Facebook Pixel

Rhaglen waith

Enw’r Gweithgaredd:
Rhaglen waith

Disgrifiad o’r Gweithgaredd:
Mae’r cyfranogwyr yn gweithredu fel tîm cynllunio mewn cwmni adeiladu sydd ar fin adeiladu ysgol newydd.  Eu rôl yw sicrhau bod yr holl dasgau adeiladu’n cael eu cwblhau ar yr adeg iawn fel bod yr adeilad yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen o 47 wythnos. Gan ddefnyddio’r set o Gardiau Tasgau a ddarparwyd, gofynnir i’r cyfranogwyr roi'r cardiau mewn trefn gan ddechrau â’r dasg gyntaf a wnaed ar y safle a gorffen gyda’r dasg olaf cyn trosglwyddo i’r cleient. 

Nod y Gweithgaredd: Rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio mewn timau bach a meddwl yn rhesymegol am gynllunio’r prosiect a’r amserlenni sy’n gysylltiedig â phrosiect adeiladu.

Cynulleidfa (Oedran a Argymhellir): 15 oed -oedolyn

Maint y Grŵp:

  • Dylai’r cyfranogwyr weithio mewn grwpiau/timau bach o 2 -6 o bobl, ond nid oes cyfyngiad ar faint cyffredinol y grŵp
  • Cofiwch y gallai maint cyffredinol y grŵp/cynulleidfa effeithio ar yr amseru
Rhaglen waith

Rhagor o wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd, ewch i Brif Nodiadau Cyflwyno’r Gweithgaredd, sy’n rhoi gwybodaeth am y canlynol:

  • Paratoi a’r Adnoddau y bydd eu hangen arnoch
  • Cysylltiadau â’r Cwricwlwm/ Sector/ Sgiliau Cyflogadwyedd
  • Gweithgareddau Ymestyn
  • Amserlen a Awgrymir

Dogfennau i’w Llwytho i lawr

Llwytho Pob Dogfen i Lawr:

Rhaglen Waith - Pob Dogfen
Maint y ffeil: 5MB

Llwytho’r holl ddogfennau i lawr ar gyfer Rhaglen Waith.

LAWRLWYTHO - Rhaglen Waith - Pob Dogfen
Dyluniwyd y wefan gan S8080