Facebook Pixel

Tetrahedron Enfawr

Enw’r Gweithgaredd:
Tetrahedron Enfawr

Disgrifiad o’r Gweithgaredd:
Mae’r tetrahedron enfawr (pyramid trionglog) yn weithgaredd effeithiol, i greu strwythur 4 metr x 4 metr gan ddefnyddio dim ond hoelbrennau a bandiau elastig. 

Mae’r pwyslais ar waith tîm a gwrando ar gyfarwyddiadau a’u dilyn.  Mae modd cynnwys llawer o rolau yn y diwydiant adeiladu yn y gweithgaredd yn ogystal â’r broses adeiladu, sy’n golygu ei fod yn weithgaredd eglurhaol rhagorol, ac yn llawn hwyl.

Nod y Gweithgaredd: Hyrwyddo amrywiaeth eang o yrfaoedd adeiladu ac agweddau gwahanol ar y broses adeiladu, gan gynnwys: iechyd a diogelwch, gwaith tîm, datrys problemau peirianneg a gweithio o fewn amserlenni.

I’r cyfranogwyr ddefnyddio’r sgiliau allweddol sy’n berthnasol i’r diwydiant adeiladu e.e. cydweithredu, cyfathrebu, datrys problemau, cynllunio.

 

Cynulleidfa (Oedran a Argymhellir):

  • 11 - Oedolion
  • Yn Cynnwys Dylanwadwyr e.e. athrawon, cynghorwyr gyrfaoedd
Tetrahedron Enfawr

Maint y Grŵp: Gall cyfranogwyr weithio mewn grwpiau bach/timau o 2 - 4 o bobl, ond nid oes cyfyngiad ar faint cyffredinol y grŵp.

Rhagor o wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd, ewch i Daflen Flaen y Gweithgaredd, sy’n rhoi gwybodaeth am y canlynol:

  • Paratoi a’r Adnoddau y bydd eu hangen arnoch
  • Cysylltiadau â’r Cwricwlwm/ Sector/ Sgiliau Cyflogadwyedd
  • Gweithgareddau Ymestyn
  • Amserlen a Awgrymir

Dogfennau i’w Llwytho i lawr

Llwytho Pob Dogfen i Lawr:

Tetrahedron Enfawr – Pob dogfen
Maint y ffeil: 1MB

Llwythwch yr holl ddogfennau i lawr ar gyfer y Gweithgaredd Tetrahedron Enfawr.

LAWRLWYTHO - Tetrahedron Enfawr – Pob dogfen
Dyluniwyd y wefan gan S8080