gyda Saesneg a Mathemateg

Mae hyfforddeiaeth hefyd yn opsiwn gwych os nad oes gennych chi lawer o gymwysterau. Os nad oes gennych o leiaf TGAU gradd 4 (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Saesneg a Mathemateg, bydd rhywfaint o'ch hyfforddeiaeth yn digwydd mewn ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn eich helpu i weithio tuag at y cymwysterau hynny a gwella eich sgiliau yn y meysydd penodol hyn. 

Hyfforddiant a mentora

Mae hyfforddiant a mentora yn rhan o hyfforddeiaeth, a fydd yn cael ei deilwra ar gyfer pob hyfforddai unigol. Gallwch ofyn am gymorth mewn meysydd gwaith penodol, neu i wella sgiliau rydych yn teimlo'n llai sicr ohonynt. Mae hefyd yn eich helpu chi, os nad ydych wedi cael profiad, neu ond wedi cael ychydig o brofiad o fod mewn amgylchedd gwaith, i deimlo’n fwy cyfforddus a deall beth yw’r disgwyliadau ohonoch chi.  

Hyfforddiant paratoi at waith

Efallai nad oes gennych chi unrhyw brofiad gwaith eto, neu efallai nad oes gennych chi lawer o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Mae hyfforddeiaeth yn eich paratoi ar gyfer y gweithle, gan ddangos i chi beth yw’r disgwyliadau, a pha sgiliau a phrofiad y mae cyflogwr yn chwilio amdanynt.  

Ble alla i gael rhagor o wybodaeth am hyfforddeiaethau?

Mae gennym ganllaw i hyfforddeiaethau, ond mae adnoddau swyddogol y Llywodraeth ar hyfforddeiaethau, hefyd yn ddefnyddiol, ac yn rhoi trosolwg o'r rheolau a'r rheoliadau cyfredol ar gyfer gwneud cais.  

Gwybod a ydych chi’n gymwys ar gyfer hyfforddeiaeth

Gallwch wneud cais am hyfforddeiaeth os ydych chi: 

  • Yn gymwys i weithio yng Nghymru a Lloegr 
  • Ond wedi cael ychydig o brofiad gwaith, neu ddim o gwbl, ond yn llawn cymhelliant i weithio
  • Rhwng 16 a 24 oed - neu 25 gyda chynllun EHC - ac wedi cymhwyso hyd at lefel 3. 

Ddim yn gymwys ar gyfer hyfforddeiaeth?

Os nad ydych chi’n gymwys ar gyfer hyfforddeiaeth, mae ffyrdd eraill o ddechrau arni yn y diwydiant adeiladu, neu wella eich cyflogadwyedd. Efallai eich bod yn gymwys ar gyfer Lefelau T, cymhwyster technegol dwy flynedd sy’n cyfateb i dri phwnc Safon Uwch, neu’n gallu cael ychydig o brofiad gwaith er mwyn cael profiad hanfodol yn y sector.  

Dysgwch fwy am y mathau o swyddi sydd ar gael i chi ym maes adeiladu, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ac am eich dewisiadau ar gyfer dechrau arni yn y diwydiant.  

Dyluniwyd y wefan gan S8080